Skip to main content

Maes Parcio Stryd y Santes Catrin i ailagor fel cyfleuster sy'n cael ei weithredu gan y Cyngor

Catherine Street Car Park

Mae'r Cyngor wedi cadarnhau y bydd yn cymryd yr awenau'n swyddogol ar Faes Parcio Stryd y Santes Catrin ym Mhontypridd. Bydd hyn yn dechrau pan fydd y maes parcio'n ailagor ddydd Llun, 20 Mawrth.   

Yn 2022, penderfynodd cwmni NCP ddod â'i gontract ar gyfer gweithredu'r maes parcio i ben ar fyr rybudd. Drwy gydweithio â pherchennog y maes parcio, Trivallis, mae'r Cyngor yn ymrwymo i sicrhau dyfodol cadarnhaol ar gyfer y maes parcio, yn enwedig am ei fod yn cael ei ddefnyddio gan nifer o ymwelwyr a gweithwyr canol tref Pontypridd.  

Mae'r Cyngor wedi bod yn cydweithio'n agos â Trivallis i gwblhau'r prosesau fydd yn caniatáu iddo gymryd yr awenau ar y maes parcio. Mae'r maes parcio wedi bod ar gau ers 27 Chwefror er mwyn i Trivallis fynd ati i lanhau'r maes parcio'n drylwyr, ynghyd â chyflawni gwaith cynnal a chadw.  

Bydd y maes parcio yn ailagor ddydd Llun, 20 Mawrth. Bydd ffi parcio arhosiad hir ar waith o'r dyddiad yma (£1 am hyd at bedair awr, £2 am aros mwy na hynny), yn unol â ffioedd cyffredinol y Cyngor mewn meysydd parcio arhosiad hir.  

Mae peiriannau tocynnau newydd wedi cael eu gosod yn y maes parcio, ynghyd ag arwyddion yn arddangos y ffioedd parcio wedi'u diweddaru. Mae ffioedd parcio'r Cyngor yn sylweddol rhatach na ffioedd parcio gweithredwr blaenorol y maes parcio. Bydd modd defnyddio tocynnau tymor meysydd parcio'r Cyngor (trwyddedau parcio) yn y cyfleuster yma. 

Wedi ei bostio ar 15/03/2023