Mae cynlluniau i adnewyddu'r Miwni poblogaidd ym Mhontypridd wedi cyrraedd carreg filltir arall. Mae'r prosiect yn defnyddio £5.3 miliwn a gafodd ei sicrhau yn rownd gyntaf Cronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU.
Mae elfennau dylunio terfynol yr adeiladau rhestredig Gradd II wedi'u cyflawni gan gwmni Purcell, mewn partneriaeth â Chyngor Rhondda Cynon Taf a sefydliad partner Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, yn rhan o broses Cam 3 Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain (RIBA).
Unwaith y bydd yr argymhellion wedi’u cymeradwyo, bydd y prosiect yn symud i Gam 4 RIBA ac, yn amodol ar sicrhau’r holl ganiatâd statudol angenrheidiol, bydd y gwaith o ailddatblygu’r lleoliad yn dechrau yn yr haf eleni.
Nod y gwaith ailddatblygu yw gwarchod treftadaeth y Miwni a dathlu ei bensaernïaeth gothig odidog trwy ddod â thrawstiau gwreiddiol y nenfwd i'r golwg yn y brif neuadd yn ogystal â nifer o'r ffenestri sydd wedi'u 'cuddio' ar hyn o bryd.
Bydd y Miwni ar ei newydd wedd yn gwbl hygyrch a chynhwysol. Bydd lifft i bob llawr gan gynnwys y balconi, a gwell darpariaeth toiledau gan gynnwys cyfleuster Changing Places.
Bydd y prosiect yn darparu lleoliad sy’n cynnig rhaglen broffesiynol o gerddoriaeth fyw ac achlysuron sinema, gyda chyfleusterau bar a fydd yn cefnogi'r economi hamdden a'r economi gyda'r hwyr.
Meddai'r Cynghorydd Bob Harris, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau: “Mae’r gwaith o ailddatblygu’r Miwni yn parhau i fynd rhagddo, ac mae’n gadarnhaol gweld y prosiect yn symud yn nes at y cam caib a rhaw. Mae llawer o drigolion wrth eu bodd i weld y gwaith yma'n cychwyn.
“Rydyn ni wedi ymrwymo i gynnal gwaith ailddatblygu’r Miwni gyda’n partneriaid, Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, mewn ffordd gyfrifol a chynaliadwy. Bydd y gwaith ailddatblygu yn dod â'r Miwni yn fyw unwaith eto fel un o brif gyrchfannau cerddoriaeth ac achlysuron De Cymru i drigolion ac ymwelwyr ei fwynhau.
“Mae’r gwaith ar y trywydd iawn i'w gwblhau erbyn Haf 2024, mewn da bryd i groesawu'r Eisteddfod Genedlaethol i Rondda Cynon Taf. Mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn denu tua 150,000 o ymwelwyr bob blwyddyn, ac rydyn ni'n edrych ymlaen at weld y miloedd o bobl sy'n dod i ymweld â Rhondda Cynon Taf yn mwynhau'r lleoliad newydd.”
Meddai Richard Hughes, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen: “Mae’r gwaith ailddatblygu yma'n gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i adfer y Miwni yn un o leoliadau cerddoriaeth ac achlysuron gorau De Cymru. Gydag unrhyw brosiect o’r maint yma, mae angen cyflawni cryn dipyn o waith dylunio cyn mynd ati i ddechrau gwaith ar y safle.
"Dyma gyfle gwych i ddefnyddio'r hyn rydyn ni wedi’i ddysgu gan y gymuned i helpu i gefnogi’r broses yma a llunio dyluniad sy’n gwireddu ein gweledigaeth ni ynghyd â gweithio o fewn y cyllid sydd ar gael i ni.”
Wedi ei bostio ar 16/03/23