Skip to main content

Antholeg Ysgrifennu Creadigol 2023

Creative Writing

Mae awduron a beirdd lleol yn cael eu gwahodd i gyflwyno eu gweithiau gwreiddiol i'w cynnwys mewn antholeg newydd sbon o gerddi a straeon byrion.

Mae'r gystadleuaeth ysgrifennu creadigol, sy'n cael ei chynnal gan Wasanaeth Llyfrgelloedd Cyngor Rhondda Cynon Taf, yn agored i drigolion o bob oed yn y Fwrdeistref Sirol. Does dim unrhyw gyfyngiad ar y pwnc, ond cadwch eich straeon byrion i 2,000 o eiriau ar y mwyaf.

Dylai pob stori fer / cerdd gael ei chyflwyno ar ffurf electronig os yw'n bosibl. Bydd straeon a cherddi yn cael eu cyhoeddi ar yr un ffurf ag y maen nhw'n cael eu cyflwyno. Mae modd cyflwyno cerddi a straeon yn Gymraeg neu'n Saesneg, neu yn y ddwy iaith. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw canol nos ddydd Sul, 30 Ebrill.

Mae Antholeg Llyfrgelloedd y Cyngor, sy’n brosiect wedi’i hunan-ariannu, bellach wedi bod yn weithredol ers 10 mlynedd. Ar ôl cwblhau'r prosiect a chyhoeddi'r antholeg, bydd modd ei phrynu am bris sy'n talu am  y costau cynhyrchu.

Meddai'r Cynghorydd Robert Harris, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau: "Dros y degawd diwethaf mae Antholeg Ysgrifennu Creadigol y Cyngor wedi bod yn llwyfan gwych i awduron a beirdd lleol arddangos eu talentau. 

"Mae cyfoeth o dalent yn ein Bwrdeistref Sirol ac mae nifer o awduron a beirdd llwyddiannus yn hanu o'r ardal, gan gynnwys Elaine Morgan OBE, Harri Webb, Alun Lewis a llawer yn rhagor. 

“Rwy'n falch iawn bod modd i'r Cyngor gynnig cyfleoedd i awduron ar lawr gwlad gyhoeddi eu gwaith, ac rwy'n edrych ymlaen at weld y ceisiadau yn dod i law ar gyfer antholeg 2023.” 

Hoffech chi fod yn rhan o Antholeg Ysgrifennu Creadigol 2023 y Cyngor? E-bostiwch eich ceisiadau i Richard.Reed@rctcbc.gov.uk. Mae modd hefyd anfon ceisiadau drwy'r post at Richard Reed, Llyfrgell Treorci, Heol yr Orsaf, Treorci, CF42 6UD. 

Rhaid cyflwyno pob cais erbyn canol nos ddydd Sul, 30 Ebrill.

Wedi ei bostio ar 16/03/23