Cerys O'Connell
Mae'r Cyngor yn cefnogi nofiwr ifanc o Rondda Cynon Taf sydd wedi cael ei dewis i gystadlu yng Ngemau Trawsblaniadau'r Byd yn Awstralia ym mis Ebrill.
Mae Cerys O'Connell, sy'n 14 oed ac yn byw yn Aberpennar, yn gobeithio codi £6,500 i wireddu ei breuddwydion. Mae hi wedi sefydlu tudalen JustGiving i'w helpu hi i gasglu'r arian, ac mae Beth Winter, Aelod Seneddol Cwm Cynon, Vikki Howells, Aelod o'r Senedd, a Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn ei chefnogi hi'n llawn.
Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden Rhondda Cynon Taf: “Mae Cerys wedi cael stori bywyd anhygoel hyd yn hyn ac mae hi ar fin cychwyn ar y bennod nesaf, filoedd o filltiroedd oddi cartref.
"Mae hi wedi goresgyn cymaint dros y 10 mlynedd diwethaf, ac mae ei theulu a'i ffrindiau wedi bod yn gefn iddi drwy bopeth. Mae'r cariad a'r gefnogaeth a ddangosodd ei theulu a'i ffrindiau nawr wedi'u hymestyn i'r gymuned ehangach wrth i ni i gyd dymuno'n dda iddi hi wrth iddi gystadlu yng Ngemau Trawsblaniadau'r Byd.
"Yn ystod y cyfnodau ariannol anodd yma, rwy’n annog unrhyw un sy’n gallu i wneud cyfraniad, waeth pa mor fawr neu fach, i helpu Cerys i wireddu ei breuddwyd. Dewch i ni ei helpu hi i gyrraedd Awstralia, gan chwifio'r faner dros Rondda Cynon Taf a Chymru."
Mae Cerys, sy'n ddisgybl yn Ysgol Gyfun Rhydywaun, wedi cael ei dewis i gynrychioli tîm GB yng Ngemau Trawsblaniadau'r Byd yn ninas Perth, Awstralia. Fe wnaeth hi dderbyn trawsblaniad mêr esgyrn gan ei chwaer, Megan, ar ôl iddi hi gael diagnosis o gyflwr sy'n bygwth bywyd o'r enw Anemia Aplastig pan oedd hi'n bedair oed.
Mae Anemia Aplastig yn effeithio ar y gwaed yn y corff, ble dyw'r mêr esgyrn a'r bôn-gelloedd ddim yn cynhyrchu digon o gelloedd y gwaed. Ddegawd yn ôl, dechreuodd Cerys gael cleisiau ar ei breichiau a'i choesau, ac ar ôl cael profion gwaed, cadarnhawyd bod y cyflwr yma gyda hi.
Diolch byth, roedd ei chwaer iau, Megan, a oedd yn dair oed ar y pryd, â mêr esgyrn a oedd yn cyfateb yn berffaith, ac felly aeth y trawsblaniad achub bywyd yn ei flaen.
Meddai Cerys O'Connell: "Bydda i bob amser yn ddiolchgar i Megan am roi ychydig o'i mêr esgyrn i mi – fe wnaeth hi yn llythrennol achub fy mywyd i. Er fy mod i bob amser wedi hoffi nofio, doeddwn i byth yn meddwl y byddwn i un diwrnod yn cystadlu yng Ngemau Trawsblaniadau'r Byd. Mae hyn yn coroni'r cyfan."
Dim ond ychydig o fisoedd oedd gan Cerys i fyw pan gafodd hi'r diagnosis o Anemia Aplastig ym mis Ebrill 2013. Roedd ei rhieni, Alun a Lisa O'Connell, yn ofnadwy o drist ac yn poeni'n fawr am ddyfodol eu merch hynaf.
A hithau wedi cael y diagnosis yn Ysbyty Plant Cymru, Caerdydd, derbyniodd Cerys gynhyrchion gwaed yno. Yna, cafodd hi ei throsglwyddo i Ysbyty Plant Bryste ble cafodd hi gemotherapi. Cafodd y trawsblaniad ei wneud ar 21 Mehefin, 2013.
Treuliodd Cerys bum wythnos yn gwella yn yr ysbyty a threuliodd hi ei phen-blwydd yn bump oed ar y ward yn yr ysbyty nes ei bod hi'n ddigon da i fynd adref at ei theulu.
Daeth Cerys yn nofiwr ifanc talentog ac ymunodd hi â Chlwb Nofio Nexus. Yn 2019, fe enillodd hi ddwy fedal aur ac un fedal efydd yng Ngemau Trawsblaniadau Prydain Westfield Health a gafodd eu cynnal yng Nghasnewydd, a thair medal aur ac un fedal arian i Gymru yng Ngemau Trawsblaniadau Prydain a gafodd eu cynnal yn Leeds yn 2022.
Mae hi nawr am gystadlu yn y 24ain Gemau Trawsblaniadau'r Byd yn ninas Perth, Awstralia, ym mis Ebrill ac mae tudalen JustGiving wedi cael ei sefydlu i'w helpu hi gyda'i chostau.
Gemau Trawsblaniadau'r Byd 2024
Mae Gemau Trawsblaniadau'r Byd yn para wythnos o hyd ac yn agored i'r rheiny sydd wedi derbyn trawsblaniadau calon, ysgyfaint, iau, aren, pancreas, bôn-gelloedd a mêr esgyrn.
Os oes modd i chi gefnogi Cerys O'Connell, ewch i'r dudalen JustGiving y mae ei theulu wedi ei sefydlu.
Wedi ei bostio ar 02/03/23