Mae'r Cabinet wedi cymeradwyo cynnig i greu man gwyrdd pwrpasol i ddarparu rhagor o opsiynau i gynnal achlysuron mwy ym Mharc Coffa Ynysangharad, Pontypridd. Mae wedi nodi lleoliad addas sydd heb ddefnydd ffurfiol ar hyn o bryd, ac y mae modd ei ddefnyddio i wella’r hyn a gynigir gan y parc i ymwelwyr.
Mae modd creu'r safle newydd yn yr ardal laswellt fawr wrth ymyl y mynediad i'r parc hanesyddol ar hyd pont Llys Cadwyn. Defnyddiwyd yr ardal yn flaenorol fel cwrs golff 'pitch-and-putt' ac yn ddiweddarach roedd yn gwrs golff troed. Mae'n anodd defnyddio'r tir ar gyfer defnydd amgen oherwydd yr arwyneb tonnog.
Yng nghyfarfod diweddaraf y Cabinet (ddydd Llun, 15 Mai), bu’r aelodau’n trafod a chytuno ar y cynnig i lwyfandir uchaf yr hen gwrs golff gael ei wneud yn wastad drwy dirlunio meddal i'w wneud yn fan gwyrdd mwy defnyddiadwy a darparu opsiwn ychwanegol i'r parc gynnal achlysuron mawr.
Byddai llwybrau troed bach hefyd yn cael eu creu i wella hygyrchedd, ynghyd â mannau eistedd. Byddai pob ymdrech yn cael ei wneud i wneud y mwyaf o fannau gwyrdd a byddai rhagor o goed yn cael eu plannu mewn mannau priodol.
Mae'r Cyngor yn gwadu'n bendant y sibrydion bod maes parcio yn cael ei gynllunio ar gyfer y parc.
Trafododd y Cabinet adroddiad sy'n amlinellu'r cynnig, yn cyflwyno dyluniadau cysyniad ac yn nodi cyfle posibl am arian allanol mae modd i'r Cyngor wneud cais amdano. Cytunodd yr Aelodau i'r cynnig gael ei ddatblygu, ac i gais ffurfiol am gyllid gael ei gyflwyno i Gronfa'r Pethau Pwysig Croeso Cymru Llywodraeth Cymru.
Mae’r cynnig wedi’i ystyried yn ddiweddar gan Is-bwyllgor Cabinet Parc Coffa Ynysangharad (mewn cyfarfod ym mis Mawrth 2023) yn ogystal â’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu (mis Mawrth 2023).
Meddai'r Cynghorydd Mark Norris, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Ffyniant a Datblygu: “Mae Parc Coffa Ynysangharad yn dirnod gwych sy’n boblogaidd gyda thrigolion Pontypridd ac ymwelwyr o ymhellach i ffwrdd. Mae’n cynnal amrywiaeth o achlysuron y Cyngor a sefydliadau eraill yn rheolaidd. Mae ein hachlysuron blynyddol yn cynnwys Cegaid o Fwyd Cymru, Picnic y Tedis a Gorymdaith a Gwasanaeth y Cofio. Byddai sefydlu safle achlysuron yn darparu ardal benodol yn y parc ar gyfer achlysuron o’r fath, gan alluogi rhagor o bobl i fwynhau’r hyn sydd ar gael.
“Byddai’r cynigion hefyd yn darparu man gwyrdd y mae modd ei ddefnyddio gan gymunedau lleol a byddai’n helpu i leihau’r aflonyddwch i ddefnyddwyr rheolaidd y parc pan fydd achlysur yn cael ei gynnal. Mae cyfle wedi'i nodi i gael cyllid grant i sefydlu'r safle achlysuron trwy Croeso Cymru.
“Yn ganolog i’r hyn sy’n cael ei gynnig yw deall pwysigrwydd cynnal yr ardal fel man gwyrdd, ac i warchod ecoleg yr ardal, gan gadw ein cyfrifoldeb i ymladd yn erbyn y newid yn yr hinsawdd mewn cof. Byddai'r cam dylunio manwl yn rhoi ystyriaeth drylwyr i warchod yr amgylchedd ble mae modd, ac yn nodi mesurau lliniaru addas megis plannu coed ychwanegol os does dim modd gwneud hynny.
“Nododd y Cabinet y gallai’r safle gael ei gwblhau erbyn tymor yr haf 2024, os bydd y broses ddylunio a thendro yn cychwyn yr haf yma. Byddai’r amserlenni yma hefyd yn cyd-fynd â’r tymhorau plannu priodol, gan y byddai angen ail-hadu ardal y safle achlysuron newydd yn dilyn gwaith tirlunio cychwynnol.”
Mae Croeso Cymru wedi gwahodd y Cyngor i gyflwyno cais ffurfiol i Gronfa'r Pethau Pwysig. Ystyrir y byddai’r cynigion ar gyfer y safle achlysuron ar gyfer Parc Coffa Ynysangharad yn bodloni amcanion y gronfa – gan gynnwys buddsoddi mewn seilwaith, cefnogi twristiaeth ac annog cyrchfannau gwyrdd, glân.
Mae'r Gronfa yn cynnig grantiau o hyd at £300,000 gydag uchafswm cyfradd grant o 80%. Amcangyfrifir y bydd y safle yn costio £249,000, a gallai'r Cyngor ddefnyddio cyllidebau buddsoddi presennol ar gyfer Adfywio i gyfateb ag unrhyw arian grant.
Byddai'r safle gwell yn ategu'r gwelliannau sylweddol a gyflawnwyd yn ddiweddar ym Mharc Coffa Ynysangharad. Mae hyn wedi cynnwys buddsoddiad o £1.199 miliwn gan Barc Rhanbarthol y Cymoedd i wella llwybrau troed a goleuadau, a chyflwyno cyfleuster newid yn Lido Ponty.
Mae gwaith hefyd yn mynd rhagddo ar brosiect ar wahân gwerth £1.9 miliwn i adnewyddu safle seindorf a gardd isel y parc, creu canolfan hyfforddi a gweithgareddau newydd, gosod paneli dehongli, a chynnal achlysuron i hyrwyddo treftadaeth leol. Mae hyn yn cael ei gyflawni drwy Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol gyda chyfraniadau gan y Cyngor a menter Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.
Wedi ei bostio ar 16/05/2023