Skip to main content

Bydd tocynnau 2023 Lido Ponty

Lido Pontypridd - Swim - Children - Summer - June 22 - GDPR Approved-53

Rydyn ni wedi cyrraedd adeg honno'r flwyddyn eto!

Bydd tocynnau prif dymor 2023 Lido Ponty yn mynd ar werth ddydd Gwener, 17 Mawrth am 9am.

Bydd modd i ddefnyddwyr y Lido ym Mharc Coffa Ynysangharad, Pontypridd, gadw lle mewn sesiynau o 1 Ebrill hyd at 30 Ebrill.

Bydd y Lido ar agor bob dydd dros wyliau'r Pasg - bydd hyn yn cynnwys dwy sesiwn nofio ben bore yn y ddau bwll yn ogystal â chwe sesiwn hwyl i deuluoedd ble bydd y tri phwll wedi’u gwresogi ar agor a bydd y teganau gwynt ar gael i'w defnyddio hefyd.

Bydd gwyliau'r Pasg yn dod i ben ddydd Llun, 17 Ebrill a bydd y Lido yn dychwelyd i'w amserlen arferol o ddwy sesiwn nofio ben bore yn ystod yr wythnos a dwy sesiwn nofio ben bore a chwe sesiwn hwyl i deuluoedd ar benwythnosau.

Mae modd gweld yr amserlen yn ystod y tymor ac yn ystod y gwyliau yma:

Mae'r prif dymor yn dilyn llwyddiant dau gyfnod prawf nofio dŵr oer ble roedd tymheredd y dŵr wedi'i ostwng i 15 gradd. Denodd y sesiynau yma nofwyr o Lundain, gorllewin Cymru a Chanolbarth Lloegr. Peidiwch â phoeni, bydd tymheredd y dŵr yn dychwelyd i 28 gradd ar gyfer y prif dymor!

Roedd sesiynau nofio Gŵyl San Steffan a Dydd Calan yn boblogaidd iawn hefyd - gwerthwyd yr holl docynnau o fewn oriau.

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden: "Mae Lido Ponty yn parhau i fod yn destun balchder yn Rhondda Cynon Taf. Mae'r atyniad yn denu pobl o ledled y DU sy'n awyddus i nofio yn y dŵr cynnes neu fwynhau amser i'r teulu yn ystod yr haf.

"Mae'r ymwelwyr yma'n manteisio ar yr atyniadau sydd o amgylch Lido Ponty ac yn treulio amser ym Mharc Coffa Ynysangharad ac yn mwynhau'r arlwy o fwyd, diod, siopa a hanes yng nghanol tref Pontypridd.

"Rydyn ni'n disgwyl i dymor 2023 fod yn brysur iawn i garfan Lido Ponty, sy’n gweithio'n ddiflino i sicrhau bod pawb yn cael y profiad gorau posibl. Rydyn ni'n edrych ymlaen at groesawu cwsmeriaid ac ymwelwyr newydd eleni."

 

Bydd tocynnau ar gael am 9am ddydd Gwener, 17 Mawrth ar www.lidoponty.co.uk.

Mae tocynnau'n costio £3 i oedolion ac maen nhw am ddim i blant iau nag 16 oed. Bydd rhaid i'r rheiny sy'n dymuno defnyddio'r teganau gwynt brynu band gweithgareddau - mae modd gwneud hyn ar-lein wrth archebu tocynnau neu yn y dderbynfa ar ôl cyrraedd y Lido. Mae'r bandiau yn costio £2.50 yr un.

 

Wedi ei bostio ar 16/03/23