Bydd gwaith cynnal a chadw pwysig yn dechrau ar Bont Glan-elái yn Nhonysguboriau yr wythnos nesaf, wrth i'r Cyngor gynnal cynllun adnewyddu cynhwysfawr i atgyweirio'r strwythur mawr a'i ddiogelu ar gyfer y dyfodol.
Mae'r bont fwa wedi'i gwneud o gerrig ac yn cario ceir dros Afon Elái ar Heol Glan-elái, ger cylchfan yr A473. Bydd gwaith atgyweirio yn dechrau ddydd Llun, 15 Mai. Mae'r Cyngor wedi penodi Centregreat Ltd yn gontractwr â chyfrifoldeb am gyflawni'r gwaith cynnal a chadw yma, a fydd yn para tua wyth wythnos i gyd.
Bydd y gwaith yn cynnwys tynnu pwyntiau rhydd o'r bwa a'r ategweithiau, tynnu llystyfiant o'r waliau pen a'r parapetau, atgyweirio craciau, tynnu coed oddi ar waliau hyfforddi i fyny'r afon ac ailadeiladu waliau hyfforddi. Fydd y cynllun ddim yn cynnwys unrhyw waith cryfhau mawr ar y bont.
Bydd angen rheoli traffig ar Heol Glan-elái i hwyluso'r mynd a dod o ran y cerbydau compownd y safle. Serch hynny, dim ond cau lonydd sengl byddwn ni, a'u rheoli gan ddefnyddio byrddau Stopio/Ewch. Dydyn ni ddim yn rhagweld y bydd y ffordd yn cau'n llawn. Efallai y bydd angen cau llwybrau troed ar y bont hefyd, ond bydd cerddwyr yn cael eu dargyfeirio'n ddiogel i'r palmant gyferbyn.
Mae'r cynllun yma yn Nhonysguboriau yn cael ei ariannu'n rhan o Raglen Gyfalaf y Cyngor cafodd ei chytuno ym mis Mawrth 2023. Mae'r rhaglen sydd werth £27.665 miliwn, ar gyfer Priffyrdd, Trafnidiaeth a Phrosiectau Strategol yn 2023/24. Mae'n rhan o £4.45 miliwn ar gyfer Strwythurau Priffyrdd.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: “Mae'r gwaith yma i Bont Glan-elái yn gynllun wedi'i amserlennu - rhan o waith monitro a chynnal a chadw'r Cyngor o tua 1,500 o strwythurau sy'n cynnal ein rhwydwaith priffyrdd yn Rhondda Cynon Taf. Bydd gwaith yn yr wythnosau nesaf yn cynnwys adnewyddu gwaith maen y strwythur, clirio llystyfiant a gwaith ailbwyntio.
“Dyma gynllun allweddol o fewn ein cyllid parhaus mawr ar gyfer strwythurau. Mae Rhaglen Gyfalaf 2023/24 wedi dyrannu £4.45 miliwn ar gyfer strwythurau priffyrdd a £780,000 ar gyfer strwythurau parciau. Yn rhan o'r cynllun mae gwaith pwysig arall yn mynd rhagddo, gan gynnwys gwaith i Bont Bodringallt yn Ystrad, Pont Imperial ym Mhorth, Pont Graig Las yn Hendreforgan, angorau creigiau ar Ffordd y Rhigos ym Mlaenrhondda a Phont Droed Stryd y Lofa yn Nhrehafod.
“Bydd gwaith yn dechrau ar Bont Glan-elái ar 15 Fai, gyda’r rhan fwyaf o weithgarwch yn digwydd ar lefel o dan y ffordd. Serch hynny, efallai y bydd angen cau rhai lonydd a llwybrau troed ar Heol Glan-elái, a bydd y rhain yn cael eu hamserlennu y tu allan i'r oriau teithio prysuraf lle bo modd. Bydd swyddogion yn gweithio gyda'n contractwr penodedig i wneud cynnydd gyda chyn lleied o aflonyddu â phosibl. Diolch ymlaen llaw i drigolion am eu cydweithrediad."
Wedi ei bostio ar 09/05/23