Skip to main content

Diweddariad ar waith tirlithriad Tylorstown wrth i Brif Weinidog Cymru ymweld â'r safle

First Minister visit to Tylorstown

Mae Prif Weinidog Cymru wedi ymweld â safle tirlithriad Tylorstown er mwyn gweld y cynnydd ardderchog sydd wedi mynd rhagddo ers cychwyn ar gam pedwar y cynllun ym mis Ebrill. Mae'r Cyngor hefyd wedi darparu diweddariad llawn ar y gwaith parhaus.

Ymwelodd y Gwir Anrhydeddus Mark Drakeford AS â'r safle ar ochr bryn Llanwynno ddydd Iau, 22 Mehefin. Cafodd ei groesawu gan Arweinydd y Cyngor, y Prif Weithredwr, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Rheng-flaen a chynrychiolwyr ar ran y contractwr, sef Prichard's Contracting o Lantrisant.

Digwyddodd y tirlithriad yn dilyn tair storm ar ddechrau 2020 a chafodd ei achosi gan Storm Dennis ar 16 Chwefror 2020. Achosodd y tirlithriad rwystr ar ddyffryn yr afon, torrodd garthffos, gorchuddiodd bibell ddŵr strategol, llwybr troed a llwybr beicio gyda sawl metr o falurion. Mae'r Cyngor wedi rhoi cynllun pedwar cam ar waith ar y safle. Mae'r gwaith hyd yn hyn wedi cynnwys gwaith clirio yn yr wythnosau ers y tirlithriad (Cam 1).

Cwblhawyd cam dau (atgyweirio'r argloddiau) a cham tri (symud deunydd o'r cwm i safle derbyn ac ailagor llwybrau) ym mis Mehefin 2021 cyn cynnal gwaith ychwanegol yn nhymor yr hydref 2021 er mwyn sefydlogi'r llethr. Derbyniodd y Cyngor ganiatâd cynllunio ar gyfer cam pedwar (adfer y domen bresennol ar y llethr) ym mis Hydref 2022 a dechreuodd y gwaith ym mis Ebrill 2023.

Bydd cam pedwar yn cynnwys symud tua 195,000m3 o ddeunydd o domen uchaf Llanwynno a gwaith draenio a thirlunio. Bydd yr ardal yn cael ei hail-broffilio gan ddefnyddio  35,000m3  o'r deunydd yma er mwyn gwneud y dirwedd yn fwy gwastad. Bydd y broses yn cynnwys symud tua 160,000m3 o ddeunydd ar hyd tramffordd sydd ddim yn cael ei defnyddio i safle derbyn sydd i'r gogledd o 'Old Smokey'. Bydd cam pedwar yn cynnwys gwaith ail-broffilio, draenio a thirlunio'r safle derbyn.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford:“Roedd tirlithriad Tylorstown yn ystod Storm Dennis yn sylweddol ac mae wedi gofyn am raglen waith sylweddol i atgyweirio’r difrod. Roeddwn i'n falch o weld y cynnydd a wnaed o ran gwneud y safle’n ddiogel.  

“Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch tomennydd glo, gan weithio mewn partneriaeth â’n hawdurdodau lleol. Rydyn ni'n darparu £7.8 miliwn ar gyfer y gwaith yn Nhylorstown eleni. Mae hyn yn rhan o becyn gwerth £44.4 miliwn ar gyfer rhaglen waith sydd â'r bwriad o sicrhau bod cymunedau sy’n byw yng nghysgod y tomennydd hyn yn gallu parhau i deimlo’n ddiogel.”

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: "Roeddwn i'n falch iawn o gael ymuno â Phrif Weinidog Cymru ar safle gwaith tirlithriad Tylorstown ddydd Iau ac mae'r cynnydd sydd wedi digwydd yno dros y misoedd diwethaf i'w weld yn glir. Mae'r rhan fwyaf o ddeunyddiau oedd angen eu symud oddi ar ochr y bryn i'r safle dderbyn bellach wedi'u cludo yno, ac mae gwaith tirlunio yn parhau ar y mynydd. Mae'r prosiect yma'n un mawr a hoffwn i ddiolch i'r contractwr am ei waith gwych hyd yn hyn.

"Mae cynnydd da hefyd yn digwydd ar y safle dderbyn sydd wedi'i lleoli yn ardal tomen uchaf Llanwynno. Bydd y deunydd sy'n weddill yn cael ei symud yno dros yr wythnosau nesaf, ac mae rhaglen fawr o waith draenio'n digwydd yno hefyd. Mae'r cynnydd hyd yn hyn yn argoeli'n dda y bydd modd gorffen cam pedwar eleni.

"Mae cynllun adfer Tylorstown yn parhau i fod yn flaenoriaeth i'r Cyngor ac rydyn ni'n ddiolchgar iawn i Lywodraeth Cymru am ariannu'r prosiect trwy'r Grant Diogelwch Tomennydd Glo. Mae hyn ar wahân i'r rhaglen arwyddocaol o waith ers Storm Dennis ar gyfer 2023/24 sy'n elwa o gyfraniad mawr gan Lywodraeth Cymru yn ogystal â'r £4.8 miliwn sydd wedi'i gaffael ar gyfer gwaith lliniaru llifogydd yn rhan o raglenni Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol a Grant Gwaith Graddfa Fach Llywodraeth Cymru.

"Mae'r Cyngor hefyd wedi gwneud cynnydd da wrth recriwtio ar gyfer y Garfan Diogelwch Tomennydd newydd sy'n gyfrifol am reoli tomennydd gwastraff pyllau glo a chwareli. Bydd rhagor o waith recriwtio'n digwydd dros yr haf er mwyn dod o hyd i ragor o aelodau i ymuno â'r garfan.

"Rwy'n edrych ymlaen at weld gweddill gwaith cam pedwar yn Nhylorstown dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf. Mae'r Cyngor dal yn bwriadu defnyddio'r safle yn rhan o lwybr teithio llesol Cwm Rhondda Fach gan ddibynnu ar faint o gyllid sydd ar gael. Byddai hyn yn golygu cynnal gwaith gwella nifer o strwythurau ar hyd y llwybr arfaethedig."

Diweddariad cynnydd ar waith cam pedwar

Yn dilyn proses dendro gystadleuol, dewiswyd cwmni Prichard's Contracting i gynnal gwaith cam pedwar a dechreuodd y gwaith ym mis Ebrill. Mae'r contractwr yn disgwyl gorffen y gwaith eleni ac yn gwneud cynnydd da. Un o'r tasgau cyntaf a gafodd ei chwblhau oedd creu ffordd gludo ar ôl cynnal archwiliadau archeolegol.

Mae'r cwmni wedi gwneud cynnydd mawr o ran y gwaith clirio ers dechrau cam pedwar ym mis Ebrill a bron wedi gorffen symud yr holl ddeunydd o domen uchaf Llanwynno i'r safle dderbyn. Mae dau o blith y tri basn gwanhau sy'n cael eu sefydlu yn y safle dderbyn bron wedi'u cwblhau - mae'r basnau yma'n nodwedd allweddol o'r isadeiledd draenio. Yn ogystal â hyn mae gwaith adeiladu blancedi draenio bellach wedi dechrau.

Mae gwaith ecolegol hefyd wedi dechrau ledled y safle a bydd y contractwr yn parhau i fonitro ecoleg y dirwedd.

Bydd gwaith yn dechrau maes o law ar ffurfio lefelau gorffenedig ar weddill y domen ar ochr y bryn ac yn y safle dderbyn. Bydd rhagor o waith draenio yn digwydd ar y safle rhoddwr gan gynnwys cwblhau blancedi draenio a gosod draeniau saethben, pantiau a gwaith trwsio draeniau. Mae peirianwyr wrthi'n mapio lleoliad ffynhonnau er mwyn sicrhau eu bod nhw'n rhan o'r cynllun terfynol.

Mae'r Cyngor hefyd wrthi'n sefydlu Grŵp Rheoli Tir er mwyn bwrw ymlaen â'r cynllun pum mlynedd ar gyfer y safle. Bydd y grŵp yn ystyried y sylwadau o gyfarfod rhanddeiliaid diweddar wrth iddyn nhw drafod sut i atal cerbydau anawdurdodedig rhag cael mynediad at ochr y bryn.

Wedi ei bostio ar 26/06/2023