Mae tyllau yn y ffordd yn fwy cyffredin yr adeg yma o’r flwyddyn yn dilyn tywydd oer a gwlyb y gaeaf. Mae gyda ni garfanau ychwanegol wrth law yn gweithio i drwsio’r rhain.
Oeddech chi'n gwybod bod modd i chi roi gwybod i ni am dwll yn y ffordd yn gyflym ar-lein yma?
Rydyn ni wedi dyrannu £4.8 miliwn ar gyfer cynlluniau gosod wynebau newydd eleni, ac mae cyllideb ar wahân ar gael i ymateb i faterion sy'n codi.
Rydyn ni'n manteisio ar y tywydd gwell yn y gwanwyn a'r haf i gyflawni llawer o'r gwaith yma. Defnyddiwch y ddolen uchod – dyma’r ffordd gyflymaf a hawsaf i roi gwybod i ni am dyllau yn y ffordd.
Cofiwch hefyd fod yr A470 yn dod o dan gyfrifoldeb Asiant Cefnffyrdd De Cymru (SWTRA) ac nid y Cyngor. Diolch
Wedi ei bostio ar 02/05/2023