Mae gwaith i ailosod pont Tyn-y-bryn wedi mynd rhagddo'n llwyddiannus, a bydd y bont newydd yn cael ei chodi a'i gosod nos Wener, yn amodol ar y tywydd. Bydd rhaid cau'r A4119 rhwng cylchfannau Tretomos a Thonyrefail dros nos er mwyn gwneud hynny.
Ym mis Mehefin, dechreuodd y Cyngor ar waith pwysig i ailosod pont droed Tyn-y-bryn yn Nhonyrefail yn rhan o gynllun ehangach, sydd hefyd yn cynnwys gwaith adlinio sianel yr afon gyfagos a gwaith trwsio'r glannau. Diben y cynllun yw trwsio difrod sgwrfa sylweddol ar yr afon Elái yn y lleoliad yma, gwella llif y dŵr, a lleihau'r perygl o ragor o ddifrod yno yn y dyfodol.
Mae'r bont droed yn darparu cyswllt allweddol ar draws yr afon gan ei bod yn cynnal llwybr lleol i gerddwyr a beicwyr rhwng Heol Tyn-y-bryn a thanffordd yr A4119. Mae'r strwythur wedi'i ddymchwel a bydd pont newydd gydag adliniad gwell yn cael ei gosod yno yn ei le. Bydd gwaith hefyd yn cael ei gynnal ar y llwybr cerdded a’r goleuadau stryd yn rhan o'r prif gynllun.
Yn ddiweddar, mae gwaith diogelu'r cored carreg bloc wedi'i gwblhau ar ddwy ochr y cwlfer sydd o dan yr A4119. Mae'r ategweithiau ar gyfer y bont droed newydd wedi'u hadeiladu yn barod ar gyfer codi'r bont newydd a'i gosod.
Bydd y gwaith yma'n cael ei gynnal nos Wener a bore Sadwrn, yn amodol ar y tywydd. Bydd rhaid cau'r A4119 rhwng cylchfannau Tretomos a Thonyrefail rhwng 8pm ddydd Gwener 17 Tachwedd, a 6am ddydd Sadwrn 18 Tachwedd.
Rhaid cau'r ffordd er mwyn gosod craen ar y ffordd i godi’r bont newydd a'i gosod. Bydd arwyddion clir yn dangos llwybr amgen i fodurwyr ar hyd yr A4093 Parc Eirin, y B4278 Heol Gilfach, Ffordd Penrhiwfer, cylchfan Trewiliam a'r A4119. Fydd dim mynediad ar gyfer cerbydau’r gwasanaethau brys.
Mae'r contractwr, Balfour Beatty, wedi gosod arwyddion rhybudd ymlaen llaw ar yr A4119, ac wedi dosbarthu llythyron i drigolion lleol yn esbonio'r gwaith ac yn darparu manylion cyswllt ar gyfer y garfan sy'n gweithio ar y safle.
Ar ôl gosod y bont droed newydd, bydd y gwaith sy'n weddill yn cynnwys adeiladu llwybrau cerdded newydd, ailosod goleuadau stryd, cwblhau gwaith trwsio concrid ar y tanlwybr a gwaith tirlunio. Bydd y Cyngor yn cyhoeddi rhagor o wybodaeth unwaith y bydd y cynllun yma bron wedi'i gwblhau. Nodwch - bydd trefniadau’r bysiau gwennol yn parhau trwy gydol y cynllun.
Mae'r gwaith ailosod pont droed Tyn-y-bryn wedi'i gynnwys yn rhan o raglen waith 2023/24 y Cyngor yn sgil Storm Dennis. Mae'r rhaglen wedi'i hariannu gan Lywodraeth Cymru. Ymysg y cynlluniau allweddol sy'n digwydd eleni mae ailosod pont Castle Inn yn Nhrefforest, a chynllun trwsio'r Bont Wen ar Heol Berw, Pontypridd.
Wedi ei bostio ar 15/11/2023