Skip to main content

Caniatâd cynllunio wedi ei roi ar gyfer cynllun atgyweirio'r Bont Tramiau Haearn

Iron Tram bridge artist impression 3 - Copy

Mae'r Cyngor wedi derbyn caniatâd cynllunio ar gyfer ei gynllun atgyweirio diwygiedig i'r Bont Tramiau Haearn ger Tresalem – gan alluogi'r gwaith o adfer yr Heneb Gofrestredig i ddechrau'r haf yma.

Mae'r Cyngor hefyd wedi derbyn Caniatâd Heneb Gofrestredig ar gyfer y cynllun, a fydd yn galluogi gwaith i ddechrau ar y safle ym mis Gorffennaf, i'w gwblhau erbyn diwedd 2023.  

Trafododd y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu gais cynllunio'r Cyngor ddydd Iau 22 Mehefin i wneud newidiadau ac i adfer y strwythur Rhestredig Gradd II. Roedd y bont mewn cyflwr gwael cyn iddi gael ei difrodi ymhellach yn ystod Storm Dennis (mis Chwefror 2020). Mae'r Cyngor yn gweithio’n agos gyda Cadw, ac mae’r gwaith o adfer y bont yn gymhleth iawn i gadw ei harwyddocâd diwylliannol. 

Cafodd y bont wreiddiol ei hadeiladu yn y 1800au cynnar a chafodd ei chynhyrchu gan Ffowndri Aber-nant i gludo'r dramffordd i Drecynon. Mae bellach â Hawl Tramwy Cyhoeddus dros Afon Cynon ger cylchfan Stryd Meirion ar yr A4059.

Yn dilyn Storm Dennis, cafodd y bont ei symud i ddechrau ar y cynllun atgyweirio ar ôl i Ganiatâd Heneb Gofrestredig gael ei roi i ddechrau. Serch hynny, ar ôl ei harolygu'n fanylach oddi ar y safle, roedd contractwr arbenigol o'r farn bod cyflwr y bont yn waeth na'r disgwyl. Ym mis Mawrth 2023, cyhoeddodd y Cyngor mai Walters Ltd yw'r contractwr sydd wedi'i benodi i gynnal y cynllun atgyweirio diwygiedig.

Ddydd Iau, cytunodd y pwyllgor cynllunio gydag argymhellion y swyddogion i gadarnhau'r cais ar gyfer y cynllun ar ei newydd wedd. Nododd adroddiad gan swyddogion y bydd y cynllun yn adfer y bont yn sympathetig, yn cadw cymeriad y safle, yn cefnogi treftadaeth a thwristiaeth, ac yn gwella cysylltedd yn lleol.

Mae'r cais ar gyfer strwythur hybrid y credir mai dyma'r ateb hirdymor mwyaf priodol ar gyfer y bont. Bydd yn adfer bron pob elfen o'r strwythur gwreiddiol, gan eu caniatáu nhw i gael eu harddangos fel roedd y bwriad gwreiddiol. Bydd elfennau modern yn cael eu defnyddio i sicrhau hirhoedledd a chadwraeth i'r strwythur.

Bydd y trawstiau haearn bwrw gwreiddiol a'r platiau dec yn cael eu hadfer. Bydd tair ffrâm adeileddol sy'n dal pwysau yn cael eu hychwanegu i drosglwyddo'r dec i ffwrdd o'r trawstiau. Bydd y rhain yn cael eu paentio'n ddu i gyd-fynd â'r elfennau gwreiddiol. Bydd y trawstiau yn cael eu hadfer, ynghyd â'r rheilen law gyda marc y gwneuthurwr arno. Bydd bachau plât dec yn cael eu cysylltu â'r trawstiau fel nodwedd esthetig. Fydd yr ategweithiau ddim yn cael eu newid llawer, gyda pheth gwaith carreg yn cael ei dynnu i wneud lle i'r elfennau strwythurol newydd. Bydd parapetau yn cael eu cynnwys ar ben pob ategwaith.

Bydd y cynllun hefyd yn cynnwys gosod trawst amddiffyn rhag gwrthdrawiad a fydd yn sefyll ar ei ben ei hun i fyny'r afon o'r bont, i atal gwrthrychau rhag taro'r strwythur.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: “Mae sicrhau caniatâd cynllunio llawn i addasu ac adfer y Bont Tram Haearn mewn modd sympathetig yn garreg filltir bwysig. Roedd y bont mewn cyflwr gwael cyn i dywydd digynsail Storm Dennis achosi difrod pellach – ac mae’r Cyngor yn parhau i fod wedi'i ymrwymo i fuddsoddi yn y gwaith o adfer yr Heneb Gofrestredig fel strwythur diwylliannol-arwyddocaol a hanesyddol yn y gymuned.

"Mae'r caniatâd cynllunio ar gyfer cynllun diwygiedig, a gafodd ei ailddylunio yn unol â chyngor contractwyr arbenigol yn dilyn archwiliad ar ôl i'r bont gael ei symud. O ganlyniad, mae'r broses wedi cymryd yn hirach na'r disgwyl, ond mae'n bwysig cael y cynllun yma'n iawn i ddiogelu hanes y strwythur.

"A ninnau wedi derbyn caniatâd cynllunio iawn a Chaniatâd Heneb Gofrestredig bellach, mae swyddogion wrthi'n paratoi fel bod modd i'r gwaith fynd rhagddo ar y safle yn ystod yr wythnosau nesaf. Bydd trigolion yn cael gwybod yr union ddyddiad cychwyn a threfniadau'r safle yn fuan, a'r nod yw cwblhau'r cynllun yn ddiweddarach eleni.

“Mae cyllid ar gyfer y cynllun yma wedi’i gynnwys yn rhan o raglen fawr o waith atgyweirio o ganlyniad i Storm Dennis yn 2023/24, y mae Llywodraeth Cymru yn ei chefnogi gyda buddsoddiad sylweddol. Y cynlluniau eraill sy'n mynd rhagddynt gan ddefnyddio’r cyllid yma yw Pont Castle Inn yn Nhrefforest, Heol Berw (Pont Wen) ym Mhontypridd, Pont Droed y bibell gludo yn Abercynon, a Phont Droed Tynybryn yn Nhonyrefail.”

Wedi ei bostio ar 26/06/2023