Skip to main content

Sesiynau beicio cydbwysedd am ddim ym Mharc Wattstown

wattstown balance bike park

Bydd y Cyngor yn darparu hyfforddiant beicio cydbwysedd AM DDIM yn yr haf i blant 3-5 oed ddysgu sut i ddechrau reidio beic – gyda’r sesiwn gyntaf yn #Wattstown!

Bydd yn cael ei gynnal yn yr ardal beicio cydbwysedd ym Mharc Wattstown (CF39 0HR) ddydd Iau, 3 Awst, ac mae lle i 60 o blant ar draws pedair sesiwn drwy gydol y dydd.

Bydd y cyfle gwych yma'n helpu'r plant i ddysgu sgiliau sylfaenol a dod yn fwy hyderus ar eu beic. Mae croeso i blant sydd heb feicio o'r blaen!

Bydd yr holl offer sydd eu hangen i gymryd rhan, gan gynnwys y beiciau cydbwysedd a helmedau, yn cael eu darparu ar y diwrnod.

Rydyn ni'n rhagweld galw mawr ac felly mae rhaid i rieni sydd eisiau i’w plentyn gymryd rhan gadw lle ymlaen llaw – yma.

Bydd amserau sesiynau'n cael eu dyrannu mewn proses deg, ar sail y cyntaf i'r felin.

Peidiwch â phoeni os nad ydych chi ar gael ar y dyddiad yma, gan ein bod ni'n bwriadu trefnu rhagor o ddiwrnodau hyfforddi beicio cydbwysedd yn ystod gwyliau'r haf.

Cadwch lygad ar ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol am unrhyw sesiynau ychwanegol.

Wedi ei bostio ar 20/06/2023