Mae'n bleser gan Gyngor Rhondda Cynon Taf gyhoeddi bod Partneriaeth Bwyd RhCT wedi ennill Gwobr Efydd genedlaethol fawreddog Lleoedd Bwyd Cynaliadwy. Mae'r wobr yn cydnabod y gwaith partneriaeth cymunedol rhagorol sy'n cael ei wneud ledled y Fwrdeistref Sirol i hyrwyddo bwyd iach, cynaliadwy a lleol. Yn ogystal â hyn, mae'r wobr yn tynnu sylw at ymrwymiad y Cyngor i fynd i'r afael â heriau cymdeithasol sylweddol megis tlodi bwyd, salwch sy'n gysylltiedig â deiet, dirywiad ffermydd teuluol, a cholli manwerthwyr bwyd annibynnol.
Meddai'r Cynghorydd Bob Harris, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau: “Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn falch o dderbyn Gwobr Efydd Lleoedd Bwyd Cynaliadwy ar ran Partneriaeth Bwyd RhCT am ei gwaith rhagorol yn hyrwyddo arferion bwyd cynaliadwy yn ein cymuned.
“Mae ymrwymiad Carfan Datblygu’r Gymuned i hyrwyddo bwyd iach a chynaliadwy wedi cyfrannu at newid cymdeithasol cadarnhaol ledled y Fwrdeistref Sirol tuag at ddyfodol iachach.
“Rydw i’n llongyfarch y garfan, a’r bartneriaeth, am gael eu cydnabod gyda’r wobr haeddiannol yma.”
Mae'r Wobr Lleoedd Bwyd Cynaliadwy yma'n wobr genedlaethol sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac yn ddathliad o sefydliadau sy'n mabwysiadu ymagwedd integredig ar y cyd at fwyd cynaliadwy ac iach. Mae enillwyr y wobr wedi dangos gweithgarwch ac effaith ar draws eu system fwyd i greu ‘Mudiad Bwyd Da’ lleol. Mae'r Wobr Efydd yn gydnabyddiaeth o waith rhagorol y bartneriaeth bwyd a rhanddeiliaid ledled Rhondda Cynon Taf.
Bu trawsnewid rhyfeddol o ganlyniad i ymdrechion Cydlynydd Bwyd Cynaliadwy’r Cyngor, Carfan Datblygu’r Gymuned, a’r ystod eang o bartneriaid cymunedol. Mae pob un ohonyn nhw wedi chwarae rhan allweddol wrth gysylltu rhanddeiliaid yn llwyddiannus, gan gychwyn prosiectau bwyd cymunedol, ac maen nhw wedi parhau i ddatblygu partneriaeth bwyd strategol a gweithredol ar gyfer RhCT.
Mae Grantiau Cymunedol sy'n cael eu rheoli gan garfan Datblygu’r Gymuned, megis y Gronfa Cymorth Bwyd, a gefnogir gan fudiad Lleoedd Bwyd Cynaliadwy a Trivallis, ynghyd â Chronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU a Grant Cymunedol Cyngor Rhondda Cynon Taf, wedi chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi sefydliadau cymunedol i gyflawni prosiectau sy’n ymwneud â bwyd yn lleol.
Roedd adborth asesiad Lleoedd Bwyd Cynaliadwy yn cynnwys meysydd o arfer rhagorol o ran sefydlu mudiad bwyd da, gan gynnwys cysylltu â’r gymuned a mynediad i asedau, yn ogystal â gwaith gyda thyfwyr, tir, a phrynu ar y cyd. Canmolwyd y cais hefyd am ei allu i bwysleisio taith gadarnhaol tuag at integreiddio systemau bwyd mewn ardal y mae tlodi ac anghydraddoldebau iechyd yn effeithio’n fawr arni.
Mae'r Cyngor yn bwriadu parhau â'r gwaith hanfodol yma gyda'r uchelgais o gyflawni'r Wobr Arian cyn mis Mawrth 2025, a'r Wobr Aur ymhen amser. Bydd y ddwy ohonyn nhw'n parhau i wneud cyfraniadau sylweddol i ymrwymiadau o ran y Newid yn yr Hinsawdd a Chynllun Corfforaethol y Cyngor.
Ar hyn o bryd dim ond tri awdurdod lleol yng Nghymru sydd wedi derbyn y Wobr Lleoedd Bwyd Cynaliadwy ers ei sefydlu yn 2015 ac mae Rhondda Cynon Taf yn un ohonyn nhw.
Dywedodd Leon Ballin, Rheolwr Rhaglen Lleoedd Bwyd Cynaliadwy: “Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf a Phartneriaeth Bwyd RhCT wedi dangos yr hyn y mae modd ei gyflawni pan fydd pobl greadigol ac ymroddedig yn cydweithio i wneud bwyd iach a chynaliadwy yn nodwedd ddiffiniol o ble maen nhw'n byw.
“Er bod llawer i’w wneud o hyd a llawer o heriau i’w goresgyn, mae RhCT wedi helpu i osod meincnod i aelodau eraill o Rwydwaith Lleoedd Bwyd Cynaliadwy y DU ei ddilyn.
“Rydyn ni'n edrych ymlaen at weithio gyda nhw dros y misoedd a’r blynyddoedd i ddod i barhau i drawsnewid diwylliant bwyd a system fwyd RhCT er gwell.”
Mae rhaglen Lleoedd Bwyd Cynaliadwy yn bartneriaeth rhwng y Soil Association, Food Matters a Sustain. Fe’i hariennir gan Sefydliad Esmée Fairbairn a Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ac mae’n cefnogi lleoedd i drawsnewid diwylliant bwyd.
Mae’r rhaglen Lleoedd Bwyd Cynaliadwy yn gweithio ar draws chwe maes allweddol:
- Mabwysiadu ymagwedd strategol a chydweithredol at lywodraethu a gweithredu mewn perthynas â bwyd da
- Codi ymwybyddiaeth y cyhoedd, dinasyddiaeth fwyd weithredol a mudiad bwyd da lleol
- Mynd i'r afael â thlodi bwyd, afiechyd sy'n gysylltiedig â deiet a mynediad at fwyd iach fforddiadwy
- Creu economi bwyd cynaliadwy bywiog, ffyniannus ac amrywiol
- Trawsnewid arlwyo a chaffael ac adfywio cadwyni cyflenwi lleol
- Mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a byd natur drwy fwyd a ffermio cynaliadwy a rhoi diwedd ar wastraff bwyd.
Am ragor o wybodaeth am ‘Lleoedd Bwyd Cynaliadwy’, ewch i https://www.sustainablefoodplaces.org/ neu @FoodPlacesUK @sustainablefoodplaces #lleoeddbwydcynaliadwy #sustainablefoodplaces
Wedi ei bostio ar 21/11/2023