Rydyn ni'n gyffrous i gyhoeddi y bydd ein Ffair Yrfaoedd boblogaidd yn cael ei chynnal ddydd Mercher 22 Mawrth 2023 yng Nghanolfan Hamdden Llantrisant, CF72 8DJ, 10am-2pm. Bydd 'awr dawel' rhwng 1pm a 2pm.
Bydd yr achlysur yn gyfle i chi siarad yn uniongyrchol â chyflogwyr a chyflogeion, cymryd rhan mewn gweithdai a fydd yn eich helpu chi i baratoi ar gyfer cyfweliad ac ysgrifennu CV, a chael cyfle i ddechrau ymgeisio am swyddi ar y diwrnod.
Bydd dros 50 o sefydliadau yn bresennol yn y ffair ac yn awyddus i lenwi swyddi sy'n addas i bawb yn y gymuned yn syth. Bydd Carfan Graddedigion a Phrentisiaethau Rhondda Cynon Taf hefyd yn bresennol yn y ffair er mwyn rhoi gwybodaeth a chymorth i unrhyw un sy'n ystyried ymgeisio am un o'r 50+ swydd wag sy'n agor 3 Ebrill.
Os ydych chi’n chwilio am ddechreuad newydd, newid gyrfa, neu rydych chi'n dechrau eich bywyd gwaith, bydd rhywbeth ar eich cyfer chi!
Yn dilyn llwyddiant y Ffair Yrfaoedd wyneb yn wyneb gyntaf ers 2019 y llynedd, rydyn ni'n edrych ymlaen at groesawu rhagor o gyflogwyr a phobl sy’n chwilio am waith i'n ffair yrfaoedd am ddim.
Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf:
“Mae’r Ffair Yrfaoedd yn hynod o boblogaidd, ac rydw i'n falch o’i gweld yn ôl gyda chlec!
“Rydyn ni fel Cyngor wedi ymrwymo i roi cyfleoedd i’n trigolion gael mynediad at gyflogaeth o safon. Mae'r Ffair Yrfaoedd yn dod â chyflogwyr lleol ynghyd mewn un lle ac yn dangos ein bod ni, fel Cyngor, am roi cyfle i drigolion gael mynediad i'r swyddi yma.
“Mae cymaint ar gael ar y diwrnod. Rydw i’n annog pawb sy’n chwilio am rywbeth newydd, rhywbeth gwahanol, neu sy’n chwilio am eu swydd gyntaf i alw heibio i edrych ar yr hyn sydd ar gael.”
Bydd amrywiaeth eang o bartneriaid o fyd hyfforddiant ac addysg wrth law i roi cyngor ac arweiniad gyrfaol. Mae partneriaid yn cynnwys C4W, Gyrfa Cymru, Cyflogaeth â Chymorth Elite, Coleg y Cymoedd, Prifysgol De Cymru a llawer yn rhagor.
Mae rhestr o gyflogwyr i’w gweld isod:
Alpha Safety
|
Apollo Teaching
|
Arch Services
|
Bluebird Care
|
Care Cymru
|
Drive
|
Dŵr Cymru
|
First Source
|
Harlequin Home Care
|
ISG
|
Pontus Research
|
Pritchard Holdings
|
Qcare
|
Royal Navy
|
RTS Tree Specialist
|
Rubicon
|
Screen Alliance Wales
|
Smart Solutions
|
Stagecoach
|
Trivallis
|
Prifysgol De Cymru / USW
|
Vale Resort
|
Llywodraeth Cymru / Welsh Government
|
Cymunedau am Waith a Mwy / Communities for Work Plus
|
Llwybrau at Gyflogaeth RhCT / RCT Employment Routes
|
Yr Adran Gwaith a Phensiynau / DWP
|
Gwasanaethau Arlwyo RhCT / RCT Catering Services
|
BIP Cwm Taf Morgannwg UHB
|
Gyrfa Cymru / Careers Wales |
Prentisiaethau a Rhaglenni i Raddedigion RhCT / RCT Graduate Programme and Apprenticeship Scheme
Wedi ei bostio ar 13/03/23