Skip to main content

Rhaglen i Raddedigion Cyngor Rhondda Cynon Taf bellach ar agor!

Grads contensis wel

Mae'n bleser gan Gyngor Rhondda Cynon Taf gyhoeddi bod ei Raglen i Raddedigion sydd wedi ennill gwobrau, bellach ar agor.

Mae'r Cyngor yn parhau i fuddsoddi mewn datblygu talent leol a chreu cyfleoedd gyrfa ystyrlon. Mae'r Rhaglen i Raddedigion yn cynnig cyfle i raddedigion uchelgeisiol ddechrau gyrfa sy'n rhoi boddhad yn un o awdurdodau lleol mwyaf Cymru, a byddan nhw'n cael profiad gwerthfawr ar draws ystod eang o feysydd gwasanaeth.

Eleni, mae 19 o swyddi ar gael i raddedigion mewn meysydd megis peirianneg sifil, iechyd a diogelwch, cyfrifeg, addysg Gymraeg, rheoli prosiectau a llawer yn rhagor!

Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf: “Rydw i'n falch o lansio ein Rhaglen i Raddedigion 2026 ac rydyn ni unwaith eto'n croesawu ceisiadau gan raddedigion talentog sydd eisiau gwneud gwahaniaeth yn Rhondda Cynon Taf.

“Nid yw erioed wedi bod yn bwysicach i gefnogi pobl ifanc gyda’r cyfleoedd sydd eu hangen arnyn nhw i ffynnu, ac rydym wedi ymrwymo i roi mynediad i’n pobl ifanc at gyfleoedd gyrfa sy’n fuddiol iddyn nhw a’n cymunedau sy’n byw ledled Rhondda Cynon Taf.

“Mae ein Rhaglen i Raddedigion wedi denu ymgeiswyr o safon uchel yn gyson, ac mae nifer ohonyn nhw wedi meithrin gyrfaoedd llwyddiannus yn y Cyngor.

“A ninnau'n un o'r cyflogwyr mwyaf yn y Fwrdeistref Sirol, rydyn ni'n cydnabod pwysigrwydd buddsoddi yn ein gweithlu ar gyfer y dyfoodol a darparu llwybrau gyrfa o safon uchel, gyda chefnogaeth dda.

“Mae gweithio i'r Cyngor yn golygu cyfrannu'n uniongyrchol at wasanaethau cyhoeddus hanfodol sy'n cefnogi ein cymunedau bob dydd. Byddwn i'n annog graddedigion sy'n frwdfrydig am wasanaethau cyhoeddus i gyflwyno cais a chymryd y cam cyntaf yn eu gyrfaoedd gyda ni.”

Ers 2020, mae'r Cyngor wedi cyflogi 114 o swyddogion graddedig, gyda dros 70% yn parhau i weithio i'r awdurdod. Mae nifer o gyn-raddedigion wedi mynd ymlaen i rolau uwch swyddogion, gan gynnwys rheolwyr a Phenaethiaid Gwasanaethau.

Mae'r Rhaglen i Raddedigion yn lleoliad cyfnod penodol am ddwy flynedd, sy'n cynnig profiad ymarferol mewn sefydliad deinamig ac amrywiol. Mae graddedigion yn cael cefnogaeth yn ystod y rhaglen gan Gydlynydd penodol a byddan nhw'n gweithio tuag at gymhwyster Rheoli Prosiectau Lefel 4, ochr yn ochr â datblygu sgiliau arwain a rheoli hanfodol.

Dyma'r swyddi sydd ar gael i raddedigion yn 2026:

Swyddog Graddedig – Syrfëwr Adeiladu

Swyddog Graddedig – Peirianneg Sifil x2

Swyddog Graddedig – Cyfathrebu, Llywodraethu a Chyswllt Cyflogwyr

Swyddog Graddedig - Ysgolion Bro a'r Gymraeg

Swyddog Graddedig Dros Dro – Ymgysylltu

Swyddog Graddedig – Cymorth i Lywodraethwyr

Swyddog Graddedig - Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd (CYBI)

Swyddog Graddedig – Iechyd a Diogelwch

Swyddog Graddedig Dros Dro - Effeithlonrwydd Ynni ar gyfer Tai

Swyddog Graddedig – Rheoli Prosiectau (Peirianneg Sifil)

Swyddog Graddedig – Rheoli Prosiectau (Adeiladu)

Swyddog Graddedig – Prosiectau (Diwylliant, Hamdden a Phrofiadau i Ymwelwyr)
Swyddog Graddedig – Syrf
ëwr Meintiau (Peirianneg Sifil)

Swyddog Graddedig Dros Dro – Prosiectau Gwella Ysgolion
Swyddog Graddedig Dros Dro – Materion Trawsnewid

Swyddog Graddedig - Materion Trawsnewid (Cymorth Cynnar)

Swyddog Graddedig - Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg

Swyddog Graddedig Dros Dro – Cyfrifeg

Mae'r broses cyflwyno cais ar gyfer Rhaglen i Raddedigion 2026 ar agor tan Ebrill 9.

I gael rhagor o wybodaeth am y cyfleoedd sydd ar gael a sut i gyflwyno cais, ewch i: Rhaglen i Raddedigion | RhCT - Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
Wedi ei bostio ar 04/03/2026