Mae'r Cyngor wedi cadarnhau y bydd y prif waith i drwsio difrod i'r arglawdd yn ardal Glyn-coch yn dechrau ar 20 Mawrth - bydd y goleuadau traffig dros dro sydd wedi'u gosod ar Heol Ynysybwl yn cael eu symud ar ôl i'r gwaith gael ei gwblhau.
Bydd y cynllun sylweddol yma i sefydlogi'r arglawdd o dan y B4273 yn cael ei gynnal dros gyfnod o 8 wythnos o ddydd Llun, 20 Mawrth. Mae angen cynnal y gwaith yma yn dilyn gwaith cloddio heb ei awdurdodi ac anghyfreithlon a gafodd ei gynnal ar y tir ac a gafodd effaith andwyol ar y ffyrdd uwch ei ben. Nid oedd modd defnyddio Heol Ynysybwl a'r llwybr troed ger yr arglawdd er diogelwch.
Mae'r cynllun cymhleth yma wedi galw am ymgynghorwyr arbenigol a fydd yn ymchwilio i'r mater. Cafodd gwaith sefydlogi cychwynnol ei gynnal ar y safle, ynghyd ag arolygon draenio, ecoleg, olrhain gwasanaethau ac arolygon topograffig.
Ym mis Ionawr 2023, cyhoeddodd y Cyngor ei fod wedi penodi cwmni Alun Griffiths (Contractors) Ltd i gynnal y gwaith yma yn y Gwanwyn. Roedd y contractwr wedi cwblhau gwaith archwilio'r tir ym mis Ionawr er mwyn llywio'r prif gynllun.
O 20 Mawrth, bydd y prif gynllun yn cynnwys gosod dalennau mawr a gwaith hoelio'r pridd er mwyn sicrhau bod gan yr arglawdd 25 metr o hyd cymorth ddigonol. Unwaith y bydd y gwaith wedi'i gwblhau, bydd gwaith gosod wyneb newydd ar y llwybr troed ar Heol Ynysybwl yn cael ei gynnal ar ddarn o dir sydd o leiaf yr un hyd â'r ardal waith. Bydd colofn golau stryd yn cael i symud i ochr arall y ffordd cyn i'r gwaith ddechrau.
Bydd cyfnod cau'r lôn ar Heol Ynysybwl yn cael ei ehangu gan y contractwr er mwyn sicrhau bod gan y contractwr ardal waith ddiogel, bydd y system unffordd rhwng y brif ffordd a Lôn y Cefn yn parhau.
Mae'n bosibl y bydd cau'r lôn yn achosi oedi yn yr ardal leol, yn enwedig y tu allan i Ysgol Gynradd Craig yr Hesg ar adegau mwyaf prysur y dydd. Bydd yr arhosfan bysiau ar ochr ogleddol yr ardal waith yn parhau i gael ei ddefnyddio.
Bydd safle'r contractwr (ar gyfer swyddfeydd, storio a chyfleusterau parcio) wedi'i leoli ar dir sy'n eiddo i'r Cyngor, cyferbyn â'r ysgol. Bydd nifer fach o gyfleusterau lles ar y rhan o'r lôn sydd wedi'i chau ar Heol Ynysybwl.
Nid oes angen cau Heol Ynysybwl yn gyfan gwbl ar gyfer y prif waith ond mae'n bosibl y bydd angen cau rhan fach o'r ffordd rhwng 14 ac 15 Teras Glyn-coch tuag at ddiwedd y cynllun er mwyn cwblhau gwaith gosod wyneb newydd ar y ffordd. Bydd rhagor o fanylion yn cael eu darparu gan y Cyngor yn nes at yr amser.
Hoffai'r Cyngor estyn diolch i drigolion am eu hamynedd parhaus a chydweithrediad. Y gwaith yma yw cam olaf y cynllun i ddatrys y broblem yn y lleoliad yma, a bydd modd symud y goleuadau traffig oddi ar y safle ar ôl cwblhau'r gwaith.
Fodd bynnag, mae'n anochel y bydd rhai elfennau o'r gwaith yn tarfu ar y gymuned leol - gan gynnwys gwaith swnllyd (megis gwaith gosod seilbyst) a fydd yn cael ei gynnal yn ystod gwyliau hanner tymor fel bod modd tarfu cyn lleied â phosibl ar yr ysgol. Bydd y Cyngor yn gweithio gyda'r contractwr i fwrw ymlaen â'r gwaith cyn gynted ag y bo modd ac yn y ffordd fwyaf effeithlon ag sy'n bosib.
Wedi ei bostio ar 10/03/23