Skip to main content

Dathlu llwyddiannau ein trefi

Town Ponty 2

Mae canol tref Aberpennar a Phontypridd wedi dod i'r brig yn achlysur gwobrau cenedlaethol 'Let's Celebrate Towns', a gafodd ei gynnal yn Llundain. Mae'r trefi yma ymhlith yr wyth tref orau yn y DU. 

Cafodd y gwobrau eu noddi gan Visa mewn partneriaeth â Chonsortiwm Manwerthu Prydain. Enillodd DWY dref yn Rhondda Cynon Taf glod a chydnabyddiaeth genedlaethol. Y trefi eraill yng Nghymru oedd Abertyleri a Phenarth. 

Meddai'r Cynghorydd Mark Norris, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Ffyniant a Datblygu: "Rydw i’n falch iawn bod dwy o'n trefi lleol wedi cael eu cyhoeddi i fod ymhlith y gorau ym Mhrydain yng Ngwobrau 'Let's Celebrate Towns'. Mae’r achlysur yma’n rhoi cyfle i niddangos yr ardal i'r gymuned ehangach ar lwyfan cenedlaethol. 

"Mae canol y ddwy dref wedi bod wrth wraidd eu cymunedau ers canrifoedd. Mae Pontypridd yn dref hanesyddol ac yn gartref i Barc Coffa Ynysangharad, ac Aberpennar yn gartref i'r Rasys Nos Galan byd-enwog." 

Gwobrau 'Let's Celebrate Towns'  

Bwriad Gwobrau 'Let's Celebrate Towns' yw dathlu cannoedd o drefi ledled y wlad sy’n helpu busnesau lleol a chymunedau i ffynnu. 

O Aberpennar i Bontypridd, o Carrickfergus yng Ngogledd Iwerddon a Drumnadrochit yn yr Alban i Wythenshawe yn Lloegr, mae trefi ledled y DU wedi dangos ystod o fentrau cyffrous, gan gynnwys partneriaethau rhwng busnesau a chynghorau i ysgogi buddsoddiad, a chynlluniau mentora lleol i gefnogi busnesau lleol yn rhan o'r broses ymgeisio. 

Ond, Aberpennar a Phontypridd a gipiodd y wobr ar gyfer trefi gorau'r DU! 

Roedd yr astudiaethau achos unigol ar gyfer pob tref nid yn unig yn arddangos yr hyn sy’n gwneud y trefi’n unigryw, ond hefyd yn dangos sut y maen nhw'n addasu i fynd i’r afael â heriau a manteisio ar gyfleoedd newydd mewn amgylchedd sy’n newid yn gyflym, yn ogystal ag annog trefi i fabwysiadu dulliau arfer gorau ledled y wlad. 

Mae gwaith adfywio a buddsoddi yn Aberpennar dros y blynyddoedd diwethaf yn cynnwys agor y Ffordd Gyswllt ar draws y Cwm, gwelliannau i faes parcio canol y dref, gan gynnwys rhagor o fannau parcio o fewn  Fframwaith ehangach ar gyfer Adfywio Canol Tref Aberpennar. 

Cyflwynwyd mannau gwefru cerbydau trydan yn ogystal â rhagor o fannau parcio arhosiad byr ac i bobl anabl. Mae gwelliannau ehangach hefyd wedi cynnwys gwaith tirlunio, gwaith ar y wal gynnal a mynedfa balmantog newydd i Glwb Gweithwyr y dref ac ardal y canopi. 

Mae gwaith adfywio a buddsoddi diweddar ym Mhontypridd yn cynnwys darparu Llys Cadwyn a Chwrt yr Orsaf a datblygiad prosiectau'r YMCA a'r Miwni, ynghyd â’r buddsoddiad ym Mharc Coffa Ynysangharad. 

Hefyd, mae ardaloedd allweddol, gan gynnwys yr hen Neuadd Fingo a siopau M&S/Dorothy Perkins, wedi cael eu hailddatblygu gan wella'r cysylltiad rhwng yr orsaf drenau a'r stryd fawr. Mae eiddo yng nghanol y dref wedi cael eu hadnewyddu at ddibenion manwerthu a hamdden ac er mwyn darparu mannau gwaith a chartrefi. Hefyd, mae llwybr newydd ar lan yr afon gan wella cysylltiadau a mannau i gerddwyr yn nghanol y dref. 

Meddai Tony Danker, Cyfarwyddwr Cyffredinol Cydffederasiwn y Diwydiant Busnes, sydd hefyd yn aelod o’r panel o feirniaid: "Mae'n bleser gen i fod yn rhan o fenter 'Let's Celebrate Towns'.

"Yn wyneb amgylchiadau heriol ledled y wlad, gall canolbwyntio ar dwf a ffyniant, yn enwedig mewn trefi, sicrhau bod pob rhanbarth, pob cenedl, a phob cornel o’r DU yn gallu ffynnu.”

Bydd y trefi buddugol yn ennill buddsoddiad uniongyrchol gwerth hyd at £20,000 i gynnal prosiect neu fenter gymunedol leol a bydd yn derbyn rhaglen gymorth ar gyfer busnesau lleol. Dewisodd panel o feirniaid annibynnol oedd yn cynnwys unigolion o fusnesau, byd diwydiant a chyrff rhanbarthol yr wyth prif enillydd mewn seremoni wobrwyo arbennig a gafodd ei gynnal yn Llundain.

Wedi ei bostio ar 15/03/23