Mae'r Cyngor wedi sicrhau cyllid gwerth £3.43 miliwn ar gyfer Teithio Llesol gan Lywodraeth Cymru yn 2023/24 – sy'n cynnwys buddsoddi yn llwybr Teithio Llesol Rhondda Fach, gan greu llwybr ffurfiol yng Nghwm-bach a'r Trallwn, ac amnewid pont Glan-yr-afon yn Llwydcoed.
Mae cyfanswm o £3,433,700 wedi'i ddyfarnu i Rondda Cynon Taf o'r gronfa Teithio Llesol, sy'n cwmpasu'r flwyddyn ariannol bresennol. Mewn cyhoeddiad diweddar ar wahân, mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cadarnhau bod £384,290 wedi'i ddyfarnu i'r Cyngor yn y Gronfa Trawsnewid Cerbydau Allyriadau Isel Iawn (ULEV). Mae crynodeb o'r dyraniadau cyllid wedi'i gynnwys isod:
Cronfa Teithio Llesol (2023/24) – £3,433,700
- Dyraniad Craidd (£1.05 miliwn), yn darparu cyllid ar gyfer y meysydd canlynol:
- Llwybr Teithio Llesol Rhondda Fach, camau 3, 4 a 5 (Glynrhedynog i dref Tylorstown)
- Sefydlu llwybr teithio llesol ffurfiol trwy Gwm-bach
- Llwybr Taith Taf rhwng Pont Nant-Cae-Dudwg a'r Trallwn.
- Monitro a hyrwyddo Map Integredig Teithio Llesol
- Gwelliannau yng nghanol trefi Aberdâr a Phontypridd.
- Llwybr Teithio Llesol rhwng Treorci a Threherbert.
- Llwybr Cyswllt Taith Cynon yn Ffordd Abertawe yn Hirwaun
- Cysylltiadau amrywiol ym Mhentre'r Eglwys
- Llwybr Teithio Llesol rhwng Tonysguboriau a Llanharan
- Gwelliannau i Lwybr Taith Taf a gwaith adlinio yn y Trallwn
- Cysylltiadau a Gwelliannau Llwybr Cyswllt Taith Cynon (£443,700):
- Amnewid pont Glan-yr-afon yn Llwydcoed
- Llwybr Teithio Llesol Rhondda Fach (£1.94 miliwn):
- Cyllid llawn ar gyfer camau 1 a 2 (Maerdy i dref Glynrhedynog).
Cronfa Trawsnewid Cerbydau Allyriadau Isel Iawn (2023/24) – £384,290
- Ail Gam y Gronfa Trawsnewid Cerbydau Allyriadau Isel Iawn (£299,290):
- Bwrw ymlaen â nifer o weithgareddau allweddol gan gynnwys gwerthusiadau safle, astudiaethau dichonoldeb mewn lleoliadau arfaethedig ar gyfer gwefru cyflym a chyflym iawn, darparu lleoliadau cyrchfannau a hybiau, a chyflogi rolau prosiect.
- Mynediad at y gwasanaeth mewnwelediadau a Strategaeth Cerbydau Trydan Cenedlaethol (£85,000):
- Rhondda Cynon Taf fydd yr awdurdod cynnal ar gyfer pob un o'r 22 Awdurdod Lleol yng Nghymru.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: "Rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru wedi dyrannu mwy na £3.8 miliwn i Rondda Cynon Taf. Mae hyn yn ein galluogi ni i barhau i fuddsoddi mewn meysydd allweddol, megis Teithio Llesol ac isadeiledd Cerbydau Allyriadau Isel Iawn. Rydyn ni'n croesawu'r cymorth parhaus yma, a fydd yn ein galluogi i wneud cynnydd pwysig yn ystod y flwyddyn ariannol bresennol.
"Mae hyrwyddo cerdded a beicio yn rhan o arferion bob dydd pobl yn faes buddsoddi sy'n parhau i gael blaenoriaeth, a hynny i wella iechyd a lles pobl, lleihau nifer y cerbydau sydd ar y ffyrdd, ac amddiffyn yr amgylchedd. Mae'n agwedd bwysig ar nodau ac ymrwymiadau Newid yn yr Hinsawdd y Cyngor.
“Bydd y cyllid newydd gwerth £3.4 miliwn yn darparu cynlluniau allweddol ar draws y Fwrdeistref Sirol – gan gynnwys pum cam cyntaf llwybr Teithio Llesol Rhondda Fach o’r Maerdy i dref Tylorstown. Bydd hyn yn ategu cynlluniau yn y dyfodol i ddefnyddio safle tirlithriad presennol Tylorstown yn rhan o’r llwybr Teithio Llesol ehangach. Bydd y llwybr yn cynyddu cyfleoedd cerdded a beicio i gymunedau lleol.
“Yn gynharach eleni, ymgynghorodd y Cyngor â thrigolion ar ei gynigion i ffurfioli llwybr presennol Taith Taf yn y Trallwn – i wella diogelwch i ddefnyddwyr, gwneud y llwybr yn haws i’w ddilyn i bobl nad ydyn nhw'n gyfarwydd â’r ardal, a hyrwyddo mynediad i gymunedau ac atyniadau cyfagos. Ymgynghorwyd hefyd â thrigolion ynghylch adnewyddu pont Glan-yr-afon yn Llwydcoed yn 2022 – ac rwy’n falch bod modd i'r ddau gynllun symud yn eu blaenau eleni.
“Mae cynlluniau allweddol eraill i dderbyn cyllid yn cynnwys darparu’r elfen ‘goll’ o’r llwybr presennol drwy Gwm-bach, darparu cyswllt allweddol ar gyfer Llwybr Cynon yn Hirwaun, sefydlu llwybr teithio llesol rhwng Tonysguboriau a Llanharan, a chynlluniau wedi’u targedu yng nghanol trefi Aberdâr a Phontypridd.”
Wedi ei bostio ar 27/06/2023