Ydych chi'n barod i ddathlu 11 mlynedd o Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty?
Mae prif dymor Lido Ponty 2026 yn dechrau ar ddechrau gwyliau'r Pasg a bydd tocynnau'n mynd ar werth am 9am ddydd Llun, 9 Mawrth.
Byddwch yn gallu prynu tocynnau ar gyfer pob sesiwn - nofio bore cynnar saith diwrnod yr wythnos, sesiynau hwyl penwythnos a gwyliau ysgol/gwyliau banc - hyd at 1 Mehefin yn y dyddiad rhyddhau tocynnau cyntaf. Bydd mwy o docynnau'n cael eu rhyddhau wrth i'r tymor fynd yn ei flaen.
Roedd y llynedd yn flwyddyn arbennig i Lido Ponty, wrth iddo ddathlu 10 mlynedd ers ailagor yr atyniad yn swyddogol yn dilyn gwaith ailddatblygu gwerth miliynau o bunnoedd ar yr hen Lido, sydd wedi bod ym Mharc Coffa Ynysangharad, Pontypridd, ers 1927.
Hyd yn hyn, mae'r lleoliad poblogaidd wedi croesawu 880,000 o ymwelwyr i'w dri phwll awyr agored wedi'u cynhesu i fwynhau nofio ben bore, nofio mewn dŵr oer, sesiynau hwyl i'r teulu, sesiynau i ysgolion, a sesiynau i bobl ag ADY, partïon pen-blwydd a llawer mwy!
Mae mwy o'r un peth wedi'i gynllunio ar gyfer 2026 a bydd sesiynau cyntaf y prif dymor yn cychwyn ddydd Sadwrn, 28 Mawrth, sef diwrnod cyntaf gwyliau Pasg yr ysgol pythefnos o hyd.
Mae hynny'n golygu y bydd dwy sesiwn nofio ben bore a chwe sesiwn hwyl i'r teulu, lle bydd modd defnyddio'r tri phwll, y cwrs rhwystrau teganau gwynt, zorb dŵr a'r cychod padlo bob diwrnod o'r wythnos tan ddydd Sul, 12 Ebrill.
Cyn gynted ag y bydd yr ysgolion yn ailagor ddydd Llun, 13 Ebrill, bydd yr amserlen yn dychwelyd i sesiynau nofio ben bore saith diwrnod yr wythnos a sesiynau hwyl i'r teulu ar benwythnosau a Gwyliau Banc yn unig, hyd at 1 Mehefin.
O 1 Mehefin ymlaen, rydyn ni i gyd yn gobeithio y bydd yr haf ar ei ffordd wrth i'r amserlen gynyddu ymhellach i gynnig nid yn unig sesiynau nofio ben bore bob dydd a sesiynau hwyl ar benwythnosau, ond hefyd nofio achlysurol yn ystod y dydd a sesiynau hwyl ar ôl ysgol.
Bwriwch olwg ar yr amserlen lawn yma:
Mae'r prif dymor yn barod ar ôl tymor nofio dŵr oer gaeaf llwyddiannus arall yn Lido Ponty. Mae tymheredd dŵr y pwll wedi'i gynyddu yn ôl i 28 gradd ar gyfer pob sesiwn.
Meddai'r Cynghorydd Scott Emanuel, Aelod Cabinet Rhondda Cynon Taf â chyfrifoldeb dros Lido Ponty: “Pa mor ffodus ydyn ni i gael un o atyniadau awyr agored gorau Cymru yma ar garreg ein drws?
“Mae 11 mlynedd bellach ers i’r Lido ailagor ar ôl i Gyngor Rhondda Cynon Taf wneud y penderfyniad uchelgeisiol i sicrhau’r cyllid i alluogi adfer ac adfywio’r Lido gwreiddiol yn llwyr.
“Roedd y broses adfer yn gymhleth ac yn hir ond mae wedi bod yn werth chweil. Mae cannoedd o filoedd o bobl o bob cwr o Gymru a thu hwnt wedi mwynhau nofio yn yr awyr agored ym mhyllau cynnes Lido Ponty.
“Mae wedi bod yn set ffilm, wedi derbyn ymwelwyr Brenhinol (ac ambell seren Gavin a Stacey) ac wedi dod yn seren y sioe yn Eisteddfod Rhondda Cynon Taf, gan gynnig cyfle i ymwelwyr nofio ar y Maes am y tro cyntaf yn hanes y lleoliad.
“Nododd y llynedd 10 mlynedd o’r atyniad nodedig yma ac rydyn ni'n gwybod y bydd y straeon a’r llwyddiannau’n parhau yn 2026”.
Bydd tocynnau ar gyfer y prif dymor yn mynd ar werth am 9am, dydd Llun 9 Mawrth.
Dim ond ar-lein y mae modd eu prynu.
Nodwch:
Mae gan y wefan archebu ddwy adran – nofio ben bore a hwyl i’r teulu.
Dewiswch yr adran nofio ben bore os ydych chi am fwynhau nofio ben bore o ddydd Llun i ddydd Sul.
Dewiswch yr adran hwyl i'r teulu os ydych chi am fwynhau sesiwn gyda theganau gwynt. Byddwch yn effro i'r ffaith bod yn rhaid i chi brynu band gweithgaredd (un ar gyfer bob person i ddefnyddio'r cwrs rhwystrau teganau gwynt/zorb dŵr/cychod pedal. Dim ond ar gyfer nofio y mae modd defnyddio tocynnau a brynwyd heb fand gweithgaredd
Mae tocynnau wedi'u cyfyngu i chwech o bobl fesul archeb. Os ydych chi'n ceisio cadw lle ar gyfer mwy na chwech o bobl, fydd y system ddim yn gadael i chi fwrw ymlaen.
Mae tâl archebu bach fesul person. Bwriwch olwg ar y system archebu am ragor o wybodaeth
Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n gwirio cymarebau nofio Lido Ponty ac yn sicrhau bod gyda chi'r nifer cywir o oedolion i oruchwylio plant sy'n dod gyda nhw'n ddiogel. Dewch o hyd iddyn nhw yma:
Wedi ei bostio ar 05/03/2026