Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf, ar y cyd â Chymdeithas Cydfilwyr Aberdâr, yn ariannu ac yn trefnu gorymdaith a gwasanaeth ar gyfer Canmlwyddiant y Senotaff yn Aberdâr, i'w gynnal ddydd Sul 25 Mehefin.
Bydd yr achlysur, sy'n dechrau am 10am, yn cynnwys gorymdaith drwy Aberdâr. Bydd gwasanaeth yn dilyn am 10.30am wrth Senotaff Aberdâr, gyda'r siaradwr gwadd Roy Noble.
Ar ôl y gwasanaeth, bydd perfformiadau gan Fand Tylorstown, Dare to Sing, Côr Meibion Cwm-bach a Lleisiau Cwmdâr o 12.30pm yn Sgwâr y Llyfrgell (Y Stryd Las).
Meddai Dirprwy Arweinydd y Cyngor a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, y Cynghorydd Webber:
“Mae Senotaff Aberdâr yn eiconig ac mae ganddo stori anhygoel. Mae’n ganolbwynt i bawb yn y gymuned ddod at ei gilydd i gofio’r rhai a wnaeth yr aberth eithaf.
Rydw i’n annog pawb i ddod i’r achlysur yma. Bydd y seremoni'n cofio ac yn dathlu bywydau'r sawl a fu farw ac yn diolch iddyn nhw.
Hoffwn ddiolch i staff y Cyngor am eu gwaith yn trefnu’r achlysur yma, yn hwyluso’r gwaith cau ffyrdd ac yn darparu’r seilwaith i’r gymuned allu dod at ei gilydd.
Mae’r Senotaff wedi sefyll ers 100 mlynedd, ac yn y cyfnod hwnnw, mae wedi bod yn ganolbwynt i gofio’r rhai rydyn ni wedi’u colli mewn gwrthdaro ers y Rhyfel Byd Cyntaf. Byddwn ni'n ddiolchgar am byth i bob un a enwir.
Yn angof ni chânt fod."
Adeiladwyd Senotaff Aberdâr i gofio tua 700 o filwyr yr ardal a ymladdodd ac a fu farw yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf (1914-1918).
Fe’i ddadorchuddiwyd ym mis Mawrth 1923, a dywedwyd bod 20,000 o bobl yn bresennol, gan gynnwys 200 o gyn-filwyr. Tynnwyd baner Jac yr Undeb i ddadorchuddio’r senotaff gan Syr David Llewellyn gyda chymorth bachgen amddifad, Scout Wiltshire, a oedd yn gwisgo medalau ei dad a fu farw.
Er ei fod wedi'i gyflwyno'n wreiddiol i'r rhai a fu farw yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, mae'r Senotaff wedi'i ddefnyddio'n ddiweddarach i gofio'r rhai a wnaeth yr aberth eithaf yn yr Ail Ryfel Byd ac mewn gwrthdaro dilynol.
Wedi ei bostio ar 21/06/23