Skip to main content

Rheolwr pêl-droed Cymru, Rob Page, yn ymweld â chae 3G newydd Parc y Darren

2023-11-08 Rob Page Cymru Football Foundation Visit-58

Llun gan Cymru Football Foundation

Roedden ni'n falch iawn o groesawu rheolwr pêl-droed dynion FA Wales, Rob Page, i achlysur Cymru Football Foundation ar gae 3G newydd Parc y Darren, Glynrhedynog!

Mae’r Cyngor bellach wedi agor 16 cae 3G pob tywydd i'r cyhoedd o ganlyniad i gyfraniad ariannol gan Cymru Football Foundation (CFF) mewn partneriaeth â Llywodraeth y DU.

Cafodd Rob Page ei fagu yng Nghwm Rhondda a daeth i'n helpu ni i agor cae lleol arall yng Nghae Baglan, Penyrenglyn y llynedd.

Cafodd yr achlysur yma'i threfnu gan CFF ac roedd yn wych gweld cymaint o bobl yn manteisio ar y cyfleuster ac yn mwynhau cymryd rhan mewn chwaraeon yn yr awyr agored.

Dyma ragor o fanylion am gae 3G Parc y Darren a sut i gadw lle yno.

Wedi ei bostio ar 10/11/2023