Bydd yr A4061 Ffordd Mynydd y Rhigos ar gau rhwng 9pm a 6am am 5 diwrnod rhwng 13 a 17 Tachwedd er mwyn cynnal gwaith trwsio a chynnal a chadw ar y rhwyd greigiau lle bu tân gwyllt mawr y llynedd.
Achosodd y tân ym mis Awst 2022 ddifrod sylweddol i ochr y bryn ac i rannau o'r rhwyd wifren, y rhwyd blastig a'r ffens. Ail-agorodd y ffordd ar ôl cynnal gwaith brys yno, ac mae goleuadau traffig dros dro wedi bod yno er mwyn dargyfeirio traffig i ffwrdd o'r mannau peryglus. Rydyn ni wrthi'n llunio cynllun er mwyn trwsio'r difrod ar y safle yn 2024/2025.
Mae'r ardal dan sylw ar ochr y Rhigos o'r ffordd. Cynhaliwyd arolwg manwl ar ran o ochr y bryn sydd tua 1,500 metr ym mis Mehefin 2023 er mwyn bwrw ymlaen â'r gwaith cynllunio. Rydyn ni'n gobeithio y bydd y gwaith yn cael ei gynnal dros yr haf flwyddyn nesaf.
Fodd bynnag, daeth nifer o ddiffygion eraill i'r amlwg yn yr arolwg ac mae'n rhaid eu trwsio nhw'n gynt. Bydd y gwaith trwsio'n digwydd o ddydd Llun, 13 Tachwedd hyd at ddydd Gwener, 17 Tachwedd (9pm-6am), yn dibynnu ar y tywydd. Rhaid cau'r ffordd gyfan er mwyn sicrhau diogelwch, felly rydyn ni wedi trefnu cynnal y gwaith dros nos er mwyn ceisio tarfu cyn lleied â phosibl. Bydd y gwaith yn dod i ben erbyn 6am ddydd Sadwrn, 18 Tachwedd.
Bydd y gwaith ar y safle'n cynnwys cael gwared ar gerrig sydd wedi cronni yn y rhwyd ar ôl syrthio o wyneb y graig. Mae'r rhwyd yn agos at fod yn llawn felly mae'n rhaid ei chlirio ar frys er diogelwch.
Yn ystod y cyfnod pan fydd y ffordd yn cau dros nos (13-17 Tachwedd, 9pm-6am) bydd arwyddion clir yn dangos llwybr amgen i fodurwyr ar hyd yr A4061, A465, A4059, A470, A4058 a'r A4061. Fydd dim modd sicrhau mynediad i gerbydau'r gwasanaethau brys, cerddwyr na beicwyr yn ystod y cyfnod cau.
Meddai llefarydd ar ran Cyngor Rhondda Cynon Taf : "Mae arolwg diweddar y Cyngor o ochr y bryn a gafodd ei heffeithio gan dân gwyllt y llynedd wedi bod yn fuddiol wrth lunio cynllun ar gyfer gwaith mawr flwyddyn nesaf er mwyn trwsio'r difrod. Nodwyd yn glir y gallai’r arolwg amlygu problemau y mae angen mynd i'r afael â nhw cyn y flwyddyn nesaf, a dyna’r achos gyda rhan o’r rhwyd greigiau sy'n agos at fod yn llawn creigiau mawr sydd wedi syrthio.
"Byddwn ni'n mynd i’r afael â’r problemau yma cyn gynted â phosibl yn ystod yr wythnos sy'n dechrau ddydd Llun, 13 Tachwedd - rydyn ni wedi trefnu cau'r ffordd gyfan dros nos er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl. Byddwn ni'n trwsio gweddill y difrod yn ystod 2024/25, a bydd y Cyngor yn darparu rhagor o wybodaeth am y gwaith hwnnw maes o law."
Wedi ei bostio ar 07/11/2023