Skip to main content

Gwaith yn parhau i fynd rhagddo yn rhan o gynllun atgyweirio'r Bont Wen

White Bridge 1 - Copy

Mae'r Cyngor wedi rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ar gynnydd y cynllun atgyweirio parhaus mawr i Bont Heol Berw (Pont Wen) ym Mhontypridd.

Mae gwaith sylweddol yn parhau y tu ôl i'r llwyfan sgaffaldiau ac o dan y bont - ardaloedd sydd ddim yn weladwy i'r cyhoedd.

Ar hyn o bryd, mae'r gwaith yn canolbwyntio ar y rhan olaf ond un o rychwant canol y bont.

Mae atgyweiriadau concrit wedi'u cwblhau ar gyfer y cam yma o'r gwaith – gan gynnwys cael gwared ar 140m2 o ddeunydd concrit caled ynghyd â 137 o atgyweiriadau strwythurol unigol i'r concrit.

Cyn bo hir bydd trigolion yn sylwi ar weithgarwch wrth i'r contractwr ddechrau ar y gwaith o adeiladu mesurau diogelu rhag sgwrio a sefydlogi arglawdd yn yr afon gan ddefnyddio pontŵn.

Y mis nesaf, rhagwelir y bydd y cynllun yn gallu symud ymlaen i brif gam nesaf y gwaith strwythurol – rhan olaf rhychwant canol y bont.

Bydd y sgaffaldiau'n cael eu tynnu a'u hadleoli i'r adran yma.

Bydd y Cyngor yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf pan fydd y dilyniant i gam nesaf y gwaith wedi'i gwblhau.

Wedi ei bostio ar 23/06/23