Skip to main content

Cynnig ar gyfer ysgol arbennig newydd i symud ymlaen i'r cam ymgynghori

Mae'r Cabinet wedi derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf am y broses o sefydlu ysgol arbennig newydd ar gyfer Rhondda Cynon Taf, i ymateb i'r pwysau presennol a'r pwysau a ragwelir o ran capasiti. Cytunwyd ar ymgynghoriad statudol i ddechrau ar gam nesaf y broses ffurfiol.

Yn ei gyfarfod ddydd Mercher, 28 Mehefin, trafododd Aelodau'r Cabinet adroddiad sy'n ceisio cymeradwyaeth ffurfiol i ddechrau'r ymgynghoriad gofynnol â rhanddeiliaid allweddol i sefydlu ysgol arbennig 3-19 newydd. Bydd yr ymgynghoriad yn cael ei gynnal rhwng mis Gorffennaf a mis Medi 2023, a bydd yr adborth a ddaw i law yn cael ei gasglu ynghyd a'i gyflwyno mewn adroddiad i'r Cabinet yn y dyfodol.

Mae adroddiadau blaenorol i'r Cabinet wedi tynnu sylw at y pwysau y mae ysgolion arbennig lleol yn eu hwynebu, wrth i nifer y dysgwyr gynyddu a'u hanghenion ddod yn fwy cymhleth. Ers mis Chwefror 2021, mae nifer y disgyblion wedi cynyddu 94. Erbyn hyn, mae 670 o ddisgyblion ar draws yr ysgolion arbennig yn Ysgol Arbennig Maesgwyn yng Nghwmdâr, Ysgol Arbennig Lôn y Parc yn Nhrecynon, Ysgol Hen Felin yn Ystrad, Ysgol Tŷ Coch yn Nhon-teg a Buarth y Capel yn Ynys-y-bwl.

Mae pob opsiwn a dewis amgen i ymestyn y lleoliadau ysgol presennol wedi'u harchwilio, a'r unig opsiwn ymarferol yw adeiladu ysgol arbennig 3-19 newydd ar safle newydd. Byddai hyn yn helpu i fodloni a rheoli'r galw am leoedd yn well, a lleihau'r angen am leoliadau y tu allan i'r sir i ddisgyblion. Byddai ysgol newydd yn sicrhau bod modd i'r Cyngor gyflawni ei rwymedigaethau yn unol â Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru).

Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg, Cyfranogiad Pobl Ifainc a'r Gymraeg: "Mae'r Cabinet wedi derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf ar y broses o sefydlu ysgol arbennig 3-19 newydd ar gyfer Rhondda Cynon Taf – a fyddai'n cynrychioli buddsoddiad gwerth £53.4 miliwn ar y cyd â Llywodraeth Cymru. Mae’r Aelodau wedi cytuno i symud y broses ymlaen i'r cam statudol nesaf, a fydd yn golygu ymgynghori â rhanddeiliaid allweddol yn ystod y misoedd sydd i ddod.

"Dros y misoedd diwethaf mae swyddogion wedi cynnal prosesau i asesu sut orau i ymateb i'r galw cynyddol ar ein hysgolion arbennig yn well. Derbyniodd y Cabinet ddiweddariad ar y dadansoddiad casglu data diweddaraf ym mis Medi 2022, a ddangosodd nifer gynyddol o ddisgyblion ag anghenion cymhleth sydd angen cymorth a chymarebau staffio uwch.  Roedd hyn yn wir ar gyfer pob ysgol, ac yn arbennig yn Ysgol Hen Felin ac Ysgol Tŷ Coch.

"Mae gwaith pwysig wedi mynd rhagddo i wneud y mwyaf o bob safle ysgol presennol. Cafodd adeilad newydd ei ddarparu yn Ysgol Hen Felin – tra bod Ysgol Tŷ Coch, Ysgol Lôn y Parc ac Ysgol Maesgwyn naill ai yn y broses o gael eu hailfodelu, neu wedi'u hailfodelu. Mae Buarth-y-capel hefyd wedi cael estyniad. Mae’n amlwg bod cyfyngiadau ar bob safle, ac y byddai creu ysgol arbennig 3-19 newydd sbon yn helpu i leddfu’r pwysau yn ymwneud â chapasiti. Byddai hefyd yn lleihau'r angen am leoliadau annibynnol a lleoliadau y tu allan i'r sir ar gyfer ein pobl ifainc.

“Mae gan yr ysgol newydd arfaethedig gefnogaeth Llywodraeth Cymru yn ei Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu (Band B). Mae gan y Cyngor enw da am greu amgylcheddau ysgol modern drwy'r ffrwd cyllid yma, gan ddarparu cyfleusterau o'r radd flaenaf y mae ein pobl ifainc yn eu haeddu. Byddai'r ysgol arbennig 3-19 newydd ar gyfer Rhondda Cynon Taf yn cynnwys mynediad gwell i gyfleusterau, offer ac adnoddau arbenigol, a byddai modd iddi fodloni'r holl anghenion."

Mae'r Cyngor wedi gwneud cais llwyddiannus yn flaenorol i Lywodraeth Cymru i gynnwys ysgol arbennig newydd o fewn ei gyllid Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu (Band B). Felly, bydd y Cyngor yn derbyn cyfraniad o 75% tuag at gyfanswm costau'r prosiect. Yn ddiweddar, mae'r broses yma wedi cynnwys amrywiad llwyddiannus o gostau i'r Rhaglen Amlinellol Strategol gymeradwy.  

Mae lleoliad yr ysgol newydd wedi’i ystyried yn drylwyr drwy broses arfarnu safle, a’r opsiwn a ffefrir yw safle'r Pafiliynau yng Nghwm Clydach. Dyma'r safle mwyaf addas ac mae'n bodloni'r holl feini prawf. Mae'n lleoliad digonol o ran maint, mae mynediad boddhaol i'r lleoliad ac mae'n gyfle datblygu dichonadwy.

Ym mis Mai 2023, trafododd y Cabinet strategaeth ddrafft a oedd yn nodi cynigion ar gyfer cyfansoddiad swyddfeydd y Cyngor yn y dyfodol. Cafodd ei amlygu yn y strategaeth yma y byddai safle'r Pafiliynau yn cael ei wagio ac y byddai ar gael i'w ddatblygu.

Wedi ei bostio ar 29/06/2023