Mae bellach modd defnyddio mannau gwefru cerbydau trydan ar safle Parcio a Theithio Abercynon (llun), Canolfan Cymuned Glyn-coch a safle Parcio a Theithio'r Porth (Cam 2).
Mae’r contractwr rhanbarthol Connected Kerb yn gosod offer gwefru cerbydau trydan mewn 31 o feysydd parcio – gyda 5 o’r rhain eisoes wedi’u cwblhau.
Mae’r gwaith ar y 31 safle’n cael ei ddarparu drwy gyllid gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.
Bydd diweddariadau pellach yn cael eu rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol wrth i ragor o fannau gwefru gael eu gosod.
Mynnwch olwg ar y wefan sy'n cael ei diweddaru'n gyson i weld sut mae'r gwaith yn mynd rhagddo.
Mae Connected Kerb hefyd wedi llunio Cwestiynau Cyffredin manwl o ran defnyddio'r offer. Cliciwch yma.
Wedi ei bostio ar 07/03/23