Skip to main content

Cau ffyrdd a gwaith gosod wyneb newydd ar Stryd yr Orsaf, Heol Pontypridd, a Stryd Hannah yn ardal Porth.

Porth Closures

Bydd gwaith gwella priffyrdd yn ardal Porth yn dechrau ddydd Llun 15 Mai, felly bydd angen cau Stryd yr Orsaf, rhan fechan o Heol Pontypridd, a rhan fwyaf gogleddol Stryd Hannah am gyfnod o 4 wythnos.

Bydd busnesau lleol AR AGOR yn ôl yr arfer yn ystod y cyfnod yma, a bydd pob maes parcio canol y dref AR AGOR ac AM DDIM.

Bydd y gwaith yma'n arwain at gau Heol yr Orsaf a rhan fwyaf gogleddol Stryd Hannah. Bydd y drefn yma hefyd yn effeithio ar fynediad i Stryd Taf y Gorllewin, er y bydd trefniadau dros dro yn eu lle i sicrhau bod modd cynnal mynediad i drigolion.

Bydd croesfan dros dro i gerddwyr ar gael ar gyfer Stryd yr Orsaf. Fydd dim modd teithio tua'r gogledd ar hyd Heol Pontypridd yn y Sgwâr am gyfnod y gwaith, gyda thraffig yn cael ei ddargyfeirio i'r A4048. 

Mae angen cynnal y gwaith yma er mwyn gwella cyfanrwydd a chryfder wyneb y ffordd ar gyfer mwy o ddefnydd a thraul ar y priffyrdd yn sgil cyflwyno Cyfnewidfa Drafnidiaeth newydd. Mae hyn yn rhan o gynlluniau ehangach i adfywio canol tref Porth.

Mae'r Cyngor a'n contractwr, Encon Construction, wedi gwneud pob ymdrech i leihau'r effaith bydd y gwaith yn ei chael cymaint â phosibl. Bydd y gwaith yn cael ei gynnal rhwng 08:00 a 18:00 ddydd Llun i ddydd Gwener a rhwng 08:00 a 13:00 ddydd Sadwrn. Fodd bynnag, bydd y ffyrdd yn parhau i fod ar gau am gyfnod y gwaith.

Mae'r Cyngor yn deall y bydd y gwaith yma'n achosi aflonyddwch i drigolion a busnesau sy'n gweithredu yn yr ardal. Bydd y contractwr, Encon Construction, yn cynnig cymorth o ran derbyn parseli i drigolion a busnesau sy'n cael eu heffeithio gan y penderfyniad i gau'r ffyrdd.

Mae modd gweld y trefniadau rheoli traffig a llwybrau amgen ar wefan y Cyngor, yma: www.rctcbc.gov.uk/traffig

Wedi ei bostio ar 12/05/2023