Skip to main content

Prif Wobrau Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf Ar Gael

Ymhen ychydig dros bymtheg mis, bydd golygon y genedl yn troi at gymoedd y de ac Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf.  Mae’r paratoadau ar gyfer ymweliad cyntaf y Brifwyl â’r ardal ers bron i 70 mlynedd eisoes wedi cychwyn, gyda’r trefnwyr yn rhyddhau’r cyfle i noddi neu gyflwyno’r prif wobrau, heddiw. 

Am y tro cyntaf, mae’r trefnwyr yn gwahodd datganiadau o ddiddordeb i gyflwyno’r prif wobrau, gyda phanel yn trafod a dewis y ceisiadau llwyddiannus.  Mae’r rhwyd yn cael ei daflu mor eang â phosibl, ac yn ôl Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, Helen Prosser, mae llawer o ddiddordeb yn lleol a chenedlaethol. 

Dywed, “Rydyn ni’n ymwybodol bod nifer o unigolion, cyrff a sefydliadau wedi’u siomi yn y gorffennol gan eu bod wedi colli’r cyfle i gyflwyno’r Gadair, y Goron neu rai o’n medalau a gwobrau sylweddol eraill.  

“Rydyn ni’n credu mewn gweithredu mewn ffordd ychydig yn wahanol yma yn Rhondda Cynon Taf, ac felly rydyn ni’n gwahodd unrhyw un i fynegi diddordeb i gyflwyno’r gwobrau.  Ac rydyn ni’n edrych ymlaen at dderbyn nifer fawr o geisiadau am yr anrhydedd erbyn y dyddiad cau ar 18 Mai. 

“Mae pobl yn awyddus iawn i fod yn rhan o’r Eisteddfod yma yn y Cymoedd, ac mae gan gymaint o bobl o bob rhan o Gymru a thu hwnt gysylltiad gyda rhywun neu rywbeth yn y dalgylch a llawer iawn eisiau cefnogi.  Rydyn ni’n ddiolchgar i bawb ym mhob man a, eu cyfeillgarwch a’u hawydd i fod yn rhan o’n Prifwyl ni y flwyddyn nesaf.” 

Ychwanegodd y Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg, Cyfranogiad Pobl Ifainc a'r Gymraeg: “Dyma gyfle prin i nifer o bobl ac rydyn ni’n awyddus i bob cymuned fod yn rhan o Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf.

“Dyma gyfle unigryw i fod yn rhan o’r ŵyl drwy noddi neu roi un o brif wobrau’r Eisteddfod Genedlaethol ac i chwarae rhan bwysig wrth gefnogi ein bwrdeistref sirol a’i chymunedau i wneud gwaith hanesyddol.

 

 

Mae’r wybodaeth a’r cyfle i fynegi diddordeb i gyflwyno un o’r prif wobrau yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf ar gael yma, www.eisteddfod.cymru/2024-gwobrau-mawr a’r dyddiad cau yw dydd Iau 18 Mai. 

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf o 3-10 Awst y flwyddyn nesaf.

Wedi ei bostio ar 10/05/23