Mae'r Cyngor bellach wedi cwblhau'r holl waith wedi'i drefnu er mwyn atgyweirio pont droed Parc Gelligaled yn #Ystrad.
Mae'r cynllun wedi diogelu'r strwythur ar gyfer y dyfodol, a hynny er mwyn sicrhau bod modd defnyddio’r cyswllt lleol pwysig yma rhwng Coedlan Pontrhondda a Pharc Gelligaled.
Cafodd y bont droed ei difrodi yn ystod Storm Dennis ac roedd angen cynnal cyfres o waith atgyweirio brys y llynedd ar ôl dod o hyd i ddifrod sylweddol pellach.
Yn dilyn y gwaith hwnnw, cafodd cynllun cynnal a chadw ac atgyweirio ei drefnu yn 2023. Mae'r gwaith wedi cynnwys atgyweirio rhannau dur, paentio'r bont droed er mwyn ei diogelu, atgyweirio gwaith maen a gosod system ganllawiau newydd.
Mae cerrig bloc wedi cael eu gosod yn lle wal adain oedd wedi'i difrodi, a chafodd newidiadau eu gwneud i'r systemau draenio cyfagos – gan gynnwys gosod ffens newydd ar y llinell ddraenio a chael gwared ag unrhyw beth sy'n blocio'r systemau.
Mae'r gwaith terfynol i osod wyneb newydd ar y bont wedi'i gwblhau gan gontractwr y Cyngor yn ddiweddar.
Mae'r cynllun wedi cael ei gyflawni yn rhan o raglen fawr o waith atgyweirio yn dilyn Storm Dennis yn 2023/24, sy'n cael ei hariannu'n gyfan gwbl gan Lywodraeth Cymru.
Hoffai'r Cyngor ddiolch i'r gymuned am eu cydweithrediad parhaus yn ystod y gwaith atgyweirio brys y llynedd ac yn ystod y gwaith cynnal a chadw diweddar.
Wedi ei bostio ar 20/11/2023