Mae'r Cyngor wedi sicrhau cyllid sylweddol gan grant Llwybrau Diogel mewn Cymunedau Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023/24. Bydd hyn yn galluogi i ni fwrw ymlaen â chynlluniau allweddol er mwyn gwella cyfleusterau yn Hirwaun a Phentre'r Eglwys eleni.
Mae cynlluniau Llwybrau Diogel mewn Cymunedau yn becyn o fesurau i wella hygyrchedd a diogelwch o fewn cymunedau, ger ysgolion yn benodol. Mae'r gwelliannau yn ceisio annog pobl i gerdded a beicio pob taith fer, gan ddarparu amgylchedd mwy diogel i wneud hynny. Bob blwyddyn, mae Awdurdodau Lleol yn cael eu gwahodd i ymgeisio am gyllid gan Lywodraeth Cymru i gynorthwyo â darpariaeth cynlluniau sydd ar gyfer cymunedau'n benodol.
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gyllid ar gyfer 2023/24, ddydd Iau, 15 Mehefin. Mae e wedi dyrannu £742,350 i Gyngor Rhondda Cynon Taf ar gyfer y cynlluniau canlynol:
- Cynllun Llwybrau Diogel mewn Cymunedau Hirwaun (£352,350) - bydd blwyddyn gyntaf y cynllun yma'n darparu mesurau arafu traffig, cyfleusterau gwell i gerddwyr (gan gynnwys ymylon palmant wedi'u gostwng) a llwybrau troed newydd. Mae'n cynnwys menter 'WOW' er mwyn annog plant a rhieni i gerdded i'r ysgol. Yn rhan o’r gwaith eleni, bydd y Cyngor hefyd yn cyflawni astudiaeth ddichonoldeb er mwyn cyflwyno croesfannau i gerddwyr wedi'u rheoli drwy'r pentref - fydd yn gallu cael eu darparu'r flwyddyn nesaf gan ddibynnu ar gyllid.
- Cynllun Llwybrau Diogel mewn Cymunedau Pentre'r Eglwys (£340,000) - bydd y cynllun yma'n gwella sawl llwybr cerdded allweddol sy'n cael eu defnyddio gan bobl i gael mynediad at gyfleusterau lleol, yn ogystal â diweddaru cyfleusterau i gerddwyr ar groesfannau allweddol drwy'r pentref. Bydd yn cyflwyno menter 'WOW' er mwyn annog plant a rhieni i gerdded i Ysgol Gynradd Llanilltud Faerdref.
- Astudiaeth ddichonoldeb Strydoedd Ysgol (£50,000) - bydd y gwaith yma'n nodi safleoedd ysgol pellach ledled Rhondda Cynon Taf a allai gymryd rhan ym menter Strydoedd Ysgol yn y dyfodol.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: "Rwy'n falch iawn fod y Cyngor wedi sicrhau mwy na £740,000 er mwyn bwrw ymlaen â rhagor o gynlluniau Llwybrau Diogel mewn Cymunedau, er mwyn creu amgylchoedd cerdded a beicio mwy diogel mewn rhagor o'n cymunedau lleol. Rydyn ni'n croesawu cymorth parhaus Llywodraeth Cymru yn dilyn dyraniad cyllid y llynedd sydd wedi ein galluogi ni i ddarparu gwelliannau i gerddwyr ym mhob rhan o Lanilltud Faerdref dros y misoedd diwethaf.
"Mae cynlluniau tebyg wedi cael eu darparu yn Llwynypia, Abercynon, Llantrisant, Cilfynydd a Thon Pentre dros y blynyddoedd diwethaf, wrth inni barhau i annog rhagor o bobl i gerdded a beicio o ddydd i ddydd - yn hytrach na gyrru. Bydd hyn yn helpu'r amgylchedd, yn gwella iechyd a lles pobl, yn lleihau'r traffig sydd ar ein ffyrdd ac yn lleihau amseroedd teithio.
"Bydd y cyllid ar gyfer 2023/24 yn galluogi’r cynllun ar gyfer eleni i ddarparu llwybrau cerdded allweddol ac uwchraddio'r cyfleusterau i gerddwyr ym Mhentre'r Eglwys. Bydd y cyllid hefyd yn hwyluso cam cyntaf y buddsoddiad yn Hirwaun, er mwyn uwchraddio cyfleusterau i gerddwyr a gwella llwybrau troed - fydd yn cael ei ddilyn gan ail gam o waith y flwyddyn nesaf, gan ddibynnu ar gyllid. Bydd y ddau gynllun yn canolbwyntio ar sefydlu llwybrau mwy diogel i gerddwyr o amgylch ysgolion, er mwyn annog teuluoedd i gerdded yno bob dydd. Bydd y cyllid hefyd yn galluogi astudiaeth ddichonoldeb ehangach er mwyn llywio gwelliannau posib yn y dyfodol mewn cymunedau eraill yn Rhondda Cynon Taf.
"Bydd swyddogion yn bwrw ymlaen â’r tair elfen sydd ynghlwm â’r cyllid nawr. Byddwn ni'n diweddaru preswylwyr am drefniadau'r cynlluniau yn Hirwaun a Phentre'r Eglwys. Bydd y gwaith o ddarparu'r gwelliannau yma'n dechrau'n ddiweddarach eleni."
Wedi ei bostio ar 15/06/2023