Bydd gwaith i adlinio sianel yr afon a thrwsio'r arglawdd rhwng Lôn y Parc a Heol Tynybryn yn Nhonyrefail yn dechrau’n fuan. Yn ogystal â hyn, bydd y cynllun hefyd yn cynnwys ailosod pont droed cyfagos Tyn-y-bryn.
Dechreuodd y gwaith paratoi cyn y prif gynllun yn gynnar ym mis Ebrill 2023 a bydd e'n dod i ben yn fuan. Mae hyn wedi cynnwys creu mynediad dros dro oddi ar yr A4119 yn Nhonyrefail tuag at y prif safle gwaith – lleoliad ar hyd yr Afon Elái rhwng Lôn y Parc a Heol Tynybryn. Bydd y cynllun rheoli traffig sydd wedi bod ar waith ar yr A4119 yn ystod yr wythnosau diwethaf yn dod i ben cyn bo hir.
Bydd y prif gynllun yn dechrau ddydd Sadwrn, 17 Mehefin. Rydyn ni wedi penodi'r contractwr Balfour Beatty i gyflawni'r gwaith. Bydd y cynllun yn trwsio difrod sgwrfa sylweddol wedi'i achosi gan yr Afon Elái, a hynny trwy adlinio sianel yr afon i wella llif y dŵr a lleihau'r risg o erydu.
Er mwyn diogelu eiddo ar Heol Tynybryn a charthffos Dŵr Cymru, bydd cerrig bloc naturiol yn cael eu gosod ar hyd 50 metr o'r arglawdd er mwyn atal erydu. Bydd gwelliannau eraill i'r sianel yn cael eu gwneud trwy osod coredau, sefydlu gollyngfa addas i'r cwrs dŵr y tu ôl i Heol Tynybryn, a gwaith i drwsio'r ceuffos i fyny'r afon o dan yr A4119.
Mewn ardal gyfagos, mae pont droed Tyn-y-bryn yn cynnig cyswllt allweddol ar draws yr afon a llwybr cerdded a beicio lleol rhwng Heol Tynybryn a thanffordd yr A4119. Bydd y bont yn cael ei dymchwel yn ystod y gwaith, a phont droed wedi'i huwchraddio yn cael ei gosod yn ei lle – un sy'n cydymffurfio â'r cynllun teithio llesol ac ar aliniad gwell. Bydd gwaith cysylltiedig yn cael ei gwblhau ar lwybrau troed a goleuadau stryd, tra bydd gwaith tirweddu a gwelliannau ecolegol i ddod yn dilyn y cynllun.
Mae angen cau'r llwybr troed rhwng Lôn y Parc a Heol Tynybryn er mwyn sicrhau diogelwch, a bydd y drefn yma yn ei lle drwy gydol y cynllun - o ddydd Sadwrn, 17 Mehefin.
O ganlyniad, mae'r Cyngor wedi trefnu gwasanaeth bws gwennol lleol rhad ac am ddim a fydd yn cludo trigolion rhwng ochrau'r llwybr troed sydd ar gau. Bydd hyn ar waith rhwng 8am a 6.30pm o ddydd Llun i ddydd Gwener yn ystod y cynllun. Bydd y gwasanaeth cyntaf yn rhedeg fore Llun, 19 Mehefin. Mae manylion llawn y gwasanaeth yma wedi'u cynnwys ar waelod yr hysbysiad yma.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: "Mae'r cynllun allweddol yma yn Nhonyrefail yn cynnwys nifer o elfennau, gan gynnwys adlinio sianel yr afon, trwsio'r arglawdd, gosod pont droed newydd yn Nhyn-y-bryn yn lle'r hen un, a gwaith diogelu amrywiol. Bydd y prif gynllun yn cychwyn yn fuan, a hynny'n dilyn cam rhagarweiniol i greu mynediad i'r gwaith oddi ar yr A4119.
"Mae'r cynllun wedi'i gynnwys yn rhan o'r rhaglen atgyweirio barhaus yn dilyn Storm Dennis, mae Llywodraeth Cymru'n rhoi cymorth gyda'r costau mawr. Mae hyn yn ogystal â'r £4.8 miliwn sydd wedi'u derbyn ar gyfer gwaith lleddfu llifogydd yn rhan o'r rhaglenni Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol a'r Grant Gwaith Graddfa Fach, rhaglenni y mae'r Cyngor yn darparu cyllid cyfatebol ar eu cyfer. Mae'r buddsoddiad hefyd ar wahân i'r £4.45 miliwn sydd ar gyfer strwythurau priffyrdd yn ein Rhaglen Gyfalaf.
"Mae cynlluniau allweddol eraill i drwsio difrod Storm Dennis sydd hefyd yn cael eu rhoi ar waith eleni yn cynnwys dymchwel ac ailosod Pont Castle Inn yn Nhrefforest, a gwaith ar Heol Berw (Y Bont Wen) ym Mhontypridd a Phont Droed y Bibell Gludo yn Abercynon.
"Mae'r gwaith sydd i ddod yn Nhonyrefail yn golygu y bydd gorfod cau'r llwybr troed rhwng Heol Tynybryn a thanffordd yr A4119. Rydyn ni'n deall bod hwn yn gyswllt lleol allweddol, a dyna pam y mae bws gwennol am ddim yn mynd i fod ar waith yn ystod yr wythnos er mwyn i drigolion deithio i'r ochr arall. Bydd y Cyngor yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i drigolion am y cynnydd yn y gwaith a'r trefniadau ar gyfer ailagor y llwybr troed yn nes ymlaen eleni. Diolch ymlaen llaw i'r gymuned am eich cydweithrediad."
Trefniadau Bws Gwennol o ddydd Llun, 19 Mehefin
Bydd y gwasanaeth bws gwennol dros dro yn codi a gollwng trigolion mewn arosfannau bws ar Heol Tynybryn, Stryd Francis, Teras Tylcha Wen, Stryd y Felin, Heol Waunrhydd a Heol Gilfach. Gwasanaeth yn ystod yr wythnos yn unig fydd hwn.
Amseroedd gadael o Heol Tynybryn (tu allan i Tynybryn Stores) – 8am, 8.40am, 9.20am, 10am, 10.40am, 11.20am, 12pm, 12.40pm, 1.20pm, 2pm, 2.40pm, 3.20pm, 4pm, 4.40pm, 5.20pm a 6.00pm
Amseroedd gadael o Stryd y Felin (ger y gyffordd â Lôn y Parc) – 8.20am, 9am, 9.40am, 10.20am, 11am, 11.40am, 12.20pm, 1pm, 1.40pm, 2.20pm, 3pm, 3.40pm, 4.20pm, 5pm, 5.40pm a 6.20pm
Wedi ei bostio ar 15/06/2023