Skip to main content

Disgyblion ysgol Glynrhedynog yn cwrdd â'r garfan sy'n adeiladu eu hysgol newydd

MicrosoftTeams-image - Copy

Mae cynnydd da wedi’i wneud yn y cyfnod cynnar o adeiladu ysgol newydd ar gyfer Ysgol Gynradd Gymraeg Llyn y Forwyn yng Nglynrhedynog – ac yn ddiweddar cafodd grŵp o ddisgyblion a staff eu gwahodd i’r safle newydd i gael golwg agosach.

Dechreuodd y contractwr Wynne Construction waith ar y safle ym mis Mehefin 2023, i ddarparu’r cyfleusterau newydd ar gyfer yr Ysgol Gynradd Gymraeg bresennol. Bydd yn cynnwys adeilad ysgol o'r radd flaenaf gyda lle i 270 o ddisgyblion, sy'n cynnwys 30 o leoedd Cylch Meithrin, Ardal Gemau Aml-ddefnydd, maes chwarae glaswellt, mannau chwarae yn yr awyr agored, maes parcio staff a maes parcio gollwng a chasglu. Bydd hefyd yn cynnwys mynediad safle pwrpasol ar gyfer pobl sy'n teithio i'r ysgol trwy ddulliau heb gerbyd – er enghraifft, cerdded neu feicio.

Gyda chyfleoedd cyfyngedig i wella safle presennol yr ysgol, mae'r ysgol newydd yn cael ei hadeiladu ychydig i lawr y ffordd ar hen safle ffatri Chubb. Mae’r buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd yn cael ei ddarparu gyda chyfraniad o 65% gan Raglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Llywodraeth Cymru.

Cafodd grŵp o staff a disgyblion Ysgol Gynradd Gymraeg Llyn y Forwyn eu gwahodd i'r safle ddydd Mawrth, 7 Tachwedd. Llofnododd pob un ohonyn nhw un o'r paneli inswleiddio strwythurol sy'n cael eu defnyddio i adeiladu'r ysgol, i ddathlu'r cynnydd parhaus. Mae’r gwaith sydd wedi mynd rhagddo ers mis Mehefin wedi cynnwys clirio a lefelu’r safle, gosod sylfeini, adeiladu’r llawr slab, a chwblhau gwaith draenio mewnol a phibellau gwasanaeth – tra bod gwaith draenio allanol wedi dechrau ac yn mynd rhagddo’n dda.

Mae gosod Paneli Inswleiddio Strwythurol hefyd wedi dechrau – dyma’r cyntaf o ddatblygiadau ysgolion newydd y Cyngor i ddefnyddio’r dull adeiladu cynaliadwy yma. Mae gan y paneli lefel uchel o inswleiddio a gallan nhw leihau'n sylweddol yr ynni a ddefnyddir ar gyfer gwresogi ac oeri, tra maen nhw hefyd yn cynhyrchu llai o garbon yn ystod y broses weithgynhyrchu a gosod. Caiff y paneli eu mesur a'u gwneud oddi ar y safle fel eu bod yn lleihau gwastraff, tra bod eu cydosod yn gyflymach yn lleihau amser adeiladu cyffredinol.

Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg, Cyfranogiad Pobl Ifainc a'r Gymraeg: "Mae'n wych gweld y cynnydd sy'n cael ei wneud i adeiladu safle ysgol gwbl newydd ar gyfer Ysgol Gynradd Gymraeg Llyn y Forwyn, a fydd hefyd â chyfleusterau i gymuned ehangach Glynrhedynog eu defnyddio. Bydd disgyblion a staff lleol yn elwa o’r cyfleuster deniadol o’r radd flaenaf yma o 2024 – a chafodd grŵp o’r ysgol gyfle cynnar i weld y safle datblygu pan ymwelon nhw ddydd Mawrth, ar ôl cael gwahoddiad gan gontractwr y Cyngor, Wynne Construction.

“Rydyn ni'n parhau i groesawu cymorth ariannol sylweddol gan Lywodraeth Cymru i ddarparu cyfleusterau addysg modern ledled y Fwrdeistref Sirol – gyda buddsoddiad enfawr yn parhau. Mae’r datblygiad yng Nglynrhedynog yn mynd rhagddo ochr yn ochr ag adeiladau ysgol newydd yn Llantrisant, Pentre’r Eglwys a Phont-y-clun, yn ogystal â buddsoddiad gwerth £75.6 miliwn ar draws Pontypridd Fwyaf a fydd yn darparu cyfleusterau newydd yn y Ddraenen Wen, Cilfynydd, Beddau a Rhydyfelen. Mae adeilad ysgol newydd arall hefyd wedi’i gadarnhau ar gyfer Glyn-coch, ac yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd.

“Mae’r ysgol newydd yng Nglynrhedynog yn anelu at fod yn Garbon sero-net, gan gyfrannu at ein nodau Newid Hinsawdd ehangach. Bydd hefyd yn cynnwys sawl pwynt gwefru cerbydau trydan, a mannau cadw beiciau i ddisgyblion er mwyn hyrwyddo Teithio Llesol. Bydd yr ysgol yn cynyddu capasiti cyfrwng Cymraeg cynradd yr ardal, sy’n cydymffurfio â deilliannau Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg y Cyngor.

“Mae’n amlwg o’r lluniau cynnydd yng Nglynrhedynog fod gan y safle newydd lawer o fanteision dros yr ysgol bresennol. Yn benodol, nid yw'r adeilad modern a defnydd eang o fannau awyr agored yn rhywbeth y mae modd i'r ysgol bresennol ei chynnig – tra bod mwy o le hefyd ar gyfer mannau parcio a mannau gollwng disgyblion. Bydd yr ysgol yn ychwanegiad gwych i’r gymuned am genedlaethau i ddod, ac rwy’n edrych ymlaen at ymweld â’r safle datblygu fy hun yn fuan iawn.”

Wedi ei bostio ar 15/11/2023