Bydd y Pwyllgor Craffu - Gwasanaethau Cymuned yn edrych ar gynigion sy’n ymwneud â'r gwasanaethau oriau dydd presennol sy'n cael eu cynnig i bobl hŷn yn Nhrecynon a Thonyrefail – cyn i Aelodau’r Cabinet drafod y mater yn ffurfiol fis nesaf.
Ddydd Mawrth, 21 Tachwedd, bydd y Pwyllgor yn trafod y cynigion sydd wedi'u cyflwyno gyda'r nod o greu gwasanaeth mwy effeithlon, rhoi mynediad i gyfleusterau modern i ragor o bobl hŷn, a sicrhau bod adnoddau'r Cyngor yn cael eu defnyddio’n well. Fyddai’r newidiadau ddim yn lleihau’r gofal sy'n cael ei roi i bobl ag anghenion a aseswyd – ond bydden nhw'n hybu lles ac annibyniaeth. Byddai staff hefyd yn cael eu hadleoli i sicrhau parhad gofal.
Mae Gwasanaethau i Oedolion yn gweithredu tair canolfan oriau dydd ar gyfer pobl hŷn, gan ddarparu pryd o fwyd canol dydd, gweithgareddau cymdeithasol, a chludiant i bob canolfan ac oddi yno. Mae'r rhain yn cynnwys darpariaeth ar wahân yng Nghanolfan Oriau Dydd Tonyrefail, a Chanolfannau Oriau Dydd Trecynon a Chwmni Da sydd ill dau yn gweithredu o safle Cartref Gofal Tegfan yn Aberdâr.
Mae'r Cyngor hefyd wedi ymrwymo i foderneiddio opsiynau llety ar gyfer pobl hŷn trwy fuddsoddiad sylweddol mewn tai gofal ychwanegol. Mae'r cyfleusterau yma'n darparu cyfleoedd ychwanegol i integreiddio gwasanaethau oriau dydd - gyda defnyddwyr yn elwa o amgylchedd cymdeithasol gwell a chyfleusterau llawer gwell. Yn rhan o'r datblygiadau gofal ychwanegol yma, mae darpariaeth canolfan oriau dydd newydd yng Nghyfleuster Gofal Ychwanegol Cwrt yr Orsaf ym Mhontypridd, sydd heb agor eto.
Mae'r tair canolfan oriau dydd agored bresennol wedi parhau'n boblogaidd ymhlith defnyddwyr gwasanaethau, ond mae llai o bobl wedi bod yn eu defnyddio yn ddiweddar. Yn 2016, roedd 215 o bobl hŷn wedi’u cofrestru ar gyfer y gwasanaeth ac roedd 56 o bobl yn bresennol bob dydd ar gyfartaledd. Ar hyn o bryd, dim ond 119 o bobl sydd wedi'u cofrestru ac mae 32 o bobl yn bresennol bob dydd ar gyfartaledd.
Wedi iddyn nhw ystyried nifer o ffactorau, mae swyddogion wedi cynnig dau opsiwn i ddiwygio'r ddarpariaeth gwasanaethau oriau dydd bresennol. Mae'r cynigion yn cynnwys:
- Cyfuno Canolfan Oriau Dydd Trecynon a Chanolfan Oriau Dydd Cwmni Dda yn Nhrecynon erbyn mis Mawrth 2024, a darperir darpariaeth yn y dyfodol gan ganolfan Cwmni Dda.
- Trosglwyddo’r ddarpariaeth gwasanaethau oriau dydd o Ganolfan Oriau Dydd Tonyrefail fesul cam i Gyfleuster Gofal Ychwanegol Cwrt yr Orsaf ym Mhontypridd erbyn mis Mawrth 2024.
Bydd aelodau'r Pwyllgor Craffu - Gwasanaethau Cymuned yn trafod y cynigion yma'n llawn ddydd Mawrth, cyn gwneud argymhellion i'r Cabinet.
Meddai'r Cynghorydd Gareth Caple, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol: “Rydw i’n croesawu’r newyddion bod y Pwyllgor yn achub ar y cyfle i graffu ar y cynigion a gyflwynwyd gan swyddogion, a fydd yn llywio trafodaethau Aelodau’r Cabinet ymhellach pan fyddan nhw'n edrych ar yr opsiynau ym mis Rhagfyr 2023. Mae’n bwysig nodi bod y cynigion ddim yn golygu colli gwasanaethau a fydden nhw ddim yn newid lefel y gofal sy'n cael ei ddarparu i ddefnyddwyr.
“Rydyn ni'n gwybod bod ein canolfannau oriau dydd wedi profi gostyngiad yn nifer y defnyddwyr dros gyfnod hir – gyda phobl yn dewis modelau gofal eraill yn lle’r lleoliadau traddodiadol yma. Mae gostyngiad o 43% yn nifer y defnyddwyr sy’n defnyddio’r canolfannau bob dydd ar gyfartaledd ers 2016 yn sylweddol, ac mae swyddogion wedi dod i’r casgliad bod angen ailgynllunio’r gwasanaeth i ddiwallu anghenion pobl yn well a dod yn fwy effeithiol o ran cost.
“Byddai’r cynnig cyntaf yn cyfuno Canolfannau Oriau Dydd Trecynon a Chwmni Dda, sy’n cael eu rhedeg o fannau penodol ar wahân ar yr un safle. Mae Canolfan Cwmni Dda yn cael ei ffafrio ar gyfer y ddarpariaeth newydd arfaethedig, gan fod ganddi ystafell fawr rydd y mae modd ei defnyddio. Mae defnyddwyr y gwasanaeth hefyd yn cael mynediad i erddi synhwyraidd, cyfleoedd garddwriaethol, mannau mwy hygyrch, a mannau awyr agored.
“Byddai’r ail gynnig yn manteisio ar fuddsoddiad y Cyngor mewn gofal ychwanegol – sy’n darparu manteision ar gyfer gwasanaethau oriau dydd integredig o’u cymharu â chanolfannau oriau dydd ar wahân. Dydy’r ddarpariaeth ym Mhontypridd ddim wedi agor eto, ond bydd yn cynnig cyfleusterau megis bwyty, sinema a siop trin gwallt, a gwell amgylchedd cymdeithasol drwy weithgareddau ar y cyd â’r preswylwyr.
“Mae'n bwysig nodi y byddai cludiant i bob canolfan ac oddi yno ar gyfer pob defnyddiwr sydd wedi’i gofrestru ar gyfer y gwasanaeth yn parhau o dan y cynigion. Byddai teithiau’n cael eu hadolygu i sicrhau bod amseroedd teithio yn cael eu cadw mor isel â phosibl.
“Byddai unrhyw newidiadau, pe cytunir arnyn nhw, yn cael eu rheoli'n ofalus o ran defnyddwyr y gwasanaeth y byddai effaith arnyn nhw. Byddai swyddogion yn cysylltu â phawb sydd wedi cofrestru, a'u teuluoedd, i drafod y cynnig a darparu rhagor o gymorth. Byddai ymgynghoriad priodol hefyd yn cael ei gynnal gyda'r aelodau o staff y byddai hyn yn effeithio arnyn nhw.
“Rydw i’n edrych ymlaen at y drafodaeth ar y cynigion yma gan y Pwyllgor Craffu - Gwasanaethau Cymuned ddydd Mawrth, a fydd yn arwain at gyflwyno argymhellion i Aelodau’r Cabinet i lywio eu penderfyniad fis nesaf.”
Byddai'r cynigion, pe cytunir arnyn nhw, yn creu arbediad blynyddol o £140,000. Byddai hyn yn cael ei glustnodi a'i ailfuddsoddi yn ôl yng nghyllideb y Gwasanaethau i Oedolion, gan alluogi'r Cyngor i gynnal y gwasanaethau gofal a chymorth hanfodol yma.
Wedi ei bostio ar 20/11/2023