Skip to main content

Adroddiad cynnydd ar brosiectau isadeiledd allweddol yn nhref Pontypridd

Pontypridd regeneration - Copy

Yn fuan, bydd y Cabinet yn derbyn diweddariad ar gynnydd a wnaed tuag at gyflawni prosiectau adfywio sylweddol ym Mhontypridd, sydd â'r nod o wella pen deheuol y dref a hybu masnach i fusnesau.

Yn ei gyfarfod ddydd Llun, 15 Mai, bydd y Cabinet yn trafod adroddiad manwl sy'n amlinellu’r sefyllfa ddiweddaraf ar brosiectau ‘Porth y De' a gaiff eu nodi yng Nghynllun Creu Lleoedd Pontypridd. Mae'r rhain wedi'u clustnodi ar gyfer hen adeiladau M&S/Dorothy Perkins/Burtons a hen safle'r Neuadd Bingo.

Mae buddsoddi yng nghanol dref Pontypridd yn parhau i fod yn flaenoriaeth i'r Cyngor, a hynny’n dilyn Fframwaith Adfywio Pontypridd (2017-2022). Dyma fuddsoddiad gwerth £115 miliwn a gyflawnodd Llys Cadwyn a Chwrt yr Orsaf, ynghyd â chynnydd pwysig ar brosiectau tymor hwy yn YMCA Pontypridd, Canolfan Gelf y Miwni a Pharc Coffa Ynysangharad.

Fe gymeradwyodd y Cabinet y Cynllun Creu Lleoedd y llynedd i ddisodli'r Fframwaith a pharhau i fuddsoddi yn y gwaith o adfywio canol tref Pontypridd am flynyddoedd i ddod. Mae'r Cynllun yn nodi sawl uchelgais craidd, gan gynnwys cynllun 'Porth y De' sy'n rhoi defnydd newydd i safleoedd datblygu strategol.

Y diweddaraf am y prosiect – safleoedd M&S/Dorothy Perkins/Burtons

Mae'r Cyngor eisoes wedi cyhoeddi ei weledigaeth i gael maes ar lan yr afon ar gyfer y safleoedd gwag yma yn 97-99a a 100-102 Stryd y Taf. Mae'r datblygiad yn rhoi cyfle i wella'r parth cyhoeddus ac agor y treflun tuag at yr afon – gyda'r potensial ar gyfer defnydd hamdden, masnachol a manwerthu.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo buddsoddiad gwerth £1.283 miliwn i ddymchwel yr adeiladau, gyda'r grant yn cyfateb i 70% o'r gost. Mae contractwr dymchwel wedi'i benodi a dechreuodd y gwaith paratoadol ar y safle ddiwedd mis Mawrth 2023. Mae disgwyl i brif gyfnod y gwaith dymchwel ddechrau ym mis Mehefin i'w gwblhau erbyn y gaeaf.

Bydd y datblygiad yn creu cysylltiadau gwell rhwng y stryd fawr a glan yr afon, yn agor golygfeydd o'r parc, ac yn cynnwys seilwaith addas ar gyfer marchnadoedd dros dro a siopau bwyd stryd. Bydd dull parc llawer gwell yn cael ei greu, tra bydd y datblygiad hefyd yn ychwanegu amddiffyniad rhag llifogydd yn y dyfodol, lle bo modd. Mae carfan amlddisgyblaethol wedi'i phenodi i greu cynnig dylunio sy'n esthetig ac sy'n bodloni'r holl anghenion yma.

Y diweddaraf am y prosiect – Safle’r Neuadd Bingo a Chlwb Nos Angharad

Mae adroddiad y Cabinet yn cadarnhau, oherwydd y dirywiad diweddar a sylweddol yn yr economi, y gyfradd chwyddiant uchel a’r cynnydd cyffredinol mewn costau byw, fod datblygiad arfaethedig y Cyngor wedi’i arwain gan westy ar gyfer y safle yma wedi dod yn anymarferol.

Er i gynnig y gwesty gael ei gefnogi mewn ymgynghoriad ar Gynllun Creu Lleoedd Pontypridd y llynedd, soniodd trigolion a rhanddeiliaid allweddol hefyd am y syniad o ddatblygu’r safle fel man agored sy’n ehangu’r stryd fawr, ac o bosibl yn gwella ansawdd aer. Bellach, mae opsiynau amgen yn cael eu datblygu ar gyfer y potensial i greu parth cyhoeddus o ansawdd uchel ar y safle. 

Law yn llaw â hyn, mae'r Cyngor yn cynnig defnyddio rhan fechan o'r safle i greu bae bysiau ddwy ffordd gyferbyn â'r orsaf drenau, gan wella mynediad ym mhen deheuol y dref yn sylweddol. Mae cyfle hefyd i integreiddio teithiau bws a thrên yn well – yn enwedig gyda nifer y teithiau trên sy’n cyrraedd Pontypridd oherwydd cynnydd sylweddol drwy Fetro De Cymru.

O bosibl, byddai'r bae bysiau yn golygu gwneud newidiadau strwythurol mawr i hen safle'r Neuadd Bingo. Gwnaeth y Cyngor gais am gyllid Awdurdod Trafnidiaeth Prifddinas-Ranbarth Caerdydd sydd ar gael yn 2022/23 i ddatblygu’r cynigion. Mae swyddogion hefyd wedi cyflwyno cais rhanbarthol gwerth £930,000 i Gronfa Trafnidiaeth Leol Llywodraeth Cymru, er mwyn parhau â’r gwaith dylunio a dechrau cyflawni’r prosiect yn 2023/24.

Meddai'r Cynghorydd Mark Norris, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Ffyniant a Datblygu: “Bydd y Cabinet yn derbyn diweddariad pwysig ar gynnydd y prosiectau adfywio mawr sydd wedi’u clustnodi ar gyfer Canol Tref Pontypridd, i adfywio safleoedd strategol yn Stryd y Taf a hybu masnach ymhellach i fusnesau. Mae gweledigaeth 'Porth y De' wedi'i amlinellu yng Nghynllun Creu Lleoedd Pontypridd, a dderbyniodd adborth cadarnhaol gan y cyhoedd y llynedd.

“Rydyn ni bellach ar drothwy cyfnod cyffrous iawn ar gyfer y prosiect yn safleoedd M&S, Dorothy Perkins a Burtons. Bydd y cyfnod dymchwel yn dechrau'r haf yma ar ôl i Lywodraeth Cymru gymeradwyo cyllid. Bydd dymchwel yr adeiladau yn agor y dref tuag at yr afon am y tro cyntaf. Yna, byddwn ni wir yn gallu dychmygu'r datblygiad arfaethedig, a'r effaith gadarnhaol y bydd yn ei gael ar y dref. Mae cynnig dylunio ar gyfer y datblygiad terfynol ar waith ar hyn o bryd.

"Ar gyfer hen safle'r Neuadd Bingo, mae cynllun diwygiedig y Cyngor yn cynnwys dwy brif elfen. Yr elfen gyntaf yw’r cynnig i ddefnyddio'r rhan fwyaf o'r safle i greu man cyhoeddus agored o ansawdd uchel i ehangu a gwella ardal ddeheuol y dref. Fe wnaeth y cynnig yma dderbyn cryn gefnogaeth yn yr ymgynghoriad y llynedd, ac mae swyddogion bellach yn datblygu opsiynau i gyflawni prosiect o’r natur yma.

"Yr ail elfen yw bae bysiau newydd arfaethedig gyferbyn â'r orsaf drenau. Byddai hyn yn cynyddu mynediad i ben yma'r dref yn aruthrol, a chafodd trafodaethau cadarnhaol eu cynnal gyda Thrafnidiaeth Cymru ynghylch gwella’r integreiddio rhwng gwasanaethau bws a thrên lleol - yn enwedig wrth ragweld 24 o deithiau trên yn mynd drwy Bontypridd bob awr drwy Fetro De Cymru.

"Mae hefyd yn bwysig ychwanegu bod yr angen am westy ym Mhontypridd yn dal i gael ei gydnabod, er nad yw'r Cyngor bellach yn mynd ar drywydd y datblygiad sy'n cael ei arwain gan westy. Bydd y swyddogion yn parhau i weithio gyda'r sector preifat a phartneriaid eraill dros ddarpariaeth amgen, a fydd yn canolbwyntio ar adeiladau presennol yng nghanol y dref."

Bydd y Cabinet yn trafod sefyllfaoedd diweddaraf y ddau brosiect ar Stryd y Taf ddydd Llun, a gallai ddewis cymeradwyo eu dyluniad a'u hailddatblygiad. Gallai Aelodau hefyd gymeradwyo gweithredu opsiynau datblygu fel sydd wedi'u nodi yn yr adroddiad, a chytuno i'r Cyngor gynnal ymarfer cyhoeddusrwydd sylweddol gyda'r gymuned a rhanddeiliaid ar y camau nesaf.

Wedi ei bostio ar 10/05/23