Skip to main content

Diwrnod Cenedlaethol o Fyfyrdod 2023

Reflection

Bydd y Cyngor yn nodi Diwrnod Cenedlaethol o Fyfyrdod 2023 ddydd Iau, 23 Mawrth, i nodi tair blynedd ers i'r cyfyngiadau symud cenedlaethol cyntaf ddod i rym yn sgil Covid-19. 

Byddwn ni'n ymuno ag eraill ledled y wlad i arsylwi munud o dawelwch am hanner dydd i gofio'r holl bobl hynny a gollodd eu bywydau yn ystod y pandemig. Bydd hefyd yn gyfle i’n holl drigolion a busnesau gysylltu â'i gilydd a thynnu ynghyd a bod yn gefn i'r sawl sy’n galaru. 

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf: “Mae’r tair blynedd diwethaf wedi bod yn anhygoel o anodd i nifer fawr o bobl. Bydd Diwrnod Cenedlaethol o Fyfyrdod yn caniatáu amser i ni i gyd gydnabod sut, yn ystod cyfnod o adfyd difrifol, y gwelon ni gryfder a dewrder mawr ledled ein bwrdeistref sirol wrth i deuluoedd, ffrindiau, cydweithwyr, cymdogion a’n cymunedau lleol i gyd uno i helpu ein gilydd. 

“Fyddwn ni byth yn anghofio’r dyddiau tywyll a’r amseroedd caled, na’r bobl hynny gafodd eu cymryd wrthon ni mewn ffordd mor greulon, â'u hanwyliaid ddim hyd yn oed wedi cael y cyfle i fod wrth eu hochr yn eu horiau mwyaf anghenus. 

“Bydd y Diwrnod Cenedlaethol o Fyfyrdod yn gyfle i ni i gyd sefyll gyda’n gilydd a chydnabod y boen barhaol gyda thosturi a chariad, wrth i ni ddangos i’r rhai sy’n galaru nad ydyn nhw ar eu pen eu hunain.” 

Bydd munud o dawelwch ledled y wlad am hanner dydd ddydd Iau, 23 Mawrth.

Wedi ei bostio ar 23/03/23