Yn fuan, bydd ail gam y gwaith atgyweirio ar bont droed Parc Gelligaled o Goedlan Pontrhondda yn Ystrad yn parhau. Bydd gwaith yn cael ei gynnal gyda chyn lleied o darfu ag sy'n bosibl, gan sicrhau bod modd i'r cyhoedd ddefnyddio'r bont drwy'r rhan fwyaf o'r cynllun.
Cafodd y bont ei difrodi gan Storm Dennis a daethon ni o hyd i ddifrod difrifol pellach y llynedd felly roedd rhaid ei chau ar frys i gynnal gwaith atgyweirio ar yr adainfuriau. Cafodd cam un y gwaith atgyweirio ei gynnal yn yr hydref, sef gweithio ar rannau uchaf y bont. Cafodd cam dau, sef gwaith ar ochr isaf y strwythur, ei drefnu ar gyfer yr haf eleni oherwydd cyfyngiadau tymhorol ar waith ar yr afon.
Bydd cam dau yn dechrau ddydd Llun, 15 Mai, a bydd yn cynnwys gwaith maen a gwaith atgyweirio, ynghyd ag ailosod canllawiau'r bont, paentio, gwella goleuadau stryd a gosod wyneb newydd ar y bont droed. Bydd contractwr y Cyngor, Centregreat Ltd, yn cynnal y gwaith dros gyfnod o tua 12 wythnos.
Bydd mynediad i gerddwyr a beicwyr dros y bont droed yn parhau drwy'r rhan fwyaf o'r gwaith. Bydd y contractwr yn gosod sgaffaldiau gyda llwybr cerdded. Bydd raid cau'r bont am ddiwrnod er mwyn gosod wyneb newydd a bydd raid i gerddwyr ddilyn llwybr ar hyd Heol Tyntyla. Byddwn ni'n rhannu manylion llawn maes o law.
Mae'r cynllun yma'n rhan o raglen gwerth £20.1 miliwn sydd wedi'i hariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru yn 2023/24, a hynny er mwyn atgyweirio difrod a gafodd ei achosi gan Storm Dennis.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: "Bydd ail gam y gwaith cynnal a chadw ar bont droed Parc Gelligaled, Ystrad, yn dechrau ar 15 Mai a bydd yn sicrhau bod y strwythur mewn cyflwr digon da i wynebu'r dyfodol er budd y gymuned. Daw hyn yn sgil gwaith atgyweirio brys a cham cyntaf y gwaith yma a ddechreuodd yn yr hydref y llynedd.
“Mae'n bwysig nodi bod modd cynnal yr holl waith sy'n weddill a sicrhau bod modd i gerddwyr ddefnyddio'r bont droed yn ddiogel, heblaw am un diwrnod pan fydd raid ei chau er mwyn gosod wyneb newydd. Fydd y cynllun yma ddim yn achosi llawer o darfu a bydd modd i drigolion a phobl sy'n ymweld â'r parc ddefnyddio'r mynediad arferol o Goedlan Pontrhondda.
"Mae'r cynllun yma'n rhan o raglen gwerth £20.1 miliwn ar gyfer 2023/24 wedi'i hariannu gan Lywodraeth Cymru, er mwyn cynnal gwaith atgyweirio ar ôl Storm Dennis. Mae atgyweirio a chynnal a chadw strwythurau yn parhau i fod yn faes buddsoddi sylweddol i'r Cyngor. Mae £4.45 miliwn wedi'i ddyrannu ar gyfer Strwythurau'r Priffyrdd a £780,000 ar gyfer Strwythurau Parciau, a hynny'n rhan o'n Rhaglen Gyfalaf ar gyfer y flwyddyn nesaf. Mae cynlluniau allweddol sy'n cael eu hariannu gan y cyllid yma'n cynnwys Pont Bodringallt yn Ystrad, Pont Imperial yn ardal Porth, Pont Lanelay yn Nhonysguboriau a Phont Graig Las yn Hendreforgan."
Wedi ei bostio ar 05/05/23