Mae un o Hebryngwyr Croesfan Ysgol y Cyngor wedi ymddeol ar ôl 35 mlynedd o wasanaeth - y cyfnod hiraf yn hanes y Cyngor. Mae Marion wedi treulio bron hanner ei hoes yn helpu disgyblion a theuluoedd ym mhentref Beddau i gyrraedd a gadael yr ysgol yn ddiogel bob dydd.
Mae Marion Walker, sy'n 75 oed, wedi bod yn gweithio yn y gymuned ers 1989, gan helpu disgyblion Ysgol Gynradd Llwyn-crwn, Ysgol Gynradd Gymraeg Castellau ac Ysgol Gyfun Bryncelynnog i gyrraedd a gadael yr ysgol yn ddiogel. Gweithiodd Marion ei sifft olaf ddydd Gwener 27 Hydref, ar ddechrau'r gwyliau hanner tymor.
Cafodd Marion ei chyflogi'n gyntaf gan hen Gyngor Sir Morgannwg Ganol, cyn symud i Gyngor Rhondda Cynon Taf yn y 1990au, pan gafodd y Cyngor ei sefydlu. Dechreuodd ei gyrfa'n gweithio ar waelod Heol Llwyncrwn, cyn symud i'w safle cyfredol ar Ffordd Llantrisant.
Yn ddiweddar, enillodd Marion wobr gan fudiad Diogelwch Ffyrdd Cymru i gydnabod ei blynyddoedd o wasanaeth a nodi mai hi yw Hebryngwr Croesfan Ysgol hiraf y Fwrdeistref Sirol. Roedd hyn yn cynnwys gwobr o £100.
Wrth siarad am ei hymddeoliad a’i diwrnod olaf yn y swydd, dywedodd: “Rwy'n credu mai'r wythnos nesaf, pan fydd yr ysgolion yn ailagor, y bydda i'n sylwi ar y newid. Byddaf yn deffro ac yn cofio bod dim angen i mi gael fy hun yn barod i'r gwaith! 'Dwi wedi dwlu ar y gwaith a dweud y gwir, doeddwn i ddim eisiau rhoi'r gorau iddi, ond rydw i wedi bod yn cael ychydig o ddoluriau a phoenau, ac mae'r tywydd garw ar y gweill, felly nawr yw'r amser iawn i ymddeol.
“Doeddwn i ddim wedi cynllunio unrhyw beth i nodi fy niwrnod olaf – roeddwn i'n mynd i orffen a dyna fyddai hi. Ond ces i alwad, a dwi'n credu bod staff a disgyblion yr ysgol eisiau dangos eu gwerthfawrogiad am y 35 mlynedd o waith. Es i mewn i Ysgol Llwyn-crwn ac fe wnaethon nhw roi blodau, carden a bocs o siocledi i mi, ac anfonodd yr ysgol gyfun dusw o flodau hefyd.”
Bydd Marion yn treulio'i hamser hamdden haeddiannol yn gwneud pethau y mae hi'n eu mwynhau, gan gynnwys gweithio yn ei gardd pan fydd y tywydd yn braf, yn ogystal â darllen a gwylio rhaglenni cwis ar y teledu. Ychwanegodd mai un o'r prif resymau pam ei bod wedi mwynhau'r gwaith i'r fath raddau oedd oherwydd ei bod hi yn yr awyr agored. Mae hi wedi mwynhau cerdded ac archwilio yn yr awyr agored ers pan oedd hi'n blentyn.
“Rwy’n hoffi bod tu allan yn yr awyr iach, mae'n gwneud lles i mi" meddai Marion. “Roeddwn i’n gweithio pan agorodd yr ysgolion yn ystod pandemig Covid, a bues i'n lwcus na wnes i ddal y feirws. Rydw i'n credu bod gweithio yn yr awyr agored wedi helpu. Rydw i bob amser wedi meddwl bod gweithio yn yr awyr agored yn fy helpu i wella o salwch fel annwyd yn llawer cyflymach - yn hytrach na bod dan do yn y gwres.
“Cefais fy magu ym mhentref Sain Nicolas, a bûm yn byw yno am 27 mlynedd cyn symud i'r ardal yma. Roedd gyda ni ardd enfawr yr oeddwn i'n dwlu chwarae ynddi, ac roedden ni'n mynd am dro ar hyd y caeau a'r lonydd hyd at Groes Cwrlwys yn aml. Roedd hi fel bod yng nghefn gwlad bryd hynny. Roeddwn i'n arfer crwydro am oriau maith, a dyna pam fy mod i'n gallu dygymod yn dda â gweithio yn yr awyr agored cyhyd.
“Dydy’r swydd ddim wedi newid gormod, heblaw bod y ffordd wedi prysuro. Mae wedi bod yn rhan enfawr o fy mywyd – rwy’n 75 oed nawr ac wedi bod yn gwneud hyn ers dros 34 mlynedd.”
Meddai Stephen Williams, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Priffyrdd, Gofal y Strydoedd a Thrafnidiaeth Cyngor Rhondda Cynon Taf,: “Llongyfarchiadau i Marion am wasanaethu ei chymuned ym mhentref Beddau gyda'r fath ymroddiad am 35 mlynedd. Mae hi wedi gweithio i'r Uned Diogelwch y Ffyrdd am gyfnod hirach nag unrhyw un arall. Mae gwaith Marion o fewn ein Carfan Diogelwch y Ffyrdd wedi chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau bod pobl ifainc a'u teuluoedd yn cadw'n ddiogel wrth deithio i'r ysgol ac adref bob dydd.
“Mae’n rhaid bod Marion wedi helpu miloedd o bobl ers dechrau yn ei swydd gyda’r hen Gyngor Sir yn 1989. Mae hi wedi dangos ymrwymiad sylweddol bob dydd ac wedi dod i weithio ym mhob tywydd. Bydd yr ysgolion lleol yn ardal Beddau yn gweld eisiau Marion yn fawr, ac rydyn ni'n dymuno ymddeoliad hapus iawn iddi hi."
Mae Gwasanaeth Hebryngwyr Croesfan Ysgol yn darparu'r gwasanaeth allweddol o sicrhau diogelwch oedolion a phlant ar eu ffordd i'r ysgol ac yn ôl adref. Mae'r gwasanaeth yma'n rhan ymroddgar o Garfan Diogelwch y Ffyrdd y Cyngor, a hoffai pawb yn y garfan ddymuno ymddeoliad hapus i Marion.
Wedi ei bostio ar 10/11/23