Bydd Plac Porffor i anrhydeddu’r ymgyrchydd gwleidyddol lleol, Rose Davies, yn Amgueddfa Cwm Cynon, Aberdâr.
Mae Mrs Davies yn cael ei chydnabod am ei chyfraniad arbennig i fywyd cyhoeddus. Cafodd yr ymgyrch Placiau Porffor ei chyflwyno yn 2017. Pwrpas y placiau yw sicrhau cydnabyddiaeth i fenywod hynod yng Nghymru, coffáu eu cyflawniadau a chadarnhau eu gwaddol (legacy) yn hanes ein gwlad.
Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden: “Roedd Rose Davies yn angerddol dros ei chymuned a Chymru gyfan, a chwaraeodd ran enfawr mewn bywyd cyhoeddus yn ystod cyfnod pwysig iawn yn ein hanes.
“Yn union fel gweddill ei theulu, dechreuodd ei gyrfa ym myd addysg ond daeth yn aelod gweithredol amlwg iawn ym myd gwleidyddiaeth, gan ddylanwadu ar lawer o benderfyniadau mawr a gafodd eu gwneud ar y pryd.
“Rwy’n falch iawn na fydd Rose Davies yn mynd yn angof. Wrth i ni ddadorchuddio Plac Porffor yn ei thref enedigol, byddwn ni'n nodi ei chyfraniad enfawr a'i gwaddol.”
Placiau Porffor yng Nghymru
Cafodd Florence Rose Davies ei geni yn Aberdâr ar 16 Medi, 1882. Roedd gwleidyddiaeth yn bwysig iawn ym mywyd Rose, ac fe weithiodd yn galed iawn i'r Llywodraeth, mudiadau gwleidyddol, a'r weinyddiaeth sifil.
Roedd Rose yn un o saith o blant i'r gweithiwr tun lleol William Henry Rees a’i wraig Fanny. Dilynodd Rose ei brodyr a chwiorydd i’r proffesiwn addysgu. Dechreuodd Rose yn fonitor plant yn Ysgol Genedlaethol Tref Aberdâr, cyn mynd ymlaen i fod yn athrawes a meistres gynorthwyol yn yr ysgol.
Er bod ei theulu hi ddim yn flaenllaw yn y byd gwleidyddol, roedd blynyddoedd ffurfiannol Rose yn drwm dan ddylanwad gwleidyddiaeth. Yn 1898, roedd streic hir a chwerw'r glowyr a rhwng 1900 a 1915, cafodd Keir Hardie ei ethol, sef sylfaenydd y Blaid Lafur a’i AS cyntaf erioed dros Ferthyr Tudful ac Aberdâr.
Yn 1906, ar ôl bod i un o gyfarfodydd etholiadol Keir Hardie ym Merthyr Tudful, ymunodd Rose â’r Blaid Lafur. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, priododd athro lleol a oedd yn actifydd gyda’r mudiad cydweithredol. Ei enw oedd Edward (Ted) Davies.
Daeth Rose yn ysgrifennydd cyntaf Urdd Gydweithredol y Merched yn Aberdâr ac yn fuan wedi hynny cafodd ei chyfethol i Bwyllgor Addysg Cyngor y Dref, Aberdâr. Cafodd ei phenodi hefyd i gorff llywodraethu Ysgol Ramadeg y Bechgyn Aberdâr ac Ysgol Ramadeg Merched Aberdâr.
Erbyn 1915, roedd Rose, a oedd bellach yn fam i bump o blant, yn gadeirydd pwyllgor addysg yr awdurdod lleol ac roedd yn angerddol iawn dros ddatblygu’r ddarpariaeth a'r cyfleusterau a oedd ar gael mewn ysgolion ar gyfer disgyblion ag anableddau.
Dros y blynyddoedd, daeth Mr a Mrs Davies yn ffrindiau gyda Keir Hardie AS a bu’r ddau yn weithgar yn ei ymgyrchoedd etholiadol, gan gynnwys dau Etholiad Cyffredinol.
Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, ymgymerodd Rose â chyfrifoldebau cyhoeddus pellach, gan gynnwys ei Thribiwnlys Gwasanaeth Milwrol lleol. Erbyn 1918 fe gafodd ei hethol yn Gadeirydd Cyngor Masnach a Llafur Aberdâr – y fenyw gyntaf erioed i gadeirio'r rôl.
Daeth yn Ynad Heddwch yn 1920 ac fe gafodd ei hethol hefyd yn gynghorydd Llafur dros ward Gadlys yn Aberdâr. Ymgyrchodd yn ddiflino i wella gwasanaethau mamolaeth a dulliau atalgenhedlu.
Bum mlynedd yn ddiweddarach, cafodd ei hethol yn gynghorydd Llafur dros ward Aberaman yn Aberdâr yng Nghyngor Sir Morgannwg, gan ddod yn aelod benywaidd cyntaf yr awdurdod. O 1919 hyd 1926 roedd hi hefyd yn aelod o Fwrdd Ymgynghorol Cymreig y Bwrdd Iechyd.
Yn ystod y 1920au cynnar, roedd gan Rose Davies law pwysig iawn yn sefydliad mudiad y Blaid Lafur yn etholaeth seneddol newydd Aberdâr, a chafodd ei hethol yn ysgrifennydd cyntaf Cyngor Ymgynghorol Merched Llafur Dwyrain Morgannwg.
Daeth i hyrwyddo ag angerdd addysg wleidyddol bellach i fenywod a daeth hefyd yn weithgar yn Urdd Gydweithredol y Merched, ynghyd ag ystod o fudiadau heddwch y 1920au a mudiadau merched amrywiol ledled Cymru. Yn ogystal â hynny i gyd, chwaraeodd ran fawr yn y gwaith o baratoi'r gofeb heddwch i ferched yr Unol Daleithiau oddi wrth ferched Cymru.
Yn Etholiad Cyffredinol 1929, safodd Rose fel yr ymgeisydd Llafur cyntaf erioed ar gyfer adran Honiton yn Nyfnaint, ac er yn aflwyddiannus, dathlodd ei bod wedi 'hau hedyn i'r Blaid Lafur mewn ardal newydd.'
Parhaodd yn ffigwr cyhoeddus amlwg yn Aberdâr a Sir Forgannwg am weddill ei hoes. Yn 1925 cafodd ei dewis i fod yn llywodraethwr yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, ac yna yng Ngholeg Prifysgol De Cymru a Mynwy. Bu hefyd yn ffigwr amlwg ym materion Cymdeithas Goffa Genedlaethol Gymreig, a chadeiriodd bob un o bwyllgorau Cyngor Sir Morgannwg ar wahanol adegau, gan gael ei hethol yn Gadeirydd y Cyngor yn ddiweddarach.
Yn dilyn marwolaeth ei gŵr yn 1951, parhaodd Rose Davies â’i bywyd cyhoeddus gan dderbyn MBE yn 1934 a CBE yn 1954. Bu farw Rose ar 13 Rhagfyr, 1958, yn 76 oed. Cafodd yr angladd ei gynnal yn Eglwys Sant Elfan, Aberdâr, ac Amlosgfa Glyn-taf, Pontypridd.
Mae Plac Porffor er anrhydedd iddi yn cael ei ddadorchuddio yn Amgueddfa Cwm Cynon, Gadlys, Aberdâr, ddydd Gwener, 12 Mai, ble bydd yn cael ei chofio am byth am ei chyfraniad arbennig i fywyd cyhoeddus.
Gwasanaeth Treftadaeth y Cyngor wnaeth arwain y gwaith o gael Plac Porffor ar gyfer Rose Davies, ac mae’n rhan o brosiect ehangach sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru drwy’r Is-adran Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd a Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru.
Nod y prosiect 'Lleisiau Coll' ('Forgotten Voices') yw coffáu hanes hir gweithredu benywaidd ar Feysydd Glo De Cymru.
Wedi ei bostio ar 18/05/23