Penodwyd y Cynghorydd Wendy Lewis yn Faer Rhondda Cynon Taf yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol diweddar y Cyngor. Mae hi wedi dewis pedair elusen ar gyfer ei chyfnod yn y rôl ac mae’n edrych ymlaen at godi ymwybyddiaeth ac arian ar eu cyfer.
Meddai'r Cynghorydd Lewis, Aelod Etholedig Ward Llwynypia, ei bod hi wrth ei bodd i fod yn cymryd yr awenau oddi wrth y Cynghorydd Wendy Treeby, o Aberpennar, a oedd yn Faer yn flaenorol. Mae hi'n edrych ymlaen at ei hamser fel Maer Rhondda Cynon Taf, ac yntau'n lle y mae hi wedi byw drwy gydol ei bywyd.
A hithau wedi'i geni a'i magu yng Nghwm Rhondda, meddai'r Cynghorydd Lewis y bydd hi'n parhau i hyrwyddo'r Fwrdeistref Sirol ar bob cyfle posibl.
Yn drasig, fe gollodd y Cynghorydd Lewis, rheolwr safon prosiectau yn ogystal ag aelod Llafur etholedig o Gyngor Rhondda Cynon Taf, ei gŵr 15 mlynedd yn ôl oherwydd salwch sydyn. Mae gyda hi dri o blant a dau ŵyr, ac mae hi'n falch iawn o bopeth y maen nhw wedi'u cyflawni.
Mynychodd y Cynghorydd Lewis Ysgol Gynradd Alaw ac Ysgol Gymunedol Porth pan oedd hi'n blentyn. Bu ganddi ddiddordeb mawr mewn gwleidyddiaeth erioed a chafodd ei hethol yn Gynghorydd Ward Llwynypia yn 2017.
Ar hyn o bryd, mae'r Cynghorydd Lewis yn is-gadeirydd Pwyllgor Cynllunio a Datblygu’r Cyngor ac mae hi wedi bod yn Arweinydd Cybiau ers 25 mlynedd. Mae hi hefyd yn aelod o’r Sefydliad Masnach Deg a Grŵp 'Dig For Health' yng Nghwm Rhondda.
Ar ôl iddi gael ei phenodi'n Faer Rhondda Cynon Taf, meddai'r Cynghorydd Wendy Lewis: "Mae'n anrhydedd enfawr i mi gael gwasanaethu fel Maer Rhondda Cynon Taf am y flwyddyn i ddod. Rwy'n falch iawn o gynrychioli'r Fwrdeistref Sirol yn y modd yma.
"Rwy'n edrych ymlaen at gwrdd â chymaint o bobl, grwpiau a sefydliadau â phosibl, ac rwy'n gobeithio codi arian ac ymwybyddiaeth angenrheidiol i'm helusennau dethol. Mae pob un ohonyn nhw'n golygu cymaint i mi."
Meddai'r Cynghorydd Lewis bod ei helusennau dethol ar gyfer ei blwyddyn fel Maer Rhondda Cynon Taf yn arbennig iawn ac yn agos at ei chalon. Ei helusennau dethol yw Brain Tumour Research, The Natasha Allergy Research Foundation, Cymdeithas Marw-enedigaethau a Marwolaethau Newyddanedigion (SANDS) a Hope Rescue. Bydd hi hefyd yn cefnogi'r Lluoedd Arfog ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru a fydd yn dod i Rondda Cynon Taf yn 2024.
Cafodd y Cynghorydd Dan Owen-Jones, Aelod Etholedig ar gyfer Ward Dwyrain Tonyrefail, ei benodi'n Ddirprwy Faer Rhondda Cynon Taf yn ystod Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Cyngor ddydd Mercher, 10 Mai. Y Cynghorydd Owen-Jones yw Cadeirydd y corff llywodraethu yn Ysgol Gynradd Trewiliam, Cadeirydd Canolfan Adnoddau Cymuned Capel ac Is-Gadeirydd Parc Sglefrio Tonyrefail.
Wedi ei bostio ar 06/06/2023