Nodwch, bydd maes parcio Stryd y Dug yn Aberdâr yn ailagor yfory ar ôl gosod wyneb newydd, sef elfen olaf cynllun gwella mawr.
Dechreuodd y Cyngor waith yn gynnar ym mis Medi 2025 er mwyn gwella mynediad i gerddwyr a draeniau, yn ogystal â gosod wyneb newydd ar ardal gyfan y maes parcio. Mae hyn wedi cynnwys cael gwared ar y gwaith bloc presennol. Cafodd rhai o'r blociau presennol eu gosod bron i 30 o flynyddoedd yn ôl – ac roedd llawer ohonyn nhw wedi dod yn rhydd neu wedi dechrau suddo.
Cafodd llawer o'r gwaith ei gynnal wrth barhau i gadw'r maes parcio ar agor, ond caewyd y cyfleuster yr wythnos diwethaf er mwyn cynnal y gwaith gosod wyneb newydd.
Mae modd i'r Cyngor gadarnhau y bydd maes parcio Stryd y Dug yn ailagor ddydd Iau 20 Tachwedd.
Diolch i drigolion ac ymwelwyr ag Aberdâr am eich cydweithrediad yn ystod y ddau ddiwrnod ychwanegol ar ddiwedd cyfnod y gwaith, o ganlyniad i golli amser yn ystod y rhybudd tywydd ambr (Storm Claudia) yr wythnos diwethaf.
Er bod y cynllun cyffredinol wedi'i gwblhau i raddau helaeth, mae'n bosibl y bydd defnyddwyr y maes parcio'n gweld rhywfaint o fân waith yn cael ei gynnal dros yr wythnosau nesaf – ond fydd hyn ddim yn cael effaith ar ddefnydd y cyfleuster.
Mae'r cynllun wedi'i gyflawni trwy ddefnyddo cyllid rhaglen gyfalaf barhaus y Cyngor, ac mae wedi sicrhau bod y maes parcio poblogaidd yma yng nghanol y dref yn parhau i fod ar gael yn y dyfodol.
Diolch i drigolion, busnesau ac ymwelwyr â chanol y dref am eich cydweithrediad yn ystod y gwaith.
Wedi ei bostio ar 19/11/2025