Skip to main content

Achlysur AM DDIM: Cynorthwyo busnesau lleol sy'n cyflogi cynhalwyr (gofalwyr) di dâl

Carers Business

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi dod ynghyd â Gofalwyr Cymru i gynnal achlysur AM DDIM ar gyfer cyflogwyr yn yr ardal leol i gynorthwyo eu staff sy'n gynhalwyr di-dâl.

Bydd yr Achlysur rhithwir AM DDIM yn cael ei gynnal ddydd Mawrth 6 Mehefin rhwng 9:30am a 10:30am. Cadwch eich lle AM DDIM yma.

Mae'r Cymorth sy'n cael ei gynnig i gyflogwyr canolig a bach eu maint, yn cynnwys pecyn cynhwysfawr ar-lein sy'n cynnwys: 

  • canllaw ar gyfer rheolwyr a chynhalwyr 
  • e-Ddysgu ar gyfer sesiynau cyflwyno/ymsefydlu mewn swydd,  a rheolwyr llinell 
  • gwybodaeth a chyngor ynglŷn â'r gyfraith 
  • pecyn cymorth ar gyfer cyflogwyr er mwyn eich helpu chi i ddatblygu arferion cyngor ar gyfer cynhalwyr a gwybodaeth am arfer dda 

Mae oddeutu 1 ym mhob 4 gweithiwr yn gofalu am rywun sy'n hŷn, anabl neu'n ddifrifol wael. Mae disgwyl i nifer y cynhalwyr yn y DU gynyddu o 6 miliwn i 9 miliwn dros y 30 mlynedd nesaf, mae cyfradd y cynhalwyr sy'n rhan o'ch gweithlu chi'n debygol o gynyddu'n sylweddol hefyd. 

Cynorthwyo cynhalwyr i barhau mewn gwaith drwy ddarparu strwythurau cymorth effeithiol a gweithio hyblyg, yn dod â buddion sylweddol i gynhalwyr a'u teuluoedd, busnesau a'r economi ehangach.

Mae cynorthwyo cynhalwyr nad ydyn nhw'n cael eu talu'n cynnwys y manteision canlynol i gyflogwyr:

  • Denu a chadw staff
  • Lleihau straen, absenoldebau salwch ac absenoldebau
  • Lleihau costau recriwtio a hyfforddi
  • Cynyddu cydnerthedd a chynhyrchiant
  • Gwella darpariaeth gwasanaeth
  • Dwyn arbedion cost
  • Gwella rheolaeth pobl a chalonogi staff

Wrth ystyried yr hinsawdd economaidd bresennol, does dim amser pwysicach wedi bod er mwyn canolbwyntio ar fanteision cadw gweithwyr medrus, yn hytrach na gorfod gwario er mwyn denu a hyfforddi staff newydd.

Meddai'r Cynghorydd Gareth Caple, Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol: "Rwy'n falch iawn fod Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi partneru â Gofalwyr Cymru i ddarparu'r cymorth ymarferol a chynhwysfawr yma ar gyfer ein busnesau lleol.

"Mae cynhalwyr sydd ddim y ncael eu talu yn chware rôl hanfodol yn ein cymunedau ac ein heconomi. Maen nhw'n cael eu hanwybyddu'n aml iawn, fodd bynnag, mae'r hyn maen nhw'n ei wneud i'r rhai maen nhw'n gofalu amdanyn nhw'n amhrisiadwy. Rydyn ni eisiau cynorthwyo busnesau i gynorthwyo eu gweithwyr sydd â dyletswyddau gofal nad ydyn nhw'n cael eu talu.

"Rwy'n annog i bob busnes lleol fynychu'r achlysur er mwyn darganfod sut mae modd iddyn nhw gynorthwyo eu gweithwyr sy'n gynhalwyr nad ydyn nhw'n cael eu talu'n well, ynghyd ag elwa o gadw staff medrus sy'n cael eu gwerthfawrogi."

Mae ymchwil gan Ysgol Economeg Llundain yn 2018 yn dangos fod cynhalwyr nad ydyn nhw'n cael eu talu'n gadael eu gwaith yn costio mwy na £2.9 biliwn y flwyddyn i Lywodraeth y DU. Am fod llai o bobl ifainc yn mynd i mewn i'r farchnad swyddi - a  

  • 71% o gynhalwyr nad ydyn nhw'n cael eu talu'n poeni am orfod gweithio a gofalu.
  • Mae 53% o gynhalwyr sy'n gweithio'n dweud bydd dychwelyd i weithle'n fwy o her.
  • Mae 14% o gynhalwyr yn wynebu risg o leihau neu roi'r gorau i waith os nad ydyn nhw'n cael gweithio o gartref.
  • Mae un ym mhob tri chynhaliwr yn wynebu risg o leihau neu roi'r gorau i waith heb ofal cymdeithasol digonol.

Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch: CynhalwyrSynGweithio@rctcbc.gov.uk

Wedi ei bostio ar 26/05/23