Skip to main content

Cynllun sylweddol i atgyweirio wal yr afon yn Nhonypandy wedi'i gwblhau

Tonypandy Wall_ Complete - Copy

Mae'r Cyngor wedi cwblhau cynllun atgyweirio sylweddol ar wal afon sy'n cynnal yr arglawdd oddi ar yr A4058, ger Cylchfan Heol Tylacelyn, Tonypandy.

Cafodd mesurau traffig tua'r de o'r gylchfan eu rhoi ar waith er mwyn sicrhau mynediad at y wal o dan yr heol, ac mae'r rhain bellach wedi dod i ben.

Mae'r cynllun gorffenedig wedi cynnwys tynnu coed a llystyfiant oddi ar y wal, clirio darn 150-metr o hyd o'r rhan o'r wal sydd wedi cwympo, a gosod wal gynnal blocfaen yn ei lle.

Mae'r gwaith hefyd wedi cynnwys ailadeiladu rhannau lleol o'r wal, gwaith ailbwyntio, gosod pyst pren a ffensys rheilen, ac ailosod tua 60 metr o rwystr wrth ymyl yr A4058.

Bydd carfan Parciau'r Cyngor yn ailymweld â'r safle cyn bo hir i ailblannu'r llain ger y ffordd ar ôl i ni ei defnyddio i gael mynediad i'r safle.

Dechreuodd y gwaith ym mis Mehefin 2023 a chafodd ei ariannu o fewn rhaglen fawr o gynlluniau atgyweirio difrod Storm Dennis yn 2024/25, a ariannwyd yn gyfan gwbl gan Lywodraeth Cymru.

Diolch i drigolion a defnyddwyr y ffyrdd am eich cydweithrediad wrth i ni atgyweirio'r wal afon, sydd wedi diogelu'r strwythur yma ar gyfer y dyfodol.

Wedi ei bostio ar 16/11/23