Yn ddiweddar mae Arweinydd y Cyngor ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Seilwaith a Buddsoddi, y Cyng. Andrew Morgan OBE, wedi ymweld â safle Pont y Castell Trefforest.
Cafodd y bont ei difrodi yn ystod Storm Dennis ac felly'n cael ei dymchwel. Bydd pont barhaol newydd yn cael ei chodi yr haf yma.
Bydd y cynllun yn adfer y cyswllt cymunedol rhwng Stryd yr Afon a Heol Caerdydd gyda strwythur newydd sy'n addas i'r diben. Dyma gam i wella amddiffynfeydd rhag llifogydd yn yr ardal yma.
Roedd y contractwr Knights Brown wedi rhoi diweddariad i'r Cyng. Morgan yn ystod yr ymweliad, gan nodi'r cynnydd sydd wedi cael ei wneud ers dechrau’r gwaith ym mis Ebrill 2023.
Mae'r gwaith wedi cynnwys cwblhau angorau daear gwaith, gyda gwaith i ddymchwel bwa dwyreiniol y bont, gosod cladin cerrig i wal hyfforddi a chloddio'r ategwaith dwyreiniol wedi dechrau.
Yn y dyfodol bydd gwaith i ddymchwel y prif fwa a'r bwa gorllewinol, adeiladu sylfeini ategion a gwaith sgwrio – cyn gosod y bont newydd.
Mae'r Cyngor wedi gweithio'n agos â Cadw yn ystod y gwaith i sicrhau bod hanes y bont yn cael ei gadw, gan nodi yn y cofnod hanesyddol am y newidiadau i'r bont restredig.
Bydd archeolegwyr yno yn ystod camau allweddol y cam dymchwel, er mwyn iddyn nhw nodi manylion allweddol am sut cafodd y bont ei hadeiladu'n wreiddiol.
Wedi ei bostio ar 02/06/2023