Skip to main content

Dyma wahoddiad gan Gyngor Rhondda Cynon Taf i Godi Eich Llais ar Ddiwrnod Rhuban Gwyn 2025

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn falch o gefnogi White Ribbon UK yn ystod Diwrnod Rhuban Gwyn eleni. Caiff y diwrnod yma ei nodi ar 25 Tachwedd bob blwyddyn. Mae Diwrnod Rhuban Gwyn hefyd yn nodi dechrau ymgyrch 16 Diwrnod o Weithredu, sy’n ymrwymo i roi terfyn ar drais ar sail rhywedd a thrais yn erbyn menywod a merched.

Mae Diwrnod Rhuban Gwyn, y cyfeirir ato hefyd fel Diwrnod Rhyngwladol Rhoi Terfyn ar Drais yn erbyn Menywod a Merched, yn rhan o ymgyrch fyd-eang sy’n ceisio rhoi terfyn ar drais gan ddynion yn erbyn menywod a merched drwy herio'r diwylliannau sy'n caniatáu’r trais yma. Mae thema eleni, "Codwn Ein Llais," yn anfon neges bwerus drwy annog dynion a bechgyn i herio agweddau, ymddygiadau ac iaith niweidiol sy'n cyfrannu at anghydraddoldeb a cham-drin.

Efallai nad yw ymddygiadau bob dydd megis jôcs rhywiaethol, heclo, a syllu ymwthiol yn ymddangos yn fater mawr, ond maen nhw'n creu amgylchedd lle mae cam-drin yn cael ei normaleiddio. Mae tynnu sylw at y materion yma, a pheidio aros yn dawel, yn rhoi cyfle i bob un ohonom ni chwarae ein rhan wrth atal trais cyn iddo ddechrau.

Pam bod Diwrnod Rhuban Gwyn yn bwysig:

Mae’r ffigurau isod yn dangos pam bod angen gweithredu:

  • Mae72% o'r rheiny sy'n wynebu cam-drin domestig yn fenywod (Swyddfa Ystadegau Gwladol, 2024)
  • Bydd1 ym mhob 4 menyw yn wynebu ymosodiad rhywiol yn ystod eu bywydau (Swyddfa Archwilio Cenedlaethol, 2025).
  • Roedd51% o'r menywod a gafodd eu lladd gan ddynion yn 2022 wedi'u lladd gan bartner presennol neu gyn-bartner (Femicide Census, 2022).
  • Mae achosion o gam-drin ar-lein hefyd yn cynyddu, gyda 77% o fenywod rhwng 7 a 21 mlwydd oed yn nodi eu bod wedi profi niwed ar-lein yn y flwyddyn ddiwethaf (Girlguiding, 2024).

Mae'r rhain yn fwy nag ystadegau - maen nhw'n cynrychioli'r bywydau go iawn sydd wedi'u heffeithio gan dawelwch a diffyg gweithredu. Rydyn ni'n ymwybodol nad yw pob dyn yn cyflawni trais, ond mae modd i bob dyn helpu i'w atal.

Sut i Gymryd Rhan

Mae modd i chi gymryd rhan yn ystod Diwrnod Rhuban Gwyn eleni drwy gyflawni sawl gweithred fach:

  • Gwisgwch y Rhuban Gwyn - y symbol byd-eang sy’n cynrychioli’r ymgyrch i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched.
  • Gwnewch Addewid y Rhuban Gwyn i beidio byth â chyflawni trais yn erbyn menywod, ei esgusodi neu aros yn dawel amdano.
  • Cefnogwch yr ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol drwy ddefnyddio'r hashnod #CodwnEinLlais.
  • Ydych chi'n poeni am eich ymddygiad eich hun? Mae'r ffordd rydych chi'n ymddwyn yn ddewis, ac mae modd i chi ddewis rhoi’r gorau iddi. Ffoniwch llinell gymorth anfeirniadol Respect am ddim: 0808 802 4040.

Meddai'r Cynghorydd Bob Harris, Aelod o'r Cabinet ar faterion Cymunedau: "Dyw trais yn erbyn menywod a merched ddim yn dechrau gyda niwed corfforol, mae'n dechrau gydag agweddau ac ymddygiadau sy'n aml yn cael eu hanwybyddu. Mae Diwrnod Rhuban Gwyn yn rhoi'r hyder i ni gyd godi ein llais a herio'r ymddygiadau yma, gan sicrhau bod ein cymunedau yn fwy diogel.

"Mae thema eleni - Codwn Ein  Llais - yn galw ar ddynion a bechgyn i wrthod aros yn dawel. Rydyn ni'n ymwybodol nad yw pob dyn yn cyflawni trais, ond mae modd i bob dyn helpu i'w atal.

"Mae gwisgo'r Rhuban Gwyn a gwneud Addewid y Rhuban Gwyn yn gamau syml ond pwerus sy'n dangos ein hymrwymiad i greu diwylliant o barch - lle mae modd i ferched a menywod fyw yn ddiogel rhag trais a cham-driniaeth."

Mae modd i Uned Ddiogelwch Rhondda Cynon Taf yma eich helpu chi i ddod o hyd i wasanaethau cam-drin domestig lleol – cysylltwch â nhw drwy ffonio 01443 494 190 neu 01443 400 791, neu cliciwch yma am ragor o wybodaeth.

Ymgyrch fyd-eang sy'n ceisio atal trais gan ddynion yn erbyn menywod drwy fynd i’r afael â’r achosion sylfaenol a hyrwyddo newidiadau diwylliannol cadarnhaol yw Diwrnod Rhuban Gwyn. Mae'r ymgyrch yn pwysleisio nad yw pob dyn yn cyflawni trais, ond mae modd i bob dyn helpu i'w atal.

White Ribbon UK yw'r elusen fwyaf blaenllaw yng Nghymru a Lloegr sy'n gweithio i roi terfyn ar drais gan ddynion yn erbyn menywod a merched, a hynny drwy ei atal rhag digwydd yn y lle cyntaf a thrwy ymgysylltu â dynion a bechgyn, gan roi cyfle iddyn nhw fod yn rhan o'r datrysiad. Mae gyda nhw dros 8000 o gynorthwywyr sy’n eu helpu nhw i rannu’r neges. Maen nhw hefyd yn helpu mwy na 500 o sefydliadau i greu amgylcheddau mwy diogel a mwy parchus yn rhan o raglen Achredu a rhaglen i sefydliadau sy’n cefnogi’r ymgyrch.

Mae modd i chi ddysgu rhagor yma: White Ribbon UK

Wedi ei bostio ar 25/11/2025