Mae bellach modd i drigolion ddweud eu dweud ar gynigion ar wahân sy'n ymwneud â Gofal Plant Oriau Dydd Cyn-ysgol a Chludiant o'r Cartref i'r Ysgol. Mae'r cynigion yma'n cael eu hystyried o ganlyniad i'r pwysau ariannol sydd ar y Cyngor.
Yn ddiweddar, mae'r Cabinet wedi trafod y ddau opsiwn mewn ymateb i'r bwlch o £35 miliwn rydyn ni'n ei ragweld ar gyfer y flwyddyn nesaf, a diffyg cyllid o £85.4 miliwn hyd at 2026/27. Bydd union sefyllfa ariannu'r Cyngor yn cael ei phennu gan lefel y cyllid a gaiff ei roi gan Lywodraeth y DU i Lywodraeth Cymru. Bydd hyn yn pennu'r Setliad Llywodraeth Leol dros dro mis Rhagfyr.
Ar ôl derbyn cymeradwyaeth y Cabinet ar 20 Tachwedd, bydd y Cyngor yn cynnal ymgynghoriad dros y chwe wythnos nesaf, gan roi cyfle i breswylwyr ddod o hyd i ragor o wybodaeth a dweud eu dweud ar y cynigion.
Dechreuodd yr ymgynghoriadau ar faterion Gofal Plant Cyn-ysgol a Chludiant o'r Cartref i'r Ysgol ddydd Llun, 27 Tachwedd a byddan nhw'n parhau nes dydd Llun, 8 Ionawr 2024. Dilynwch y dolenni isod i weld y tudalennau gwe'r ymgynghoriadau.
Mae bellach modd i drigolion ddefnyddio'r tudalennau yma i weld rhagor o fanylion am y cynigion yma, yn ogystal ag arolygon ar-lein er mwyn i bobl ddweud eu dweud. Mae'r tudalennau hefyd yn cynnwys manylion pwysig am sut mae modd i drigolion gymryd rhan trwy ddarparu cyfeiriad (Rhadbost) a rhif ffôn, nid dim ond ar-lein.
Yn ogystal â hynny, bydd tri chyfarfod wyneb yn wyneb i'r cyhoedd yn cael eu cynnal er mwyn i bobl alw heibio, gofyn cwestiynau a lleisio'u barn ar y cynigion. Byddwn ni'n rhannu rhagor o fanylion ar ôl i ni gadarnhau'r trefniadau.
Ynghyd ag elfen gyhoeddus yr ymgynghoriadau, bydd swyddogion hefyd yn cynnal gwaith ymgysylltu helaeth a rhanddeiliaid dros y chwe wythnos nesaf, gan gynnwys gweithio gydag ysgolion i dderbyn adborth ar y cynigion.
Mae crynodeb byr o'r cynigion wedi'i gynnwys ar waelod y diweddariad yma.
Meddai llefarydd ar ran Cyngor Rhondda Cynon Taf: "Mae'r Cabinet wedi cytuno y bydd y Cyngor yn cynnal ymgynghoriad ar y cynigion Gofal Plant Oriau Dydd Cyn-ysgol a Chludiant o'r Cartref i'r Ysgol, sydd wedi'u cynnig gan swyddogion mewn ymateb i ffeithiau oer y sefyllfa ariannol, sef bwlch o £85.4 miliwn yn ein cyllid dros y tair blynedd nesaf. Mae gan Aelodau Etholedig gyfrifoldeb i sicrhau bod cyllid cytbwys yn cael ei osod, ac yn sgil y pwysau ariannol enfawr sydd ar y sector cyhoeddus ledled y DU, does dim dewis arall gennym ni heblaw am ailystyried sut rydyn ni'n darparu rhai gwasanaethau.
"Fydd gan y cynnig sy'n ymwneud â Gofal Plant Oriau Dydd Cyn-ysgol ddim effaith ar fynediad disgyblion oed meithrin hyd at flwyddyn 6 i glybiau brecwast. Yn hytrach, bydd yn ffurfioli cyfnod o ofal plant sydd ar gael mewn rhai ysgolion cynradd ac arbenigol trwy ei droi yn sesiwn hanner awr cyn clybiau brecwast, a bydd £1 yn cael ei chodi bob dydd ar gyfer yr elfen yma yn unig. Byddai'r clwb brecwast yn dechrau ar ôl y sesiwn yma a chyn i'r diwrnod ysgol ddechrau. Bydd y clwb brecwast yn dal i fod am ddim ac ar gael i bawb. Mae pedwar Cyngor arall yng Nghymru yn codi ffi am wasanaeth tebyg, ac mae sawl Cyngor arall yn ystyried hynny.
"Mae costau yn ymwneud â'n gwasanaeth Cludiant o'r Cartref i'r ysgol wedi cynyddu llawer dros y blynyddoedd diweddaf, a bron wedi dyblu ers 2015. Mae ein darpariaeth bresennol yn mynd y tu hwnt i'r hyn sydd gan bob Cyngor arall yng Nghymru, ac mae'r cynnig yn cynnwys diweddaru ein polisi i fod yn unol â Mesur Teithio gan Ddysgwyr ar gyfer disgyblion ysgolion cynradd ac uwchradd prif ffrwd. Mae 18 o'r 22 o Gynghorau yng Nghymru yn gweithredu hyn yn barod. Tu hwnt i hyn, bydden ni'n cynnig cludiant yn ôl disgresiwn am ddim i 6,000 o ddisgyblion, a byddai hynny'n dal i fynd y tu hwnt i lefel statudol ar gyfer disgyblion ysgolion Cymraeg, arbennig, crefyddol ac ôl-16. Hefyd, byddai ein gwasanaeth wedi'i deilwra i ddisgyblion ADY yn parhau, a fydd cludiant ddim yn cael ei ddirymu mewn achosion lle nad oes modd cerdded i'r ysgol yn ddiogel.
"Yn dilyn penderfyniad y Cabinet yr wythnos ddiwethaf, mae'r ymgynghoriadau ar gyfer Gofal Plant Oriau Dydd Cyn-ysgol a Chludiant o'r Cartref i'r ysgol wedi dechrau, a byddan nhw'n rhedeg tan 8 Ionawr 2024. Rwy'n annog trigolion i ddarllen y cynigion a darparu adborth - byddwn ni'n ystyried yr adborth cyn gwneud penderfyniad terfynol mewn cyfarfod yn y dyfodol."
Cynigion Gofal Plant Oriau Dydd Cyn-ysgol
Mae'r cynigion yma'n cynnwys cyfnod o ofal plant yn ôl disgresiwn sydd ar gael mewn rhai ysgolion cynradd ac arbennig, fel arfer rhwng 8am a 8.30am, cyn iddyn nhw ddarparu clybiau brecwast am ddim. Byddai'r cynigion yn ffurfioli'r elfen ofal plant yn unig ac yn cyflwyno cost o £1 y dydd (£60 fesul tymor). Byddai'r holl incwm yma'n cael ei ail-fuddsoddi mewn ysgolion er mwyn lleihau pwysau ariannol.
Fyddai'r cynnig yma ddim yn effeithio ar fynediad disgyblion i glybiau brecwast ac i gael becwast iach. Byddai'r ddarpariaeth yma'n parhau i fod am ddim a byddai ar gael i bob disgybl rhwng y dosbarth meithrin a blwyddyn 6. Byddai'r hynny'n gweithredu yn y cyfnod o 30 munud cyn i'r ysgol ddechrau, fel arfer rhwng 8.30am a 9am.
Byddai plant sydd wedi'u pennu'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn cael eu heithrio o'r gost yma, ac mae'r ymgynghoriad yn ceisio adborth mewn perthynas â chonsesiynau posibl eraill, megis teuluoedd gyda mwy nag un plentyn.
Cynigion Darpariaeth Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol
Mae'r Cyngor yn cynnal y ddarpariaeth fwyaf o'i math yng Nghymru, gan gynnig cludiant am ddim yn ôl disgresiwn i 9,000 o ddisgyblion. Mae hyn y tu hwnt i'r lefel statudol a nodir ym Mesur Teithio gan Ddysgwyr Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, yng ngoleuni cynnydd enfawr i gost cynnal y gwasanaeth yma, bydd y Cabinet yn trafod cynnig i addasu polisi'r Cyngor er mwyn arbed £2.5 miliwn y flwyddyn.
Byddai'r opsiwn a ffefrir yn dod â'r ddarpariaeth ar gyfer disgyblion ysgolion cynradd prif ffrwd, ysgolion uwchradd prif ffrwd a cholegau yn unol â gofynion pellter statudol y Mesur Teithio gan Ddysgwyr. Byddai disgyblion ysgolion cynradd sy'n byw dwy filltir neu ymhellach o'u hysgol addas agosaf yn parhau i dderbyn cludiant am ddim (1.5 milltir yw'r ddarpariaeth bresennol). Byddai disgyblion ysgolion uwchradd a myfyrwyr colegau sy'n byw tair milltir neu ymhellach o'u hysgol/coleg addas agosaf yn parhau i dderbyn cludiant am ddim (2 filltir yw'r ddarpariaeth bresennol).
Byddai elfennau yn ôl disgresiwn sy'n caniatáu i ddisgyblion ddewis eu hysgol addas agosaf yn unol â dewis addysg cyfrwng Cymraeg neu Saesneg, neu ddewis yn unol ag enwad crefyddol, yn parhau. Byddai darparu cludiant cyn oedran addysg orfodol ac ôl-16 yn parhau, a byddai polisi presennol ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol yn parhau.
Wedi ei bostio ar 28/11/2023