Mae’n bosibl y bydd preswylwyr yn sylwi bod gwaith yn mynd rhagddo ar y safle o’r wythnos nesaf ymlaen i wneud atgyweiriadau i wal yr afon o dan Heol #Trehopcyn. Does dim disgwyl i'r gwaith achosi llawer o darfu yn lleol.
Bydd y cynllun, ger y bont droed sy'n arwain at y cae criced, yn cynnwys clirio llystyfiant o du ôl y waliau a chael gwared ar frics, gwaith maen a rwbel concrit.
Bydd y rhannau o'r strwythur sydd wedi cwympo yn cael eu tynnu, eu clirio a'u hailadeiladu gan ddefnyddio carreg wedi'i hadfer lle bo'n bosibl – tra bydd rhannau eraill o'r wal yn cael eu hailbwyntio.
Bydd y contractwr, Hammonds Ltd, yn cynnal y gwaith o ddydd Llun, 15 Mai, a bydd yn para tua 15 wythnos.
Does dim angen cynllun rheoli traffig ar y rhan fwyaf o'r gwaith, ond bydd goleuadau dwy ffordd yn cael eu gosod ar yr A4058 ar rai nosweithiau yn ystod yr wythnos (7pm-9pm) i hwyluso danfoniadau i'r safle.
Dyma ail gam y gwaith ar wal yr afon yn y lleoliad yma, a chaiff ei ariannu gan raglen gwerth £20.1 miliwn Llywodraeth Cymru ar gyfer gwaith atgyweirio o ganlyniad i Storm Dennis yn 2023/24.
Diolch ymlaen llaw i'r gymuned am eich cydweithrediad.
Wedi ei bostio ar 11/05/2023