Efallai y bydd trigolion yn sylwi ar weithgarwch yr wythnos nesaf wrth y bont yn y llun yn Ffynnon Taf gan y bydd ymchwiliadau'n cael eu cynnal i lywio cynllun adnewyddu yn y dyfodol.
Mae Pont Reilffordd Glan-y-Llyn yn cario Heol Moy dros yr hen reilffordd, sydd bellach yn llwybr a rennir gan gerddwyr a beicwyr.
Bydd profion concrit yn dechrau ddydd Llun 9 Mawrth ac yn para tua wythnos. Does dim disgwyl llawer o darfu ar bobl leol.
Bydd mynediad i gerbydau a cherddwyr yn cael ei gynnal ar Heol Moy, a fydd dim effaith ar fynediad i gerddwyr a beicwyr o dan y bont.
Bydd yr ymchwiliadau'n cael eu cynnal gan gontractwr y Cyngor, Construction Testing Solutions, a fydd yn defnyddio llwyfan gwaith a sgaffaldiau.
Mae'r gwaith yn hanfodol i lywio dyluniad gwaith atgyweirio concrit sydd yn yr arfaeth ar gyfer cynllun adnewyddu mawr yn y dyfodol.
Mae'r gwaith cychwynnol yn cael ei ariannu drwy Raglen Gyfalaf barhaus y Cyngor ar gyfer y Priffyrdd. Diolch i'r gymuned am eich cydweithrediad.
Wedi ei bostio ar 04/03/2026