Skip to main content

Newidiadau i Swyddfeydd y Cyngor

Mewn ymateb i newidiadau yn y ffordd o weithio ac i wireddu arbedion pwysig i fynd tuag at wasanaethau rheng flaen, mae'r Cabinet wedi cymeradwyo opsiynau i ostwng nifer ei swyddfeydd yn ei gyfarfod yr wythnos nesaf. Byddai'r dull arfaethedig yn golygu lleoli swyddfeydd y Cyngor mewn canol trefi neu'n agos atyn nhw yn y dyfodol i gefnogi'r economi leol.

Mae'r cynigion yn cynnwys gwagio chwe swyddfa bresennol y Cyngor – Adeilad 'PSSO' Cwm Rhondda yn Nhonypandy, Swyddfeydd y Cyngor ym Mhentre, Tŷ Trevithick yn Abercynon, Rock Grounds yn Aberdâr, y Pafiliynau yng Nghwm Clydach a Thŷ Sardis (lloriau 2-6) ym Mhontypridd. Byddai'r cynigion hefyd yn darparu lleoliad strategol ar gyfer datblygu ysgol arbennig newydd. 

Byddai'r newidiadau yma'n gwireddu arbedion o bron i hanner miliwn o bunnoedd y flwyddyn i gyllideb y Cyngor, wrth ddiogelu a gwella ein gwasanaethau hanfodol. Yn ogystal â hyn, bydden nhw'n dileu rhwymedigaeth ôl-groniad cynnal a chadw o £2.9 miliwn ar draws y chwe safle sy'n cael eu gwagio. Yn arwyddocaol, byddai'r newidiadau yn gwneud cyfraniad enfawr tuag at ymrwymiad Newid yn yr Hinsawdd y Cyngor a'r nod i gyrraedd Carbon Sero-Net, trwy leihau ein hallyriadau CO2  blynyddol o 41%.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf: “Ddydd Llun, 15 Mai, trafododd Aelodau’r Cabinet y Strategaeth Swyddfeydd Drafft sy’n ymateb i’r ffordd newidiol y mae staff bellach yn ymgymryd â’u rolau, a ddaw yn sgil y pandemig byd-eang. Mae llawer o weithwyr y Cyngor yn gweithio rhwng eu cartref a swyddfa. Mae hyn wedi lleihau’r defnydd o 21 prif swyddfa’r Cyngor yn sylweddol.

“O dan y newidiadau yma, byddai Pencadlys y Cyngor (a Siambr y Cyngor) yn adleoli i Bontypridd, gan ddefnyddio swyddfeydd gwag sydd ar gael dros dri llawr yn Llys Cadwyn. Byddai hyn mewn safle gwych yng nghanol y dref gyda mynediad a chysylltiadau trafnidiaeth llawer gwell i staff ac ymwelwyr. Byddai hefyd yn cynyddu nifer y cwsmeriaid i fusnesau lleol.

“Mae’n bosibl y gallai safle’r Pafiliynau yng Nghwm Clydach gael ei ailddatblygu i fod yn Ysgol Arbennig newydd. Byddai hyn yn amodol ar ymgynghoriad dan y Cod Trefniadaeth Ysgolion. Byddai Tŷ Sardis (llawr 1) yn cael ei gadw fel Canolfan Cyngor a Chymorth Tai y Cyngor, a bydd cyfle i wella ei gyfleusterau presennol.

“Byddai staff ac ymwelwyr yn elwa ar hygyrchedd llawer gwell gan gynnwys cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus, tra byddai hefyd yn arwain at gael rhagor o gwsmeriaid i fasnachwyr canol y dref.

“Mae'r Strategaeth Ddrafft y bu Aelodau'r Cabinet yn ei thrafod yn ystyried y ffordd newydd yma o weithio, oherwydd does dim angen rhai o'n swyddfeydd bellach yn y ffordd yr oedd yn arfer bod eu hangen. Ffactorau allweddol eraill yw’r cyfleoedd i leihau ein hallyriadau carbon yn sylweddol, tra hefyd yn gwneud arbedion heb unrhyw effaith ar y gwasanaethau rydyn ni'n eu darparu yn y cyfnod ariannol anodd iawn yma.

“Yn wreiddiol, ateb dros dro ar gyfer Pencadlys yr Awdurdod Lleol newydd ar ôl ad-drefnu llywodraeth leol yng Nghymru ym 1996 oedd y safle yng Nghwm Clydach i fod – ac mae’r Cyngor wedi bod yno ers 27 mlynedd wedi hynny. Byddai’r safle’n parhau i fod yn hynod bwysig i ni, gyda’r potensial i ddatblygu ysgol arbennig newydd Rhondda Cynon Taf yno yn y dyfodol."

Wedi ei bostio ar 16/05/23