Mae'r Cyngor wedi darparu diweddariad ar y cynllun atgyweirio diwygiedig ar gyfer Pont Haearn Tramffordd ger Tresalem. Mae cynnydd yn cynnwys penodi contractwr a chwblhau cais cynllunio.
Mae'r Bont Haearn Tramffordd yn heneb gofrestredig hanesyddol sydd â Hawl Tramwy Cyhoeddus dros Afon Cynon ger cylchfan yr A4059 yn Stryd Meirion. Roedd y bont mewn cyflwr gwael cyn iddi gael ei difrodi ymhellach yn ystod Storm Dennis. Mae ei hadfer yn gymhleth – gan ystyried yr angen i adfer y bont ac i barchu ei harwyddocâd diwylliannol, gan weithio'n agos â Cadw.
Cafodd y bont ei thynnu i ddechrau ar y cynllun atgyweirio ar ôl i Ganiatâd Heneb Gofrestredig cael ei ganiatáu. Serch hynny, ar ôl ei harolygu'n fanylach oddi ar y safle, roedd contractwr arbenigol o'r farn bod cyflwr y bont yn waeth na'r disgwyl. Cyhoeddwyd yr haf diwethaf y byddai cynllun atgyweirio newydd yn cael ei ddylunio.
Mae’r Cyngor bellach wedi cyhoeddi bod Walters Ltd wedi'i benodi’n Brif Gontractwr ar gyfer y cynllun diwygiedig, sy’n cynnig gosod sawl trawst cymorth ychwanegol ar ddec y bont. Bydd yn gobeithio tarfu cyn lleied â phosibl ar yr estheteg haearn bwrw hanesyddol.
Bydd amddiffyniad pellach i'r strwythur hanesyddol yn cael ei gynnig trwy gyflwyno trawst gwrthdrawiad a fydd yn cael ei osod i fyny'r afon o'r strwythur, i amddiffyn rhag malurion yn yr afon yn ystod stormydd yn y dyfodol.
Mae cais cynllunio nawr yn cael ei gyflwyno i'w ystyried yn y dyfodol gan y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu. Mae argraff arlunydd o'r gwaith atgyweirio ar y bont (yn y llun) wedi'i gynnwys yn y cais. Mae'r Cyngor hefyd wedi gwneud cais ar gyfer Caniatâd Heneb Gofrestredig ar gyfer y cynllun diwygiedig.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: "Mae'n bleser gen i fod cynnydd yn mynd rhagddo i ddatblygu'r cynllun atgyweirio pwysig yma, ar ôl iddo gael ei gyhoeddi'r haf diwethaf y byddai'r atgyweiriadau sydd wedi'u cynllunio angen cael eu diwygio yn dilyn arolygiad arbenigol o'r strwythur. Rydyn ni bellach wedi penodi contractwr ar gyfer y cynllun diwygiedig, ac mae'r ceisiadau perthnasol ar gyfer cynllunio a Chaniatâd Heneb Gofrestredig wedi cael eu cyflwyno'n ffurfiol gan y Cyngor.
“Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i gyflawni’r gwaith atgyweirio o fewn ei Raglen Atgyweiriadau Storm Dennis ar gyfer 2023/24, a bydd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i drigolion wrth i’r cynllun gyrraedd cerrig milltir allweddol pellach. Os caiff y caniatâd perthnasol eu cymeradwyo, byddai modd i gontractwr y Cyngor ddechrau ar brif gam y gwaith yr haf yma."
Wedi ei bostio ar 24/03/23