Skip to main content

Gwaith ar adeiladau Stryd y Taf wedi cyrraedd y prif gam dymchwel

Marks and Spencer - Copy

Mae gwaith parhaus yn hen adeiladau M&S a Dorothy Perkins yng nghanol tref Pontypridd wedi cyrraedd y prif gam dymchwel. Bydd y rhan fwyaf o'r trefniadau a oedd ar waith yn ystod y misoedd diwethaf yn parhau ar y safle.

Mae Cynllun Creu Lleoedd Pontypridd wedi nodi uchelgeisiau craidd ar gyfer y dref, gan gynnwys 'Porth y De' sy'n golygu y bydd modd datblygu a dechrau defnyddio sawl safle allweddol eto drwy brosiectau cyffrous. Bydd ailddatblygu adeiladau M&S, Dorothy Perkins a Burtons (97-99a a 100-102 Stryd y Taf) yn gyfle i wella'r parth cyhoeddus ac agor y treflun tuag at yr afon.

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid gwerth £1.283 miliwn er mwyn dymchwel yr adeiladau, ac mae hyn yn cyfateb i 70% o'r gost. Dechreuodd y contractwr, Walters Ltd, y gwaith cychwynnol ar y safle ym mis Mawrth 2023 yn datgysylltu gwasanaethau, cael gwared â gosodiadau a ffitiadau a gwahanu ffrydiau gwastraff. Mae'r gwaith paratoi yma bellach wedi'i gwblhau.

Mae wedi derbyn pob caniatâd perthnasol ar gyfer dymchwel yr adeiladau, ac mae gwaith ar y safle wedi cyrraedd y prif gam dymchwel.

Bydd ymwelwyr â chanol y dref yn sylwi ar ragor o waith yn cael ei gynnal i gael gwared â thoeon yr adeiladau. Serch hynny, mae disgwyl i'r lefelau tarfu ar y cyhoedd o ddydd i ddydd fod yr un fath, a hynny gan fod y gwaith yn parhau i gael ei gynnal o fewn palisau diogelwch o amgylch y safle. Bydd angen anfon offer dymchwel arbenigol trwm i'r safle tua 6am ddydd Mercher 21 Mehefin. Does dim disgwyl i hyn darfu llawer.

Mae'r fynedfa i Barc Coffa Ynysangharad yn parhau i fod ar agor, tra bod mesurau diogelwch y safle'n parhau i fod ar waith y tu allan i oriau gwaith arferol. Bydd yr holl wastraff sy'n cael ei symud o’r safle'n parhau i gael ei ailgylchu mewn modd cyfrifol. Bydd palis mwy dymunol yn cael ei osod o amgylch yr ardal waith, fydd yn debyg i safle'r neuadd bingo ac yn cynnwys ffenestri er mwyn edrych i mewn i'r safle.

Bydd y cam dymchwel yma'n cael ei gwblhau erbyn diwedd yr hydref 2023, ac mae Walters Ltd yn parhau i weithio'n galed i sicrhau bod hyn yn tarfu cyn lleied â phosibl ar ganol y dref. Bydd cylchlythyr diweddaraf y contractwr yn cael ei anfon i fusnesau yn fuan.

Meddai'r Cynghorydd Mark Norris, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Ffyniant a Datblygu: "Mae gwaith paratoi hen adeiladau M&S a Dorothy Perkins ar gyfer y prif gam dymchwel wedi mynd rhagddo'n dda ers mis Mawrth, ac rwy'n falch bod prif gam y gwaith ar fin dechrau. Bydd ymwelwyr â chanol y dref yn sylwi ar ragor o waith ar y safle, ond bydd trefniadau'r safle a tharfu cyffredinol yn parhau'r un fath.

"Dyma gam cyffrous iawn yn y prosiect, gan y bydd dymchwel yr adeiladau yn dangos potensial symud y treflun tuag at yr afon. Bydd yn dangos maint y safle a hefyd yn datgelu'r golygfeydd godidog tuag at Barc Coffa Ynysangharad. Dangosodd yr ymgynghoriad y llynedd gefnogaeth aruthrol o ran cynllun y Cyngor oedd yn cynnwys datblygiadau ger yr afon gyda chyfleoedd masnachol a manwerthu. Bydd yn cynnwys seilwaith ar gyfer marchnadoedd a stondinau bwyd dros dro, a bydd yn gwella mynedfa'r parc.

"Mae'r prosiect yma'n rhan o Gynllun Creu Lleoedd Pontypridd, a gytunwyd gan y Cabinet y llynedd er mwyn parhau i fuddsoddi yng nghanol y dref drwy sawl uchelgais craidd. Mae hyn yn cynnwys gweledigaeth 'Porth y De', sy'n cynnwys safle M&S a datblygiad yr hen neuadd bingo. Roedd diweddariad i'r Cabinet ym mis Mai 2023 yn amlinellu cynllun wedi'i ddiweddaru i greu parth cyhoeddus o safon uchel ar safle'r neuadd bingo. Bydd rhan fach o'r safle'n cael ei defnyddio ar gyfer cilfachau bysiau ychwanegol er mwyn integreiddio teithiau bws a threnau’n well wedi cwblhau Metro De Cymru.

"Mae tua £115 miliwn wedi cael ei fuddsoddi yn y dref yn flaenorol drwy Fframwaith Adfywio Pontypridd (2017-2022). Roedd y buddsoddiad yma'n cynnwys cyflawni Llys Cadwyn a Chwrt yr Orsaf, yn ogystal â bwrw ymlaen â phrosiectau parhaus YMCA Pontypridd, Canolfan Gelf y Miwni a gwelliannau i Barc Coffa Ynysangharad.

"Wrth i waith ar y safle gyrraedd cam dymchwel hen adeiladau M&S a Dorothy Perkins, mae gwaith pwysig yn mynd rhagddo y tu ôl i'r llenni ar gyfer camau nesaf y datblygiad. Mae'r Cyngor yn gweithio gyda grŵp aml-ddisgyblaethol arbenigol mewn perthynas â’r cynigion ailddatblygu, a hynny er mwyn dylunio prosiect sy'n ymarferol a chyflawnadwy, ynghyd â gwneud yn fawr o botensial unigryw'r safle.

"Hoffwn i ddiolch i breswylwyr, busnesau lleol ac ymwelwyr â chanol y dref am eu cydweithrediad parhaus wrth i'r gwaith yma fynd rhagddo. Mae'r Cyngor yn parhau i weithio'n agos gyda'i gontractwr er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl ar y gymuned leol."

Dyma roi gwybod bod cyfeiriad e-bost newydd wedi cael ei greu er mwyn i'r cyhoedd anfon unrhyw ymholiadau neu gwestiynau sydd gyda nhw am unrhyw un o brosiectau Porth y De at swyddogion - PorthyDe@rctcbc.gov.uk Mae tudalen we benodol hefyd wrthi’n cael ei chreu ar wefan Dewch i Siarad RhCT. Bydd ar gael yn fuan i breswylwyr ddysgu rhagor am brosiectau cysylltiedig.

Wedi ei bostio ar 20/06/2023