Mae gwaith sefydlogi'r arglawdd a gafodd ei ddifrodi yn Heol Ynysybwl, Glyn-coch, bellach wedi'i gwblhau. Bydd y gwaith terfynol i osod wyneb newydd ar y ffordd yn cael ei gynnal o dan gyfres o sifftiau nos (rhwng 30 Mai a 2 Mehefin) i gwblhau'r cynllun yn llawn.
Roedd angen y cynllun sylweddol a chymhleth i sefydlogi'r arglawdd o dan y B4273 yn dilyn gwaith cloddio tir blaenorol heb ei awdurdodi, a ddadsefydlogodd y ffordd uchod. Mae lôn Heol Ynysybwl tua'r de a'r llwybr troed agosaf at yr arglawdd ar gau i sicrhau diogelwch.
Dechreuodd y prif waith i unioni'r difrod ym mis Mawrth 2023, ac mae wedi cynnwys gosod waliau cadw mawr a hoelion pridd i ailsefydlogi 25 metr o'r arglawdd. Mae gwaith ffensio o amgylch ardal yr arglawdd hefyd wedi'i gwblhau yn ddiweddar – wrth i waith gosod cyrbiau fynd rhagddo ar hyn o bryd.
Er mwyn cwblhau'r cynllun cyffredinol, bydd y gwaith terfynol i osod wyneb newydd ar y ffordd yn cael ei gynnal yr wythnos nesaf (rhwng 30 Mai a 2 Mehefin). Mae disgwyl i'r goleuadau traffig sydd wedi bod ar waith yn Heol Ynysybwl gael eu symud ddydd Llun, 5 Mehefin, a hynny yn dilyn paentio llinellau gwyn ar y ffordd.
Cau ffyrdd a threfniadau bws ar gyfer y gwaith gosod wyneb newydd terfynol
Bydd y gwaith gosod wyneb newydd yn cael ei gynnal rhwng 7pm a 2am am bedair noson rhwng dydd Mawrth 30 Mai a dydd Gwener, 2 Mehefin, (gorffen am 2am ddydd Sadwrn, 3 Mehefin). Mae'r gwaith wedi'i drefnu gyda'r nos er mwyn lleihau tarfu ar draffig lleol, a'r gobaith yw y bydd yr oriau gwaith yn tarfu cyn lleied â phosibl ar drigolion sy'n byw yn yr ardal gyfagos. Does dim modd cynnal y gwaith wrth gau lôn oherwydd lled cyfyngedig y ffordd.
Bydd angen cau ffordd rhwng 7pm a 2am yn Heol Ynysybwl bob nos yn ystod cyfnod y gwaith. Bydd hyn dros 320 metr rhwng y gyffordd â Lôn y Cefn (ger rhifau 36/38 Teras Glyn-coch) a'r garej atgyweirio ceir (Diamond Auto Repairs). Bydd mynediad ar gael i gerddwyr a cherbydau'r gwasanaethau brys.
Bydd mynediad ar gael i drigolion i Fythynnod y Berwedd-dy o ochr ddeheuol y ffordd sydd ar gau. Fydd y mannau parcio y tu blaen i'r eiddo ar Deras Glyn-coch ddim ar gael o fore 30 Mai am gyfnod y gwaith.
Bydd arwyddion i'w gweld o'r llwybr amgen i fodurwyr – ar hyd y B4273 (Heol Ynysybwl, Heol Newydd, Stryd Robert, Heol Clydach, Hen Ffordd Ynys-y-bwl), Heol-y-Mynach, Trem Hyfryd, Heol Llanwynno, Teras y Ddraenen Wen, Stryd Morgannwg, Heol Abercynon, Heol Penrhiwceibr, Ffordd Gyswllt Ddeheuol ar draws y Cwm, yr A4059, yr A470, Stryd y Bont, Heol Gelliwastad, System Gylchu Heol Sardis, Heol Berw a Heol Ynysybwl (neu'r llwybr yma i'r gwrthwyneb).
Fydd dim modd i deithiau bws gyda'r hwyr Gwasanaeth 102 Adventure Group Travel, sydd fel arfer yn stopio yn Lôn y Cefn ger Ysgol Gynradd Craig yr Hesg, redeg yn ôl yr arfer. Bydd hyn yn effeithio ar wasanaethau tua'r de am 8.05pm, 9.05pm, a 10.05pm, a'r gwasanaethau tua'r gogledd am 7.04pm, 8.05pm, 9.05pm, 10.05pm, a 11.36pm.
Bydd y Cyngor yn gweithredu bws gwennol rhad ac am ddim ar gyfer y gwasanaethau bws tua'r de o 7pm ymlaen. Bydd y gwasanaeth yma’n cludo teithwyr o ardaloedd Glyn-coch ac Ynys-y-bwl i ben gogleddol y ffordd fydd ar gau yn Heol Ynysybwl. Bwriwch olwg ar amserlen y bws gwennol drwy ddilyn y ddolen yma.
Bydd gwasanaethau bws tua'r gogledd yn dod i ben ym mhen deheuol y ffordd fydd ar gau yn Heol Ynysybwl. Bydd cerbyd llai yn cael ei ddefnyddio fel y bydd modd iddo droi, cyn teithio tua'r de i Bontypridd. Bydd yn aros hyd nes y bydd y bws gwennol yn dychwelyd o ardaloedd Glyn-coch ac Ynys-y-bwl, a hynny er mwyn i drigolion barhau â’u teithiau i Bontypridd. Bydd hyn yn gwneud yr amseroedd teithio arferol ychydig yn hwyrach.
Bydd gan Wasanaeth 25 Stagecoach, sy'n gweithredu rhwng Fernhill a Phontypridd trwy Ynys-y-bwl a Glyn-coch, drefniadau dros dro ar gyfer y cyfnod y bydd y ffordd ar gau. Bydd yn teithio trwy Fernhill, Cefnpennar, Perthcelyn ac yna i Bontypridd ar hyd yr A470. Fydd dim modd iddo wasanaethu Ynys-y-bwl na Glyn-coch. Dylai trigolion o'r ardaloedd yma sy'n dymuno teithio i Bontypridd ddefnyddio Gwasanaeth 102 neu'r bws gwennol rhad ac am ddim. Serch hynny, does dim gwasanaeth uniongyrchol i Berthcelyn nac oddi yno (o Ynys-y-bwl na Glyn-coch) yn ystod cyfnod y gwaith.
Mae'n debygol y bydd rhywfaint o sŵn na fydd modd ei osgoi ar gyfer y trigolion sy'n byw'n agos i'r ffordd lle bydd y gwaith yn mynd rhagddo. Mae'r Cyngor wedi cael yr holl drwyddedau priodol ar gyfer y gwaith sydd i ddod gyda'r nos, a nod yr oriau gwaith (7pm-2am) yw lleihau'r effaith ar drigolion cymaint â phosibl.
Diolch ymlaen llaw i drigolion a defnyddwyr y ffordd am eich amynedd a'ch cydweithrediad parhaus wrth i'r cynllun fynd rhagddo a dod i ben ar 5 Mehefin.
Wedi ei bostio ar 26/05/23